Manylion y penderfyniad

Anti-Fraud and Corruption Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i Ms Murray o Aon i gyflwyno’r eitem hon.  Eglurwyd bod Strategaeth Dwyll arfaethedig y Gronfa Bensiynau wedi’i llunio fel rhan o fframwaith rheoli risg y Gronfa. Fel Ymgynghorwyr Llywodraethu’r Gronfa, roedd Aon o’r farn mai cyflwyno strategaeth fyddai orau o safbwynt llywodraethu da, ac roedd hyn hefyd wedi’i gynnwys yng Nghynllun Busnes y Gronfa ar gyfer 2022/23. 

 

            Diben y Strategaeth arfaethedig oedd diogelu data ac asedau’r Gronfa. Mae tudalen 104 yn nodi cwmpas eang y mathau o dwyll mae’r Strategaeth yn ymdrin â hwy, gan gynnwys llwgrwobrwyo, cydgynllwynio, mynediad at gyfrifon banc, atal gwyngalchu arian a sgamiau pensiwn. Mae tudalennau 104-105 yn canolbwyntio ar ddiffiniadau cyffredinol a deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol.

            Byddai’r Strategaeth yn berthnasol i bob unigolyn sy’n ymwneud â rheoli’r Gronfa, gan gynnwys Aelodau’r Pwyllgor, Swyddogion, Ymgynghorwyr a’r Bwrdd, yn ogystal â Chyflogwyr y Cynllun, Aelodau’r Gronfa a chyflenwyr. Byddai Pennaeth y Gronfa’n gyfrifol am sicrhau bod gofynion y Strategaeth yn cael eu bodloni. 

            Eglurodd Ms Murray fod gan Gyngor Sir y Fflint Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth eisoes ar waith, ac felly bod egwyddorion Strategaeth arfaethedig y Gronfa yn cyd-fynd ag egwyddorion y Cyngor. Mae’r tair egwyddor ganlynol wedi’u nodi ar dudalen 106 ac maent yn canolbwyntio ar: 

-       Annog peidio â throseddu, gan gynnwys:

o   Cyhoeddi mesurau gwrth-dwyll er mwyn codi ymwybyddiaeth, er enghraifft cyhoeddi’r polisi hwn ar y wefan,

o   Adrodd am weithgarwch twyllodrus i’r Pwyllgor a’r Bwrdd fel rhan o fusnes fel arfer;

-       Atal, trwy gael rheoliadau mewnol ar waith, gan gynnwys: 

o   Cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol, 

o   Adolygu pensiynau salwch haen 3 yn rheolaidd,

o   Gweithdrefnau awdurdodi a dilysu priodol ar gyfer newidiadau i ddata sy’n effeithio ar fuddion aelodau, a diogelwch ychwanegol ar gyfer manylion cyfrif banc,

o   Proses ddilysu ar gyfer ceisiadau ar lafar dros y ffôn,

o   Mabwysiadu canllawiau’r rheoleiddiwr pensiynau ar gyfer sgamiau pensiwn,

-       Canfod twyll a llygredigaeth, gan gynnwys: 

o   Bydd y Gronfa bob amser yn ceisio adennill arian a gollwyd yn unol â pholisi’r Cyngor gan gynnwys cynnal archwiliad mewnol,

o   Cysoni trafodion banc yn rheolaidd.

 

            Dywedodd Ms Murray hefyd bod sgamiau pensiwn yn dod yn fwy o fygythiad.  Mae rhan o’r Strategaeth arfaethedig yn ceisio amddiffyn aelodau rhag y bygythiad hwn, trwy eu hannog i ddiogelu eu gwybodaeth bersonol. 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth.

.

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 06/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 29/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/03/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: