Manylion y penderfyniad

School Meals Service

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide information on changes to the delivery model, the ongoing focus on quality delivery in schools and the pilot being developed with Well Fed.

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno'r adroddiad esboniodd Mr Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Arlwyo a Glanhau NEWydd fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar brydau ysgol am ddim i bawb.  Er bod hwn yn gam cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru (LlC), fel busnes roedd wedi amlygu rhai risgiau gan ei fod yn gwneud y cwmni yn fwy o darged i gwmnïau sector preifat.  Roedd ysgolion yn gwneud y penderfyniadau hyn eu hunain, felly blaenoriaeth NEWydd oedd darparu gwasanaeth da i gadw’r busnes.

 

Dechreuodd y broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim ym mis Medi 2022 gyda disgyblion oed derbyn ac yna gyda blynyddoedd 1 a 2 ar ôl Pasg 2023. Roedd y gwasanaeth ar y trywydd iawn i'w gyflwyno i flynyddoedd 3 a 4 ym mis Medi 2023 gyda blynyddoedd 5 a 6 yn gymwys o fis Ebrill 2024 ymlaen.  Roedd cryn dipyn o waith wedi'i wneud mewn ysgolion a oedd yn cynnwys gwelliannau i isadeiledd, offer, adnoddau a sicrhau bod prosesau ar waith.  Sefydlwyd gr?p prosiect trawsbleidiol i oruchwylio hyn a oedd yn cynnwys y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cynrychioli NEWydd a chydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor i sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd. Cynrychiolodd y Gr?p y Cyngor yn genedlaethol hefyd mewn cyfarfodydd a arweiniwyd gan LlC neu Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i drafod cyllid ac arlwyo.

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at adran 2 o'r adroddiad a oedd yn cynnwys manylion am y gwelliannau i'r isadeiledd gyda gwybodaeth a ddarparwyd ar y gegin ganolog a grëwyd 2 flynedd yn ôl a'r gwaith a wnaed yn dilyn ei gyflwyno gyda mwy o brydau ysgol yn cael eu darparu. Roedd pob pryd yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru ac mae gwaith ar y gweill i ailgyflwyno, er enghraifft, mwy o ryseitiau cartref a phobi ar y safle tebyg i’r hyn a ddarparwyd cyn y pandemig.  Rhoddwyd gwybodaeth am y bartneriaeth beilot gyda Well Fed a disgwylir y canlyniadau'n fuan.

 

Mewn perthynas ag adnoddau, cadarnhawyd bod y cyllid refeniw gan LlC yn seiliedig ar gyfradd uned brydau o £2.90 y pryd, gyda llawer o Gynghorau gan gynnwys Sir y Fflint yn nodi nad oedd hyn yn talu am y gost o'i ddosbarthu.  Roedd Gr?p wedi'i sefydlu i adolygu gwir gost pryd ysgol gan gynnwys yr holl gostau nid y bwyd yn unig gyda'r Rheolwr Gyfarwyddwr yn cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfod ar 17 Gorffennaf.  Gan gyfeirio at Gyllid Cyfalaf roedd LlC wedi dyfarnu £3m o gyllid cyfalaf i'r awdurdod a oedd wedi galluogi gwelliannau i isadeiledd, gwelliannau i gyflenwadau nwy a thrydan i geginau, gwaith awyru a phrynu offer. Roedd hefyd wedi galluogi mwy o gapasiti coginio o fewn y ceginau, a diolchodd i'r ysgolion am eu cefnogaeth yn ystod y gwaith hwn.  Roedd nifer fach o ysgolion yn aros i’r gwaith isadeiledd ddechrau a chynlluniwyd amserlen waith gyda thîm eiddo’r Cyngor yn ystod tymor yr haf i sicrhau ei fod wedi’i gwblhau erbyn mis Medi.  Rhoddwyd trosolwg o'r trefniadau eistedd gwell, y goleuadau a'r llestri.

 

Gan gyfeirio at risgiau dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei bod yn bwysig bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gwneud cais ac amlinellodd sut yr oedd hyn yn cael ei gyfeirio ar draws y cyngor.  Parhaodd yr ymgynghori â rhieni ac ysgolion gydag arolwg arall yn cael ei gynnal ym mis Medi i sicrhau bod unrhyw faterion ar lefel ysgol yn cael eu bwydo'n ôl.  Roedd yn llwyddiannus ar hyn o bryd gyda chyfraddau manteisio ar 70% o'r rhai cymwys yn cyd-fynd â thargedau LlC, ond roedd y gwasanaeth am wella'r ffigwr hwn i gyrraedd cymaint o ddisgyblion â phosibl.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie ar effeithlonrwydd ynni'r poptai trydan newydd, nid oedd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn ymwybodol eu bod yn fwy costus i'w defnyddio.  Roedd offer trydan yn cael ei ddisodli gan offer nwy gan fod hyn yn helpu gyda'r awyru gan fod y rheolau ar gyfer offer nwy yn llymach. Roedd peth o'r arian Cyfalaf wedi'i ddefnyddio mewn ysgolion i gynyddu effeithlonrwydd ynni yn yr ysgol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau ar ddewisiadau bwydlenni a chyllid, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod dewis mawr o brydau ond pe bai ansawdd y prif gynnig yn cynyddu, byddai'r dewis o brif gynnig poeth cig a llysieuol ochr yn ochr â hyn yn cael ei leihau. Ar hyn o bryd mae'r ddau brif gynnig yn cael eu darparu ynghyd â thaten drwy'i chroen gyda gwahanol lenwadau, pot pasta gyda gwahanol lenwadau a brechdanau gyda gwahanol lenwadau.  Cynigiwyd lleihau hyn i gwrdd neu ddod o fewn yr amlen gyllido sydd ar gael a fyddai'n lleihau hyn i bedair eitem, y ddau brif ddewis poeth a phasta neu datws trwy'u crwyn a brechdanau.  Dywedodd mai'r pryd mwyaf maethlon y gallai plentyn ei gael bob dydd oedd cinio ysgol a phe bai'r cynnig poeth yn cael ei gymryd bob dydd, yna roedd hwn yn sicr o fod y mwyaf maethlon.

 

O fis Medi, byddai pob ysgol yn cael bariau salad ffres i gefnogi pob pryd gyda ffrwythau ffres a bariau iogwrt ar gyfer pwdin.  Roedd hyn wedi'i dreialu'n ddiweddar mewn rhai ysgolion ac roedd y plant wedi mwynhau'n fawr, yn enwedig gan eu bod yn gallu gweini eu hunain gyda llawer o blant yn rhoi cynnig ar fwydydd nad oeddent wedi rhoi cynnig arnynt o'r blaen.

 

Cydnabu'r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) efallai nad yw plant iau mor hyderus i roi cynnig ar amrywiaeth wahanol o fwydydd.  Cyhoeddwyd y bwydlenni trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, felly roedd plant a theuluoedd yn gallu edrych ar y dewisiadau.  Roedd hwn yn gyfle gwych a ariannwyd drwy'r Cytundeb Cydweithredu ac roedd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cynrychioli'r Cyngor ar y gr?p a oedd yn edrych ar gyllid a'r gobaith oedd y byddai LlC mewn sefyllfa i gynyddu'r cyllid fesul pryd i gyd-fynd â’r gyfer y costau cynyddol.  Roedd y pwyslais ar ansawdd er mwyn sicrhau bod plant yn cael pryd o fwyd iach iawn a gofynnodd i'r Aelodau gefnogi'r portffolio drwy annog teuluoedd yn eu wardiau i wneud cais am brydau ysgol am ddim.

 

            Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ynghylch ansawdd prydau ysgol, cytunodd y Rheolwr Gyfarwyddwr na fyddai brechdan mor faethlon â'r cynnig poeth.  Cytunodd gyda'r sylwadau ar gaws wedi'i brosesu a bara gwyn a dywedodd fod gwella'r cynnig brechdanau yn cael ei ystyried.  Roedd y fwydlen yn cael ei gwella'n barhaus, yn enwedig gydag ailgyflwyno pobi cartref yn y ceginau.

 

            Mewn ymateb i'r sylw a wnaed gan y Cynghorydd Parkhurst ynghylch y seddi mewn ysgolion, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod hyn wedi cael derbyniad da mewn ysgolion a oedd wedi cael dewis o wahanol opsiynau.  Cawsant eu gosod gyda chadeiriau heb gefn, ond y cydbwysedd oedd eu bod yn plygu i mewn i uned fechan y gellid ei symud allan o’r ffordd gan fod y neuaddau mewn ysgolion yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill o fewn yr ysgol.

 

            Mewn ymateb i'r sylw a wnaed gan y Cynghorydd Parkhurst ynghylch gwastraff a'r defnydd o blastig untro, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei bod yn anodd mesur gwastraff.  Dywedodd fod gwastraff yn cael ei fesur o'r ceginau a'r cynhyrchiant dyddiol, a oedd yn cael ei gadw i'r lleiafswm. Unwaith iddo adael y cownter roedd yn anodd mesur, a beirniadwyd y gwasanaeth yn ystod Covid o ran y defnydd o nwyddau tafladwy, ond bu'n rhaid defnyddio'r rhain oherwydd y modd y gweinir y prydau yn y dosbarthiadau.  Bu gostyngiad enfawr mewn plastigion untro gydag ychydig iawn yn cael eu defnyddio yn y gwasanaeth arlwyo ar hyn o bryd, ac ar ôl mis Hydref ni fyddent yn gallu cael eu defnyddio o gwbl.  Anogwyd pawb i gymryd plât, cyllell, a fforc sef y ffordd fwyaf ecogyfeillgar i weini pryd o fwyd.  Roedd brechdanau'n cael eu gweini mewn cardbord a sicrhawyd bod gwastraff yr holl gyflenwyr yn cael ei gadw i leiafswm.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Preece fel llywodraethwr ysgol a dywedodd fod y cadeiriau yn ddefnydd ardderchog o ofod gyda'r plant a'r staff yn eu hoffi gan eu bod yn hawdd eu plygu a symud allan o'r ffordd. Gan gyfeirio at faeth, cadarnhaodd ei bod wedi mynychu'r samplu Well-Fed gyda'r disgyblion a oedd wir wedi mwynhau'r samplau y gwnaethant roi cynnig arnynt, ac roeddent yn edrych yn faethlon iawn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion, fel y cawsant eu nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

                      

PENDERFYNWYD

 

Bod y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith a wnaed gan NEWydd, swyddogion ac ysgolion i gyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu Prydau Ysgol Am Ddim i bawb.

 

 

Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield

Dyddiad cyhoeddi: 31/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: