Manylion y penderfyniad

Disrepair Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on work ongoing to deal with disrepairs.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol y Cyngor yn ymwneud â diffyg atgyweirio, a nifer yr hawliadau o ddiffyg atgyweirio a dderbyniwyd, a ddatryswyd a’u hamddiffyn yn llwyddiannus. 

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod y Gwasanaeth Asedau Tai yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl stoc dai yn cydymffurfio â’r gwahanol safonau a rheoliadau tai, ac yr oedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau yr oedd gan y Cyngor i sicrhau bod yr holl waith atgyweirio’n cael ei gwblhau mewn modd amserol, a bod y gwaith sy’n gysylltiedig ag unrhyw hawliadau o ddiffyg atgyweirio y gallai’r Cyngor eu derbyn yn cael ei gwblhau’n effeithiol ac yn effeithlon.

 

Siaradodd hefyd am y data ystadegol yn ymwneud â diffyg atgyweirio, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, a dywedodd fod tîm y gwasanaeth Asedau Tai yn cynnal cyfarfodydd wythnosol yn ymwneud â hawliadau gweithredol o ddiffyg atgyweirio a chyfarfodydd rheoli misol i adrodd am gynnydd a thrafod unrhyw dueddiadau neu bryderon sydd wedi eu canfod.

 

  Daeth Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai i’r casgliad bod y tîm yn annog yr holl denantiaid i weithio gyda’r Cyngor.  Yr oedd y rhan fwyaf o’r adnoddau a neilltuwyd i amddiffyn yr holl hawliadau o ddiffyg atgyweirio yn rhai mewnol, a’r cyfreithwyr a benodwyd yn unig sy’n allanol i’r Cyngor. 

 

Canmolodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson y tîm a’r gwaith a wnaethpwyd fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru o ran gosod ffenestri, ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ac ati, ond gofynnodd a allai tenantiaid wrthod gadael i waith i’w heiddo gael ei gwblhau.  Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod gan denantiaid yr hawl i wrthod elfennau o waith, ond ddim ond ar ôl cynnal asesiad llawn i sicrhau diogelwch y tenantiaid.  Ni chaniateid i denantiaid wrthod gwaith ar foeleri neu elfennau nwy. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a 

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwasanaeth Asedau Tai i barhau i reoli protocol Diffyg Atgyweirio Tai ar ran y Cyngor, gan sicrhau bod y rhwymedigaethau a roddir ar y Cyngor yn cael eu bodloni.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 06/06/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/04/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: