Manylion y penderfyniad
Food Poverty Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo a’r gwaith sydd wedi ei gynllunio mewn perthynas â maes blaenoriaeth tlodi bwyd. A hefyd amlygu’r rôl gadarnhaol mae Sir y Fflint wedi ei chwarae wrth ddatblygu partneriaethau, cefnogi sefydliadau eraill a hwyluso gweithredu.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Lles a Chymunedau adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith presennol a chynlluniedig i ymateb i faes blaenoriaeth tlodi bwyd. Amlygodd yr adroddiad y rôl gadarnhaol yr oedd Sir y Fflint wedi ei chwarae wrth ddatblygu partneriaethau, cefnogi sefydliadau eraill a hwyluso gweithredu.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Brockley am restr o Ganolfannau Croeso Cynnes a Chanolbwyntiau Cymunedol ar draws y sir, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ddosbarthu’r ddolen i wefan y Cyngor lle’r oedd y wybodaeth hon yn cael ei dangos a’i diweddaru i Aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Byddai’r argymhellion a’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd y gwaith mewn perthynas â mynd i’r afael â thlodi bwyd yn Sir y Fflint; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi defnyddio’r gronfa wrth gefn a glustnodwyd er mwyn parhau i ddarparu’r rhaglen tlodi bwyd hyd at fis Mawrth 2026.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 21/02/2025
Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/01/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: