Manylion y penderfyniad

Bereavement Services

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To advise the committee on the services provided and challenges faced.

Penderfyniadau:

Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybodaeth gefndir a dywedodd mai diben yr adroddiad oedd darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y capasiti claddu presennol ym mynwentydd Sir y Fflint a rhoi trosolwg o’r dewisiadau ar gyfer adolygu a chynyddu capasiti.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cludiant.  Gwahoddodd Reolwr y Gwasanaethau Profedigaeth i ddarparu trosolwg o’r capasiti claddu sydd ar ôl ym mynwentydd Penarlâg Rhif 2 a Bwcle, a oedd ar lefel ddifrifol – disgwylid y byddai’r ddwy fynwent yn llawn ymhen pedair blynedd yn unig.  Dywedodd fod dau brosiect ar wahân, sydd â’r nod o ddarparu capasiti ychwanegol yn y ddau leoliad, yn mynd rhagddynt a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.  Adroddodd hefyd am y datrysiadau amgen a allai gynorthwyo gyda’r pwysau a chyfyngiadau presennol sy’n gysylltiedig â’r gofyn am gladdu, a’r dewisiadau sy’n cynnig gwell buddion amgylcheddol.

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau am y capasiti sy’n weddill ym mynwentydd Penarlâg a Bwcle, a gofynnodd sawl cais am gladdu oedd yn “geisiadau newydd”, neu a oedd yn gysylltiedig â lleiniau teuluol presennol.  Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ar ôl y cyfarfod.  Gofynnodd y Cadeirydd a oedd digon o dir ar gael yn y sir i ehangu’r ddarpariaeth, a mynegodd bryderon yngl?n â’r angen i brynu tir ychwanegol. Cyfeiriodd at y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac a oedd unrhyw safleoedd ynddo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell a oedd gan y Cyngor bolisi ar ‘bentyrru’ claddedigaethau a’r rhesymau dros ffafrio claddu yn hytrach nag amlosgi.  Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth hefyd i’r cwestiynau a sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Dan Rose am ddarpariaeth mewn awdurdodau cyfagos, costau angladdau a hyrwyddo’r dewisiadau sydd ar gael, y posibilrwydd o ddefnyddio tir mewn mynwentydd sydd wedi cau, cynllunio hirdymor yn ymwneud ag effaith demograffeg a datblygiadau tai newydd ac yn y dyfodol, ac amserlen ar gyfer defnyddio lleiniau claddu ar gyfer aelodau o’r teulu.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor Craffu’n nodi’r lefelau capasiti cyfredol ym mhob un o fynwentydd y sir, ac yn nodi’r angen i gynyddu capasiti mewn safleoedd lle mae’r sefyllfa’n ddifrifol;

 

(b)       Bod y Pwyllgor Craffu’n cefnogi cais am gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer symud ymlaen gydag ehangu mynwent Penarlâg Rhif 2;

 

(c)        Bod y Pwyllgor Craffu’n cefnogi cynigion i ddarparu capasiti claddu ychwanegol ym Mynwent Bwcle, ac yn cymeradwyo cyflwyno cais yn y dyfodol am gyllid cyfalaf; a

 

(ch)     Bod y Pwyllgor Craffu’n cymeradwyo ymchwilio mwy i ddewisiadau claddu ac amlosgi amgen fel ffordd o gynnal capasiti mynwentydd yn y dyfodol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.

 

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 07/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 07/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: