Manylion y penderfyniad

Council Plan 2022-23 Year-End Performance

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities and performance levels identified in the Council Plan.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn yn ôl blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23.  Yr oedd hwn yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan – bu cynnydd da mewn 77% o weithgareddau, ac yr oedd 62% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd eu targedau neu wedi rhagori arnynt.  Yn dilyn adborth blaenorol, adolygwyd yr adroddiad i roi mwy o eglurder yngl?n â nodi meysydd i’w gwella.  Yr oedd yr adroddiad eglurhaol, a oedd yn seiliedig ar eithriadau, yn amlygu chwe cham gweithredu yn weddill a 25 o ddangosyddion perfformiad na chyflawnwyd, ynghyd ag esboniadau, gyda rhai ohonynt yn cynnwys ffactorau allanol.

 

Ymatebodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â threfniadau adrodd, gan gynnwys adnewyddu Cynllun 5 mlynedd y Cyngor yn flynyddol.  Aeth rhagddi i ddweud y gallai dyddiadau targed ar gyfer blaenoriaethau fod yn 12 mis neu yn y tymor hirach, gan gynnwys cerrig milltir lle bo’r angen, a byddai’n rhoi adborth i dîm Perfformiad i sicrhau bod targedau wedi eu diffinio’r glir yn y ddogfen.

 

Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, cadarnhawyd bod pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried adroddiadau perfformiad chwarterol yn ymwneud â’u cylch gorchwyl, ac yr oeddynt yn gallu codi meysydd penodol i’w hadolygu ymhellach ar eu rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Dywedodd y Cadeirydd, er na ddylai’r pwyllgor hwn ddyblygu rôl Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill, dylid atgyfeirio meysydd pryder yn briodol.

 

Amlygodd y Cynghorydd David Healey sut oedd y Cynllun yn cyd-fynd â’r amcanion lles.  Parthed Tlodi Plant, canmolodd y gyfradd gwblhau 100% o ran ‘Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod plant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn gallu cael mynediad at fwyd, ymarfer corff a chynlluniau cyfoethogi yn ystod gwyliau’r haf’, a gofynnodd a oedd y cynnig wedi ei ymestyn i haf 2023.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod cynlluniau ar gael ac y byddai manylion mwy penodol yn cael eu rhannu.  Awgrymodd y Cynghorydd Healey y dylid rhannu’r ymateb gyda’r holl Aelodau.

 

Gan nodi camau gweithredu yng nghylch gwaith pwyllgorau eraill, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor hwn gael trosolwg o dargedau na chyrhaeddwyd / targedau a ymestynnwyd er mwyn ystyried y goblygiadau ariannol yn ystod y flwyddyn ac effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Parthed is-flaenoriaeth Tai Cymdeithasol, gofynnodd am fwy o fanylion am ddangosyddion perfformiad yn ymwneud â chartrefi newydd y Cyngor, tai fforddiadwy a chartrefi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a oedd yn cael eu hadeiladu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod amseroedd ymateb yngl?n ag addasiadau ar gyfer pobl anabl wedi gwella dros y blynyddoedd, a gwnaed newidiadau i’r broses; fodd bynnag, yr oedd rhai materion etifeddiaeth, a oedd yn effeithio ar gynlluniau addasu mwy o faint, yn dylanwadu’n negyddol ar berfformiad.  Parthed datblygiadau tai cymdeithasol, y targed cyffredinol oedd 50 uned y flwyddyn, fel yr adlewyrchwyd mewn adroddiadau strategol; fodd bynnag, yr oedd diffyg cynnydd cynllun yn ymwneud â phartneriaid wedi effeithio ar ganlyniadau perfformiad.  Cyfeiriwyd at y posibilrwydd o gael cyllid ychwanegol i fodloni’r galw uwch am dai cymdeithasol.  Tynnwyd sylw’r Aelodau at adroddiadau manwl diweddar i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai yngl?n â’r materion hyn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bill Crease i’r swyddogion am yr adroddiad eglurhaol a oedd yn cynorthwyo’r Pwyllgor i ganolbwyntio ar ddata perthnasol.  Cafodd ei sylwadau eu cymeradwyo gan y Cadeirydd.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Gina Maddison ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2022/23;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

Awdur yr adroddiad: Steven Goodrum

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: