Manylion y penderfyniad

Void Management

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide a further update on voids management and delivery.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.

 

Amlinellodd nifer y cartrefi gwag newydd a’r rheiny a oedd wedi’u cwblhau, ac roedd yn falch o ddweud bod nifer yr eiddo gwag wedi gostwng rhywfaint.   Amlinellodd hefyd nifer yr eiddo a oedd angen gwaith mawr a’r rheiny a oedd angen mân waith, ynghyd â’r galw am yr eiddo.  Ychwanegodd bod y tîm yn brysur yn archwilio eiddo gwag bach a mawr er mwyn paratoi ar gyfer y contractwyr, i sicrhau fod yr atodlen waith yn parhau i fod yn gadarn.

 

O ran y gweithgareddau allweddol a oedd yn cael eu cwblhau yn erbyn y cynllun gweithredu ar unedau gwag a’r camau nesaf, amlinellwyd y canlynol gan y Rheolwr Gwasanaeth:-

 

·         Parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â ffrydiau ariannu pellach ar gyfer 2023/24; Roedd y Gwasanaeth wedi cyfarfod â phob contractwr newydd a gomisiynwyd;

·         Roedd y Cydlynydd Hyfforddiant yn trefnu’r holl hyfforddiant craidd angenrheidiol am y 12 mis nesaf.

·         Ymgymryd â gwaith meincnodi yn erbyn awdurdodau lleol eraill.

 

Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth sylw’r Pwyllgor at y wybodaeth a ddarparwyd ar y nifer o weithwyr o fewn y tîm SLlU a nifer yr Arweinwyr Tîm a oedd yn rheoli’r SLlU, yn unol â chais gan y Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gwybodaeth ar gael ar berfformiad contractwyr allanol.   Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth wybod bod yr adborth ar ansawdd y gwaith ar eiddo a oedd wedi cael eu dychwelyd gan gontractwyr allanol yn rhagorol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd David Evans ei fod yn falch o weld bod nifer yr eiddo gwag wedi gostwng, roedd angen iddynt ostwng yn gynt er mwyn bodloni’r targedau disgwyliedig.   Mynegodd bryder hefyd mewn perthynas â’r data ynghylch yr ardaloedd dosbarth cyfalaf o gartrefi gwag, roedd yn teimlo y gellid eu dehongli fel bod cartrefi gwag mewn rhai ardaloedd yn cael eu cwblhau’n gynt nag eraill.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth wybod bod gwaith cynnal a chadw ar gartrefi gwag yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws y Sir.   Soniodd hefyd y byddai nifer yr eiddo gwag a gaiff eu cwblhau’n cynyddu unwaith y byddai eiddo ychwanegol wedi cael eu trosglwyddo i gontractwyr allanol.   Ychwanegodd ei fod yn hyderus y byddai nifer cyffredinol y cartrefi gwag yn gostwng dros y 12 mis nesaf.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Evans fod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei nodi.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 25/07/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: