Manylion y penderfyniad

Adoption of the Model Ordinary Language Guide to the Constitution and updates made to the National Model Constitution

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a Chyfansoddiad wedi’i ddiweddaru.  Roedd wedi darparu gwybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y gweithgor oedd wedi ymgynnull i ystyried y materion a godwyd gan y Pwyllgor ar yr ymgynghoriad drafft mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023.    Dywedodd y Prif Swyddog fod y Pwyllgor wedi argymell bod y Cyngor yn mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin ar gyfer y cyfansoddiad a chafodd ei fabwysiadu gan y Cyngor mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023.    Roedd drafft o’r cyfansoddiad a’r canllaw iaith gyffredin ynghlwm i’r adroddiad.   Roedd y newidiadau yr oedd y gweithgor yn eu cynnig i gyfansoddiad y Cyngor wedi eu dangos fel newidiadau, gan gynnwys y newidiadau ychwanegol a wnaed o ganlyniad i’r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor.    Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r gweithgor am ei waith ar y materion a godwyd gan y Pwyllgor ar yr ymgynghoriad drafft.  Cyfeiriodd at baragraff 1.14 o’r adroddiad a dywedodd ei fod yn teimlo nad oedd y pwynt a godwyd gan y Pwyllgor yngl?n ag Undebau Llafur a pholisi rhannu pryderon y Cyngor wedi derbyn sylw.    Hefyd, cyfeiriodd y Cynghorydd Ibbotson at baragraff 4.6.21 o’r cyfansoddiad drafft oedd ynghlwm i’r adroddiad a dywedodd os mai’r bwriad oedd i’r Cyngor gynnal y broses hunanasesu yn unig, byddai’r geiriad yn cael ei adolygu i nodi hyn.  Roedd y Prif Swyddog wedi ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Ibbotson ac awgrymodd bod paragraff 4.6.21 yn cael ei newid i gynnwys y canlynol “(cynnal ei ddyletswyddau perfformiad o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021)” i egluro’r ddyletswydd hunanasesu corfforaethol a chadarnhau nad oedd wedi’i fwriadu i ddileu swyddogaethau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.    Gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson i’r eglurhad ar lafar gan y Prif Swyddog gael ei gynnwys yn y paragraff ar gyfer cadarnhad.   

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Steve Copple.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cyngor bod y cyfansoddiad diwygiedig drafft yn cael ei fabwysiadu, gyda’r eithriad o ddisgrifiadau rôl yn Adran 31 o’r cyfansoddiad drafft ac yn ddarostyngedig i wiriad cysondeb mewnol terfynol, prawf-ddarllen a chroesgyfeirio gyda’r canllaw iaith gyffredin;

 

(b)       bod paragraff 4.6.21 o’r Cyfansoddiad drafft yn cael ei newid i gynnwys y canlynol “(cynnal ei ddyletswyddau perfformio o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021)”

 

(c)       Y bydd unrhyw waith ychwanegol a ystyrir gan y Pwyllgor sy’n cael ei gynnal

mewn perthynas â chyfansoddiad y Cyngor yn ffurfio rhan o raglen

gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor.

Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Tracey Cunnew)

Dyddiad cyhoeddi: 21/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/03/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: