Manylion y penderfyniad

Audit Wales Direct Payments for Adult Social Care

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with assurance that the recommendations of the Audit Wales report have been taken into account in Flintshire.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu yr adroddiad, gan bwysleisio ei fod yn archwiliad o ddarpariaeth taliad uniongyrchol gyffredinol ym mhob un o 22 Awdurdod Lleol Cymru, wedi ei ysgrifennu gan Archwilio Cymru ym mis Ebrill 2022, ac nid yw’n adroddiad ar Daliadau Uniongyrchol yng Ngwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion Sir y Fflint.  Eglurodd fod yr adroddiad yn ymchwilio i’r ffordd yr oedd taliadau uniongyrchol wedi cynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol, cynnal lles pobl, a sut oeddynt wedi gwella ansawdd bywyd pobl.  Pwysleisiodd, er bod yr adroddiad yn un cyffredinol mewn rhai ffyrdd, yr oedd yn benodol mewn ffyrdd eraill, ac aeth drwy ymateb Sir y Fflint i’r 10 argymhelliad fel y’u nodir yn yr adroddiad.

 

Ymatebodd Uwch Reolwr Oedolion i fater a godwyd gan y Cadeirydd yn ymwneud â’r stigma ynghylch taliadau uniongyrchol drwy ddweud bod hwn yn ddarn o waith a oedd yn mynd rhagddo’n barhaus, a oedd yn uchel ar eu hagenda, a’u bod ar hyn o bryd yn pwyso er mwyn i ofalwyr dderbyn y taliadau uniongyrchol drwy eu hawl eu hunain i’w galluogi i barhau i ddarparu cefnogaeth i’w hanwyliaid.  Dywedodd hefyd ei bod yn y broses o egluro ledled yr awdurdod sut y gellid defnyddio taliadau uniongyrchol yn enw’r gofalwr, gan eu bod yn teimlo ei bod yn bwysig i’r unigolyn gael y gefnogaeth y mae ei hangen gan y person yr hoffent dderbyn y gefnogaeth ganddo.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mackie nad oedd Archwilio Cymru wedi cydnabod yn yr adroddiad y gwaith yr oedd Sir y Fflint wedi ei wneud, a dywedodd y dylent fod wedi cyflwyno rhai o’r prosesau a ddatblygwyd gan staff Sir y Fflint i ddangos y dull gweithredu gorau i gynghorau eraill, gan nad oedd un datrysiad yn addas ym mhob achos.  Ymatebodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu ac ychwanegu at sylw pellach gan y Cynghorydd Ellis yngl?n â symlrwydd y system a oedd gan Sir y Fflint ar waith.  Nid oedd yn gallu gwneud sylw yngl?n â’r hyn yr oedd awdurdodau eraill yn ei wneud, ond dywedodd fod yna ddiddordeb – yr oedd awdurdodau eraill wedi cysylltu â Sir y Fflint yngl?n â’i systemau, prosesau a thudalennau gwe.  Dywedodd mai’r hyn a wnaeth y tîm drwy wrando a gweithredu ar adborth gan dderbynwyr taliadau uniongyrchol oedd yn gyfrifol am lwyddiant y gwasanaeth.  Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod Awdurdod yng ngogledd Cymru wedi cysylltu ag ef hefyd, gan ddangos diddordeb mewn defnyddio eu porth taliadau uniongyrchol.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Buckley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod yr Aelodau’n nodi’r argymhellion yn adroddiad Archwilio Cymru ar Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion;

 

(b)          Bod yr Aelodau’n cytuno ar y camau gweithredu yn Ymateb Sir y Fflint i’r adroddiad cenedlaethol; a

 

(c)          Bod yr Aelodau’n nodi bod Cyngor Sir y Fflint yn disgwyl ymateb gan Archwilio Cymru i’w hadborth.

Awdur yr adroddiad: Jane Davies

Dyddiad cyhoeddi: 04/07/2023

Dyddiad y penderfyniad: 27/04/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: