Manylion y penderfyniad

Welsh Government Deposit Return Scheme

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update to members on the Welsh Government’s proposed deposit return scheme

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar Gynllun Dychwelyd Ernes arfaethedig Llywodraeth Cymru.   Darparodd wybodaeth gefndirol a nododd fod y Cynllun Dychwelyd Ernes arfaethedig wedi derbyn cefnogaeth gref fel yr amlinellwyd yn ymateb y llywodraeth. Roedd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledigwedi cadarnhau y byddai’n gweithio gyda’r diwydiant, Llywodraeth Cymru, a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon, i sefydlu’r cynllun.  Y dyddiad dechrau disgwyliedig oedd Hydref 2025.   Darparodd yr adroddiad drosolwg o’r cynigion a’r diweddaraf ar y camau nesaf i ddarparu’r cynllun yng Nghymru.

 

Roedd y Cynghorydd Vicky Perfect yn cefnogi’r cynllun.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) i’r cwestiynau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dan Rose mewn perthynas â chyfraddau ailgylchu ac eglurodd mai bwriad y cynllun oedd cynyddu ailgylchu yn y dyfodol.   Cyfeiriodd hefyd at y Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig am ddiwygiadau Pecynnu a oedd yn destun ymgynghoriad ochr yn ochr â’r Cynllun Dychwelyd Ernes a dywedodd y byddai adborth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol unwaith y byddai rhagor o wybodaeth ar gael.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill p’un a oedd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn gynllun ‘ailgylchu’ neu ‘ailddefnyddio’ a gofynnodd sut fyddai’n cael ei weithredu a ph’un a fyddai’r taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’r defnyddiwr ar ôl dychwelyd yr eitem.   Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn glir ar hyn o bryd p’un a oedd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn gynllun ‘ailgylchu’ neu ‘ailddefnyddio’ nes bydd rhagor o wybodaeth ar gael.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon am yr elfennau anhysbys mewn perthynas â gweithrediad y cynllun, yr adnoddau a oedd eu hangen, a pharodrwydd defnyddwyr i gymryd rhan.   Awgrymodd y gellid diwygio’r argymhelliad yn yr adroddiad fel a ganlyn: bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynigion i ddarparu Cynllun Dychwelyd Ernes i Gymru.   Eiliwyd hyn a chafodd ei gefnogi gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynigion i ddarparu  

Cynllun Dychwelyd Ernes i Gymru.                                                                                  

 

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: