Manylion y penderfyniad
Council Plan 2022-23 Year-End Performance (S&HC OSC)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the levels of progress in the
achievement of activities and performance levels identified in the
Council Plan.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd yn crynhoi perfformiad y meysydd perthnasol i Ofal Cymdeithasol ac Iechyd ar gyfer 2022-23 ar ddiwedd blwyddyn / Chwarter 4. Er bod rhai o’r meysydd yn yr adroddiad y tu allan i Wasanaethau Cymdeithasol, roedd tebygrwydd o 80% felly roedd yn credu ei bod yn bwysig i edrych ar is-flaenoriaeth cyffredinol Cynllun y Cyngor sy’n fwyaf perthnasol i’r portffolio hwn. Roedd yn falch o allu adrodd ar lefel dda o gynnydd ar weithgareddau ar draws y meysydd fel yr amlinellwyd ym mhwynt 1.04 yr adroddiad a dywedodd ei fod wedi siarad â Vicky Clarke o Gymunedau a Thai cyn y cyfarfod hwn mewn perthynas â’r gweithgarwch coch a ddengys ym mhwynt 1.05 yr adroddiad, gan gynghori’r Aelodau ei bod yn fodlon darparu unrhyw feysydd sicrwydd iddynt mewn perthynas â hyn. Fe aeth ymlaen i roi trosolwg o’r meysydd eraill sydd wedi’u rhestru isod a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor hwn:-
· Byw’n Annibynnol
· Diogelu
· Darpariaeth Uniongyrchol i Gefnogi Pobl yn Agosach i’w Cartrefi 2022/23
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill yngl?n â nifer o ddarparwyr Meicro-Ofalwyr o’i gymharu â nifer y defnyddwyr gwasanaeth, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y ffigyrau yn yr adroddiad yn gywir oherwydd bod Meicro-Ofalwyr yn darparu gofal i fwy nag un person. Wrth ymateb i gwestiwn arall, dywedodd yr Uwch-Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod tîm o bobl wedi cydlynu rhaglen dreigl ar gyfer recriwtio Micro-Ofalwyr a thrwy glywed gan eraill o amgylch y sector gofal i annog pobl i gymryd rhan.
Ymatebodd yr Uwch-Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie ac fe eglurodd bod y Llwybr Gofal Dementia Cymru Gyfan yn rhan o lwybr ehangach a oedd yn cael ei ddatblygu gan Sir y Fflint a’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â rhyddhau o’r ysbyty. Roedd rhan o hyn yn galluogi pobl a oedd wedi cael diagnosis o Ddementia i gael gwasanaeth tebyg lle bynnag yr oeddent yn byw yng Nghymru drwy gydol eu siwrnai a byddai’r gefnogaeth a’r cyngor yn addasu wrth i’w hanghenion newid. Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y Bwrdd Iechyd â rôl arweiniol o amgylch y Strategaeth Dementia ac y byddent fel yr awgrymwyd, gyda chefnogaeth yr Aelodau, yn gwahodd cydweithwyr y Bwrdd Iechyd i gyfarfod yn y dyfodol. Gofynnodd yr Is-Gadeirydd i gael cynnwys hyn ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey nad oedd yn briodol i Iechyd Meddwl fod o dan ymbarél Dementia a Defnyddwyr Cyffuriau oherwydd bod gwahanol feini prawf ar gyfer iechyd meddwl ac ni ddylai cleifion fod ar yr un wardiau mewn ysbytai. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hwn yn bwynt teg a bod lle i wella mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl a bod Sir y Fflint yn gweithio’n galed iawn i gynnal gwasanaeth iechyd meddwl awdurdod lleol cryf. Dywedodd eu bod yn parhau i fod â thimau yn y gymuned mewn cyfuniad gyda’r Gwasanaeth Iechyd, er bod y rhan fwyaf o awdurdodau yng Ngogledd Cymru wedi symud oddi wrth hyn. Sicrhaodd yr Aelodau eu bod yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl da ond roedd yn cydnabod bod cryn waith i’w wneud eto.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey hefyd am y tîm a oedd yn cynorthwyo â thai i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Dywedodd yr Uwch-Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod Tîm Oedolion mewn Perygl o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn profiadol iawn ac yn gweithio gyda Thîm Digartrefedd yr Adran Tai a oedd yn cefnogi pobl nad oedd yn perthyn i unman, a oedd, yn anffodus, yn cynnwys rhai pobl â phroblemau iechyd meddwl, rhag dod yn ddigartref.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawniadau’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor 2022/23;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion / mesurau perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23: a
(c) Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 27/10/2023
Dyddiad y penderfyniad: 20/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: