Manylion y penderfyniad

Homelessness and Rough Sleeper Update Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the work ongoing to mitigate Homelessness and support provided to rough sleepers.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad diweddaru a oedd yn amlinellu’r gwaith a oedd yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Tai ac Atal.

 

Darparodd Uwch Reolwr Tai ac Atal adroddiad manwl am y meysydd canlynol, fel y nodwyd yn yr adroddiad:–

 

  • Gwasanaethau Digartrefedd Statudol
  • Ariannu Gwasanaethau Digartrefedd
  • Galw am Wasanaethau
  • Canlyniadau Cadarnhaol Digartrefedd
  • Polisi Cenedlaethol – Digartrefedd
  • Angen Blaenoriaethol – Pobl sy’n Cysgu Allan
  • Defnydd o Lety Digartrefedd
  • Herio Amodau’r Farchnad Dai

 

Diolchodd y Cynghorydd Glyn Banks i Uwch Reolwr Tai ac Atal am adroddiad ardderchog a oedd wedi ei gyflwyno’n dda.  Diolchodd hefyd i’r Prif Weithredwr am ei ymroddiad i’r materion yn ymwneud â digartrefedd, a oedd wedi bod yn amlwg dros nifer o flynyddoedd.  Dywedodd fod y Cyngor yn ymdrin â phobl a oedd mewn sefyllfa ddifrifol, a dywedodd fod y Cyngor yn delio â hyn yn dda. Rhoddodd enghraifft lle rhoddwyd cymorth i denant yn ei ward ef.

 

Wrth ymateb i bryderon y Cynghorydd Banks yngl?n â landlordiaid preifat yn troi tenantiaid allan, dywedodd Uwch Reolwr Tai ac Atal yr ymdrinnid â’r mater hwn yn ddyddiol, ac, yn aml, pan oedd tenant yn derbyn gorchymyn troi allan, effeithid ar yr ymddiriedaeth rhyngddynt yn negyddol.  Er nad oedd y Cyngor eisiau ychwanegu unrhyw bwysau ychwanegol i’r sefyllfa, yr oedd yn bwysig bod tenantiaid yn deall eu hawliau cyfreithiol yn glir.    

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans fod Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai ac Uwch Reolwr Tai ac Atal yn swyddogion rhagorol a oedd wedi darparu adroddiadau ardderchog i’r Pwyllgor.  Cyfeiriodd at y rhesymau pam oedd pobl yn datgan eu bod yn ddigartref (gweler Atodiad 2 yr adroddiad), a gofynnodd pam oedd nifer y rhai a oedd yn ymadael o’r carchar yn uchel, oherwydd credai fod y Cyngor yn cael gwybod os oedd carcharor yn cael ei ryddhau.  Gofynnodd at beth oedd y categori ‘Eraill’ yn cyfeirio, ac a oedd unrhyw ddata yn cael ei gadw ar gyfer pobl â chefndir o wasanaeth milwrol.  Eglurodd Uwch Reolwr Tai ac Atal fod y data yngl?n â’r rhesymau pam oedd pobl yn datgan eu bod yn ddigartref heb eu dilysu ar hyn o bryd o ganlyniad i systemau; a hefyd, gallai unigolyn roi un rheswm, ond pan fyddai swyddogion yn ymchwilio i’r achos, gellid canfod bod anghenion eraill hefyd.  Yr oedd gwaith yn mynd rhagddo ar y system ddata swyddfa gefn ar gyfer cymorth tai a digartrefedd er mwyn sicrhau gwell eglurder ar ddata yn y dyfodol.

 

Dywedodd Uwch Reolwr Tai ac Atal fod y Cyngor yn gweld rhai cyn-filwyr yn datgan eu bod yn ddigartref, ond yr oedd yn nifer fach.  Nid yw Cyfamod y Lluoedd Arfog a’r Polisi Dyrannu Cyffredin yn ymestyn dyletswyddau ychwanegol i gyn-filwyr.  Dywedodd hefyd fod 2 swyddog cyswllt pwrpasol ar hyn o bryd ar gyfer pobl sy’n ymadael o’r carchar, a oedd yn gweithio’n agos gyda’r carchardai.  Pan oedd rhybudd wedi ei roi, yr oedd y Cyngor yn ceisio trin pobl a oedd wedi ymadael o’r carchar yr un fath â phawb arall.  Anfonir hysbysiad i’r Cyngor os nad oes gan rywun sy’n gadael carchar gartref i fynd iddo, a byddai asesiad yn cael ei gwblhau o fewn 56 diwrnod o’r amser yr oeddynt i ddod yn ddigartref.  Nid oedd hysbysiadau rhyddhau mor brydlon ag yr oeddynt yn arfer bod, ac yr oedd y Cyngor yn cael gwybod am rai dyddiadau rhyddhau ar fyr rybudd.  

 

Diolchodd Aelod Cabinet Tai ac Adfywio i Uwch Reolwr Tai ac Atal a’i dîm am y gefnogaeth ardderchog a roddwyd i bobl ledled Sir y Fflint.  Dywedodd fod hwn yn faes gwasanaeth heriol ac anodd, gan fod digartrefedd yn un o’r profiadau mwyaf trawmatig y gallai unigolyn ei brofi yn ystod ei fywyd.  Dywedodd fod blynyddoedd o fethiant y polisi tai wedi gwneud y sefyllfa’n waeth, ac mai dim ond yn ddiweddar yr oeddem fel Awdurdod Lleol wedi cael caniatâd i adeiladu Tai Cyngor.  Yn ystod yr amser hwnnw yr oedd y galw am dai cymdeithasol wedi parhau i dyfu.  Dywedodd fod anawsterau’r sector rhentu preifat yn ddifrifol; nid oedd y lwfans tai lleol yn gallu cadw ar yr un cyflymder â’r farchnad, ac nid oedd unrhyw eiddo yn Sir y Fflint yn cyrraedd trothwy’r lwfans tai lleol ar hyn o bryd.  Yr oedd hyn yn gofyn am weithredu cenedlaethol er mwyn codi’r lwfans tai yn unol â’r cynnydd mewn rhenti.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Tina Claydon. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a 

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Tai ac Atal.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 06/06/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/04/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: