Manylion y penderfyniad
Anti-racist Wales Action Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To outline how the Council is meeting the
requirements of the Welsh Government Anti-racist Wales Action Plan
in line with the development of the new Curriculum for Wales.
Penderfyniadau:
Cyn ystyried yr adroddiad, croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a dywedodd fel cyn-athrawes ei bod hi’n ymwybodol o'r gwaith a gaiff ei wneud mewn ysgolion i dynnu sylw at y mater hwn. A hithau’n aelod o Ddinas Noddfa Sir y Fflint cymeradwyodd fod Cymru’n Genedl Noddfa a dywedodd fod amrywiaeth yn cyfoethogi bywydau a bod bywydau unigolion yn gwella drwy gael profiad o ddiwylliannau ychwanegol. Roedd addysg yn fodd o sicrhau newid cymdeithasol, chwalu stereoteipiau a chelwydd a dyna pam y croesawodd hi’r adroddiad.
Gwnaeth Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) ddiolch i'r Cadeirydd am ei sylwadau a chyflwynodd Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol y cafodd ei ddatblygu ar y cyd ag amrywiaeth eang o gymunedau a sefydliadau ledled Cymru.
Ar 20 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth weithio yn ôl y Camau Gweithredu a nodir yn y Cynllun. Roedd y weledigaeth yn y Cynllun yn weithredol, yn ddeinamig ac yn caniatáu ar gyfer newid pan fo angen i sicrhau bod y Cynllun yn briodol i fodloni gweledigaeth 2030 a osododd LlC. Amlinellodd yr Uwch Reolwr y meysydd polisi sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun sy’n ymwneud ag Addysg a’r Gymraeg a rhoddodd wybodaeth am yr amcanion a’r blaenoriaethau ar gyfer Addysg ac ysgolion yn enwedig yn y Cwricwlwm newydd wrth i Gymru fod y wlad gyntaf i wneud elfen o’r Cwricwlwm yn orfodol sef bod disgyblion yn dysgu am amrywiaeth ethnig yng Nghymru a’r byd ehangach. Roedd rhywfaint o'r gwaith hwn eisoes yn cael ei wneud mewn ysgolion trwy weithdai penodol, cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a modiwlau e-ddysgu ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion sy'n gweithio gyda phartneriaid ar gyfer Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr Cymru. Roedd ysgolion hefyd yn cael eu cyfeirio trwy Hwb at adnoddau y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y gwaith a wnaed ar y portffolio i gefnogi'r Cynllun Gweithredu oedd yn amrywiaeth eang o weithgareddau a mesurau y gellid eu defnyddio wrth symud ymlaen. Trafododd y Bwrdd Cydraddoldeb Corfforaethol ymateb y Cyngor i’r Cynllun Gweithredu y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Wrth gyfeirio at yr argymhellion yn yr adroddiad, gofynnodd yr Uwch Reolwr am farn y Pwyllgor ar ba mor aml y dylid cyflwyno adroddiad diweddaru i gyfarfodydd yn y dyfodol.
Croesawodd y Cynghorydd Paul Johnson yr adroddiad a’r Athroniaeth ar gyfer Plant, Cydweithwyr a Chymunedau (P4C) a oedd, yn ei farn ef, yn caniatáu i blant ofyn cwestiynau am yr hyn sy’n deg, yn annheg, yn gyfiawn ac yn anghyfiawn. Cyfeiriodd at ei amser yn gweithio fel Swyddog Addysg i UNICEF a oedd yn egluro i blant beth oedd eu hawliau nhw yn yr ysgol yr oedd yn eu galluogi nhw i ddeall nid yn unig beth oedd eu hawliau nhw ond hawliau disgyblion eraill hefyd ac yr oedd yn credu bod dealltwriaeth plentyn o’i hawliau yn rhan o'r broses honno.
Roedd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden yn cytuno â’r sylwadau y cafodd eu gwneud. Roedd yn credu bod ysgolion Sir y Fflint yn gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn a gwnaeth ddiolch i'r staff am y camau a gymeron nhw i sicrhau bod Sir y Fflint yn sir deg o ran hil.
Siaradodd nifer o Aelodau o blaid yr adroddiad a diolch i'r Swyddogion am y gwaith a wnaed.
Gwnaeth y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiolch i'r Aelodau am eu sylwadau cadarnhaol ar yr adroddiad ac ategodd y diolchiadau i'r Uwch Reolwr a'i thîm. Gan gyfeirio at yr argymhelliad sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad, teimlai y byddai'n bosibl cyflwyno adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor a fyddai'n cynnwys trosolwg o'r camau a gymerwyd, tystiolaeth o effeithiau'r camau hynny ac unrhyw setiau data priodol.
Gwnaeth yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) ddiolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth a'u cydnabyddiaeth o'r gwaith a wnaed gyda chydweithwyr mewn ysgolion. Gwnaeth hi ddiolch i Claire Sinnott a’r Tîm Ysgolion Iach oherwydd bod llawer o’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn ysgolion eisoes.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylai argymhelliad 3, sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad, gael ei ddiwygio i adlewyrchu bod y Pwyllgor yn cael adroddiadau blynyddol sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth. Cafodd yr argymhelliad, sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad, ynghyd â'r diwygiad yr awgrymodd y Cadeirydd, ei gynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’i eilio gan Carolyn Preece.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi gweledigaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'r camau gweithredu a nodir ar gyfer addysg;
(b) Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi cael digon o sicrwydd ynghylch gwaith y Portffolio Addysg ac Ieuenctid wrth fodloni gofynion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
(c) Bod y Pwyllgor yn cael adroddiadau blynyddol sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth a'i ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Claire Homard
Dyddiad cyhoeddi: 17/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 23/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Accompanying Documents: