Manylion y penderfyniad

Council Tax Collections, Discretionary (s13a) Discounts/Write Offs

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To provide information on Council Tax Discretionary Discounts, the current policy criteria and the circumstances (with a statistical analysis) where the Council already need to write off Council Tax amounts.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael yr adroddiad ar faen prawf ac amgylchiadau presennol polisi (gyda dadansoddiad ystadegol) lle'r oedd y Cyngor eisoes wedi cyflwyno gostyngiadau dewisol neu ddileu cyfansymiau Treth y Cyngor, yn dilyn cais gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson.  Roedd y fframwaith Polisi Adfer Dyledion Corfforaethol a fabwysiadwyd yn 2019 yn cynnwys mesurau cymesurol i gefnogi’r rheiny mewn angen a chafodd ei danategu gan brosesau rheoli incwm effeithiol a oedd yn hanfodol ar gyfer cyflawni amcanion cyffredinol y Cyngor oherwydd yr effaith o Dreth y Cyngor heb ei gasglu ar y gyllideb ehangach a chynnydd mewn Treth y Cyngor yn y dyfodol   Fel pwynt o gywirdeb o ran dadansoddi’r diddymiadau, cadarnhawyd fod dyledion wedi’u hailgyfeirio at Lys yr Ynadon yn ystod camau cyfreithiol traddodi yn 2022/23 a ddaeth i gyfanswm o £26,543 gyda £35,668 yn cynrychioli’r cyfanswm ar gyfer trefniadau gwirfoddol unigol.

 

Yn ogystal â deddfwriaeth statudol, roedd pwerau dewisol Adran 13A yn cynnig hyblygrwydd i gynghorau gyflwyno cynlluniau gostyngiadau lleol mewn achosion eithriadol.   Ar wahân i Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor Gofalwyr Maeth Awdurdod Lleol, y polisi yn Sir y Fflint yw defnyddio ei bwerau A13A lle mae eithriadau/gostyngiadau Treth y Cyngor eraill wedi cael eu defnyddio a dim ond mewn achosion o drychinebau naturiol ac argyfyngau sifil. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei bryderon er bod preswylwyr yn cael eu cyfeirio at y gefnogaeth briodol, bod y geiriad yn y polisi presennol ar ostyngiadau dewisol yn rhy eang a ddim yn cynnwys arweiniad eglur.  Awgrymodd bod y Pwyllgor hwn a’r Cabinet yn ystyried cyhoeddi arweiniad polisi eglur i helpu preswylwyr ac i roi syniad o’r lefelau o ostyngiad y dylid ei ddisgwyl gan rywun sydd wedi cael ei ddewis i wneud penderfyniad, er mwyn dangos tryloywder.

 

Hefyd dywedodd efallai y bydd yna nifer fechan o achosion ansolfedd gyda’r Cyngor yn brif gredydwr a bod yr unigolion hynny o bosib ymysg y preswylwyr mwyaf diamddiffyn ac yn debygol o wneud cais am Orchymyn Rhyddhad Dyledion a oedd hefyd yn golygu ffi weinyddol ychwanegol.   Fel ffordd arall i fynd o’i chwmpas hi fe awgrymodd y gellir dod i gytundeb gyda’r unigolion hynny i dalu rhan o gost y ffi i’r Cyngor gyda’r balans o’r ddyled yn cael ei dileu trwy gais A13A.  Byddai hyn yn golygu bod y Cyngor yn adennill cyfanswm bychan ychwanegol ac yn lleihau costau i’r sefydliad partner o ran symud ymlaen gyda’r Gorchymyn Rhyddhad Dyledion ac felly’n lleihau’r baich ariannol ar y trethdalwr.

 

Ar y sail hynny cynigodd bod y Cabinet yn adolygu ac yn llunio polisi cynhwysfawr ar a13A gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau a godwyd yma ac i ymgynghori ar y polisi gyda Throsolwg a Chraffu.

 

Cefnogodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael y cynnig ar gyfer gwell eglurder ar y meini prawf polisi ar gyfer gostyngiadau dewisol.  Wrth ymateb i’r ail awgrym dywedodd fod dadansoddiad diweddar o sampl o geisiadau DRO ar gyfer Treth y Cyngor wedi nodi nad oedden nhw’n bodoli lle mai’r Cyngor oedd yr unig gredydwr.  Aeth ymlaen i ymateb i gwestiynau ar gefnogaeth Sir y Fflint i unigolion sy’n gadael gofal a oedd ers hynny wedi dod yn gynllun gostyngiad statudol yng Nghymru ac roedd yn gyfrifoldeb ar y Cyngor fel yr awdurdod bilio i gasglu praeseptau ar ran eraill.

 

Cefnogodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cynnig i swyddogion ddatblygu polisi mwy eglur.   Ar yr ail awgrym fe gyfeiriodd at y data ar DROs a’r budd i’r unigolion hynny ond fe dynnodd sylw at yr angen am ymdriniaeth bwyllog yn gysylltiedig â’r cynllun DRO statudol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson o blaid yr arweiniad polisi fel y gwnaeth y Cynghorydd Sam Swash.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Allan Marshall, fe gynghorodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael er bod yna ddarpariaeth gyfreithiol ar gyfer gostyngiad tâl prydlon, nid oedd yn ymwybodol o unrhyw gyngor yn cynnig yr anogaeth hynny.   Wrth ymateb i’r sylwadau a godwyd fe dynnodd sylw at enghreifftiau o feini prawf lle byddai modd cyflwyno gostyngiadau dewisol.

 

Croesawyd y cynnig ar gyfer polisi mwy eglur gan y Cadeirydd a ofynnodd am sylwadau ar y cam nesaf.   Oherwydd yr amser sydd ei angen i ddatblygu arweiniad manwl cytunwyd fod y cynnig a gafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Ibbotson yn galluogi’r Cabinet i adolygu’r mater gyntaf, cyn adrodd yn ôl mewn manylder i’r Pwyllgor hwn ar ddyddiad yn y dyfodol.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Ibbotson a Swash.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi a chefnogi’r gwaith a wneir i wneud y mwyaf o ran casglu Treth y Cyngor, ac i wneud y mwyaf o ostyngiadau a lleihadau, ac i helpu’r rheiny sy’n ei chael y anodd talu;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi a chefnogi’r amgylchiadau lle, yn unol â pholisïau Cabinet, bod gostyngiadau dewisol a13a yn cael eu dyfarnu eisoes a’r amgylchiadau a’r cronfeydd cyfyngedig i hepgor neu leihau Treth y Cyngor;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn ardystio’r amgylchiadau eithriadol lle mae proses ddiddymu yn cael ei ymgymryd ac sy’n golygu colli incwm i ariannu gwasanaethau cyhoeddus; a

 

(d)       Bod y Cabinet yn adolygu a chreu polisi cynhwysfawr ar ostyngiadau dewisol a13a, gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau a godwyd ac i ymgynghori â Throsolwg a Chraffu, gan drefnu i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn ar ddyddiad yn y dyfodol.

Awdur yr adroddiad: David Barnes

Dyddiad cyhoeddi: 23/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: