Manylion y penderfyniad

Member Workshops Briefings and Seminars Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd at y Rhaglen Gynefino i Aelodau lwyddiannus a gyflwynwyd yn dilyn yr Etholiad diwethaf. Cynigiwyd cyflwyno rhaglen thematig wedi’i thargedu’n fwy manwl y byddai’r Aelodau’n elwa ohoni. Roedd CLlLC yn adolygu eu fframwaith ac yn gobeithio ei ailgyflwyno o fewn y 12 mis nesaf. Amlinellodd Atodiad 1 yr adroddiad y pynciau a drafodwyd yn y sesiynau cynefino, a’r bwriad oedd ailedrych ar rai o’r sesiynau er mwyn eu hadnewyddu a’u diweddaru i gynnwys unrhyw newidiadau a wnaed. Tynnodd sylw’r Aelodau at bwynt 1.05 yr adroddiad a oedd yn amlygu rhai o’r pynciau generig y dylid eu cynnwys yn y rhaglen, gan amlinellu’r pum maes allweddol, sef pynciau seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth sefydliadol, moeseg, seiliedig ar wasanaeth neu bwnc a sesiynau rheoleiddio neu dechnegol. Ceisiodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd farn yr Aelodau am y pynciau yr oedden nhw’n meddwl y byddai’n fuddiol eu cynnwys ar y rhaglen hyfforddi.

            Gofynnodd y Cynghorydd Roz Mansell faint y mae’r sesiynau hyfforddi’n ei gostio. Cadarnhawyd y byddai’r sesiynau’n cael eu cyflwyno gan swyddogion penodol, gyda Data Cymru’n darparu sesiynau am ddim ar reoli data a hyfforddiant llythrennedd carbon. Byddai’r sesiynau am ddim, a’r Cyngor yn talu am unrhyw gostau bychain. Byddai’r rhan fwyaf o’r sesiynau’n cael eu cyflwyno’n fewnol.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gina Maddison at y polisi Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun, gan ofyn a fyddai hwn yn cael ei gynnwys yn yr hyfforddiant Diogelu neu a oedd gan y Cyngor bolisi Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun y gellid ei rannu gyda’r Cynghorwyr. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod CLlLC yn canolbwyntio ar sesiynau ar hyn yn eu Fframwaith. Roedd gan y Cyngor Bolisi Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun ar gyfer gwahanol feysydd gwaith, a chytunodd i gynnwys hyn fel Cam Gweithredu. Roedd Iechyd a Diogelwch a Diogelu i Aelodau yn rhan o’r amserlen a’r broses ddatblygu ar gyfer y 12 mis nesaf a thu hwnt.

            Ceisiodd y Cynghorydd Bernie Attridge gadarnhad mai’r Pwyllgor oedd yn clustnodi eitemau ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi Aelodau, gan ofyn a fyddai unrhyw sesiynau hyfforddi y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor llawn eu mabwysiadu. Gofynnodd sut yr oedd Aelodau eraill yn cynnig awgrymiadau ar gyfer eu hanghenion hyfforddi os nad oeddent ar y Pwyllgor hwn, gan nodi bod y Pwyllgor Safonau wedi gofyn am ragor o arweiniad mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol. Teimlai ei bod yn bwysig cynnig yr arweiniad hwn cyn gynted ag y bo modd, gan fod y cyfryngau cymdeithasol yn adnodd buddiol i’w ddefnyddio gyda’r arweiniad priodol.

            Adroddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod canllawiau LlC dan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth Leol yn nodi mai Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd oedd yn gyfrifol am raglen hyfforddi’r Aelodau. Roedd y Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn amod fod gan Aelodau Gynlluniau Datblygu Unigol a bod eu hamserlen a’u hanghenion hyfforddi’n cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod y sgiliau cywir gan yr Aelodau.

            Cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) â’r sylwadau a wnaed am y Rhaglen Hyfforddi. Roedd trafodaethau’n arfer cael eu cynnal ar ddechrau cyfarfodydd pwyllgorau i alluogi’r Aelodau i awgrymu syniadau am hyfforddiant ar themâu penodol a fyddai o fudd iddynt. Gellid cynnwys hyn fel eitem reolaidd ar raglen y cylch nesaf o gyfarfodydd er mwyn canfod pa hyfforddiant sydd ei angen ar y pwyllgor hwnnw dros y 12 mis nesaf. Hefyd, byddai posib ymgorffori hyfforddiant o ffynonellau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol, parch a sut mae’r Cynghorwyr yn mynegi eu barn heb dorri’r Cod. Roedd Prif Swyddogion hefyd yn cynnig hyfforddiant allai fod o fudd i’r Aelodau. Byddai’r pecyn yn cael ei ddwyn ynghyd o amrywiaeth o ffynonellau er mwyn gallu llunio rhaglen gynhwysfawr ac amrywiol.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at ei gyfnod fel aelod o’r Pwyllgor Safonau. Pan oedd eitem yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor, roedd sesiwn hyfforddi’n cael ei threfnu 30 munud cyn dechrau’r cyfarfod, ac roedd yn gweld hyn yn hynod fuddiol. Roedd cael y sesiwn 30 munud honno ar adroddiad, a oedd yn cynnwys gwybodaeth gefndir, goblygiadau cyfreithiol a’r camau nesaf, yn fuddiol iawn.

            Cytunodd y Prif Swyddog, gan ddweud bod y Pwyllgorau Safonau a Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys sesiwn hyfforddi yn y cyfarfod cyn cyflwyno adroddiad. Roedd hyn yn gyfle i Aelodau ofyn cwestiynau er eglurder a gellid ei gysylltu â rhaglenni gwaith swyddogion. Gellid cynnig sesiynau hirach ar gyfer pynciau mwy cymhleth er mwyn caniatáu mwy o amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaethau. Gellid hefyd cynnig sesiynau byr y gellid eu cynnal ar ddechrau cyfarfod i helpu Aelodau. Mae mwy o ddyddiadau Cyngor Sir wedi’u cadw yn nyddiadur yr Aelodau nag oedd eu hangen, a byddai’r slotiau hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer sesiynau hyfforddi neu weithdai os nad oedd eu hangen ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor. Byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn mynychu cyfarfodydd Tîm y Prif Swyddogion i sicrhau bod hyfforddiant a gweithdai yn cael eu hymgorffori yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

            Gofynnodd y Cynghorydd Roz Mansell a fyddai’r sesiynau’n cael eu cynnal ar Zoom. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai pob sesiwn yn cael ei haddasu i gefnogi’r hyn a oedd yn cael ei gyflwyno. Byddai’r sesiynau’n cael eu cyflwyno gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau, gan y gallai rhai cwmnïau ddewis cyflwyno sesiynau o bell os ydynt wedi’u lleoli yn Llundain neu Gaerdydd. Roedd sesiynau wedi cael eu trefnu wyneb yn wyneb yn ystod y dydd ac ar Zoom gyda’r nos, a oedd yn cynnig dewis i’r Aelodau.

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y confensiwn oedd yn cael ei ddatblygu lle’r oedd un sesiwn yn cael ei darparu wyneb yn wyneb yn ystod y dydd, gyda’r llall yn cael ei darparu o bell gyda’r nos. Roedd yr Aelodau wedi gwerthfawrogi’r dull hwn.

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Roz Mansell.

 

PENDERFYNWYD:

(a)      Y byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn cynnal ‘dadansoddiad o anghenion hyfforddi’ ar gyfer pob Aelod er mwyn llywio rhaglenni datblygu’n well at y dyfodol.

(b)      Os oedd gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, eu bod yn cysylltu â Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod.

(c)       Cyflwyno cynllun Hyfforddiant a Datblygu i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Medi.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2024

Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: