Manylion y penderfyniad
Annual Review of Fees and Charges 2023
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To seek approval of the outcomes of the annual review of fees and charges for 2023.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod yr adolygiad o ffioedd a thaliadau 2023 wedi’i gwblhau yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor sy’n nodi'r rhesymeg a'r broses ar gyfer adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau.
Roedd canlyniad yr adolygiad wedi’i atodi i’r adroddiad a byddai’n berthnasol o 1 Hydref 2023.
Roedd cymhwyso’r egwyddorion a gaiff eu cynnwys ym Mholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor, fersiwn 3 a gymeradwywyd gan y Cabinet yng Ngorffennaf 2022, wedi sicrhau bod unrhyw newidiadau i daliadau wedi eu rheoli yn briodol o dan adolygiad 2023.
Mae fersiwn tri y polisi wedi ei atodi fel Atodiad B.
Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu gofynion parhaus yr adolygiad blynyddol o ffioedda thaliadau ar gyfer 2023, yn arbennig ar gyfer y ffioedd a thaliadau hynny nad ydynt eto wedi dangos eu bod wedi adfer y gost yn llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod yna ddiwygiad i’r manylion yn yr atodiad a oedd yn ymwneud â ffioedd parcio yng nghanol y dref, a ddylai fod fel a ganlyn:
- byddai 60 munud yn dod yn 90 munud a byddai’r ffi yn cynyddu o 30 ceiniog i 50 ceiniog
-
byddai 120 munud yn dod yn
150 munud a byddai’r ffi yn cynyddu o 50 ceiniog i 70
ceiniog
- Byddai’r ffioedd yn weithredol rhwng 0800-1500 a byddai modd parcio’n rhad ac am ddim ar ôl 3pm.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r rhestr o ffioedd a thaliadau sydd i’w gweld yn Atodiad A i’w gweithredu ar 1 Hydref 2023; a
(b) Chytuno fod fersiwn addas i’r cwsmer o’r amserlen ffioedd a thaliadau’n cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 10/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet
Dogfennau Atodol: