Manylion y penderfyniad
Capital Programme Monitoring 2022/23 (Outturn)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the Outturn Capital Programme
information for 2022/23
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2022/23 ynghyd â newidiadau i'r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter olaf.
Bu gostyngiad net yng nghyllideb y Rhaglen Gyfalaf (o £12.735 miliwn) yn ystod y chwarter diwethaf a oedd yn cynnwys:
- Gostyngiad cyllideb net yn y rhaglen (o £6.382 miliwn) (Gweler Tabl 2 - Cronfa’r Cyngor
(£4.243 miliwn), Y Gronfa Refeniw Tai (£2.139 miliwn);
- Swm i’w gario ymlaen i 2023/24, wedi’i gymeradwyo ym mis 9 o (£3.060 miliwn) wedi ei wrthbwyso’n rhannol
drwy wrthdroi’r swm a gaiff ei Gario Ymlaen o £0.245 miliwn;
- Newid grant Cynnal a Chadw Ysgolion (£2.524 miliwn) a grant Anghenion Dysgu Ychwanegol
(£1.001 miliwn) (i gyd o Gronfa’r Cyngor);
- Arbedion a ddynodwyd yn y sefyllfa derfynol (o £0.013 miliwn) (Cronfa’r Cyngor)
Y gwir wariant ar gyfer y flwyddyn oedd £55.013 miliwn.
Gwarged gyllido’r sefyllfa derfynol o Raglen Gyfalaf 2024/25 oedd £4.313 miliwn. Cafodd Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 ei chymeradwyo ar 24 Ionawr 2023 gan gyfrif £3.376 miliwn o arian dros ben y flwyddyn bresennol tuag at y rhaglen a gadael gwarged a ragamcanir o £0.365 miliwn. Fe gafodd y sefyllfa derfynolar gyfer 2022/23 yr effaith o warged sefyllfa gyllido agoriadol diwygiedig o £1.302 miliwn, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffrydiau cyllido eraill.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad wedi ei ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni wnaed unrhyw sylwadau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau cario ymlaen; a
(c) Chymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 10/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet
Dogfennau Atodol: