Manylion y penderfyniad

Parking Outside Schools and Enforcement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To review parking outside schools and advise Members of the current position.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r problemau sy’n bodoli ar hyn o bryd yng nghyffiniau ysgolion y sir, ac amlinellodd rolau a chyfrifoldebau’r holl bartïon dan sylw hefyd er mwyn ceisio dull cydweithredol a datrysiad effeithiol.

 

Ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 23 Mawrth 2023, penderfynwyd sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen ar y cyd, a fyddai’n cynnwys Aelodau etholedig o’r ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, swyddogion o’r portffolios Addysg ac Ieuenctid a Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, yr Heddlu a Phenaethiaid i archwilio'r materion yn fanylach a datblygu dull gweithredu cydweithredol ac ataliol gyda budd-ddeiliaid allweddol.  Byddai'r Gr?p Tasg a Gorffen yn adrodd i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ei dro.  Felly gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i gefnogi creu'r gr?p.

 

Diolchodd i Aelodau'r ddau Bwyllgor am y drafodaeth lefel uchel a oedd wedi digwydd ac am beidio â chyfeirio at ysgolion unigol o fewn wardiau.  O ran cynrychiolaeth ar y Gr?p Tasg a Gorffen, dywedodd fod angen Aelodau i gynrychioli cymunedau trefol a gwledig fel ei gilydd, yn ogystal â bod yn wleidyddol gytbwys. 

 

Dywedodd fod angen cadw at Reolau’r Ffordd Fawr gan mai'r peth pwysicaf oedd diogelwch plant sy'n mynychu ysgolion. 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod hon yn broblem fawr i benaethiaid ar draws y sir a fu’n gwneud gwaith gyda disgyblion ar gadw'n ddiogel ac anfonir nodiadau atgoffa rheolaidd at rieni fel rhan o gyfathrebu rheolaidd.  Roedd yn bwysig cael cynrychiolaeth pennaeth ar y Gr?p Tasg a Gorffen ac apeliodd ar bob rhiant i yrru a pharcio'n gyfrifol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) nad oedd un ateb unigol i fynd i'r afael â'r problemau a oedd yn gymhleth ac y byddai angen dull cydweithredol.  Roedd Cylch Gorchwyl y Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd a byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod Cymdeithas Llywodraethwyr yn Sir y Fflint sy’n darparu cynrychiolwyr ar gyfer cyrff eraill, felly byddai'n gwneud ymholiadau. 

 

Roedd y Cynghorydd Bibby yn cefnogi sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen ar y Cyd gan gynnwys cyfranogiad yr holl fudd-ddeiliaid y cyfeiriwyd atynt uchod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi'r materion hanesyddol sy'n gysylltiedig â pharcio o fewn cyffiniau ysgolion, a chydnabod cyfrifoldeb defnyddwyr y priffyrdd yn unol â gofynion Rheolau'r Ffordd Fawr;

 

(b)       Nodi'r hierarchaeth cyfrifoldeb mewn perthynas â rheoli traffig o fewn cyffiniau ysgolion a chydnabod rôl gorfodi fel mesur adweithiol yn hytrach na dull o atal digwyddiad yn y lle cyntaf;

 

(c)        Bod creu Gr?p Tasg a Gorffen ar y cyd, a fydd yn cynnwys Aelodau etholedig o’r ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, swyddogion o’r portffolios Addysg ac Ieuenctid a Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, yr Heddlu a Phenaethiaid i archwilio’r materion yn fanylach a datblygu dull cydweithredol ac ataliol gyda budd-ddeiliaid allweddol, yn cael ei gefnogi.

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 11/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 25/04/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet

Yn effeithiol o: 05/05/2023

Accompanying Documents: