Manylion y penderfyniad

External Regulation Assurance

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To endorse the summary of all external regulatory reports received during 2021/22 along with the Council’s responses.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i roi sicrwydd bod yr adroddiadau gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol yn 2022/23 wedi cael eu hystyried yn unol â’r protocol adrodd mewnol cytunedig.  Er nad oedd unrhyw ofyniad am ymateb lleol i astudiaethau cenedlaethol Archwilio Cymru, ystyriwyd dull y Cyngor o asesu yn erbyn gwaith lleol fel arfer da.

 

Codwyd pryderon gan y Cynghorydd Bernie Attridge yngl?n â’r diffyg ymatebion i rai argymhellion, gan gynnwys Tlodi yng Nghymru ac oedi mewn camau gweithredu yn llywio’r strategaeth cyfranogiad cwsmeriaid.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai ymateb y Cyngor yn adlewyrchu’r swm sylweddol o waith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â holl elfennau tlodi, gan gynnwys yr hyn y cyfeirir ato fel arfer da yn adroddiad Archwilio Cymru.  O ran cyfranogiad cwsmeriaid fe siaradodd am yr angen i gryfhau ffederasiwn y tenantiaid i sicrhau ei fod yn gweithio mewn cydweithrediad â’r gwasanaeth tai i ddod â newid i’r holl denantiaid.

 

Eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg fod y statws ‘Coch Melyn Gwyrdd’ yn y ddogfen gryno yn dangos cynnydd mewn rhoi camau gweithredu ar waith.  Cadarnhaodd fod y tri adroddiad yn weddill wedi eu trefnu fel bo’n briodol a’i bod yn cydgysylltu gyda phortffolios i sicrhau fod y protocol yn cael ei ddilyn.

 

Mynegodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst bryderon yn ymwneud â chyfeirio at “Lywodraeth Lafur Cymru” yn yr ymateb i’r adroddiad ar Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion.  Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg i gydgysylltu gyda’r gwasanaeth a oedd wedi darparu’r geiriad.  Awgrymodd y Cynghorydd Glyn Banks fod yr holl wasanaethau yn cael eu hatgoffa y dylai adroddiadau i’r Pwyllgor fod yn anwleidyddol.

 

O ran yr ymatebion yn y ddogfen gryno, nododd y Parch Brian Harvey gyfeiriad at feysydd o arfer da a gofynnodd a ddaeth enghreifftiau ar gael gan Archwilio Cymru i lywio dysgu.  Dywedodd Gwilym Bury yn ogystal â rhannu astudiaethau achos mewn adroddiadau a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru a rhoi cyhoeddusrwydd drwy ddigwyddiadau lleol, cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd ar lefel uwch o fewn cynghorau i rannu gwybodaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford ar gynaliadwyedd ariannol, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod codau rheoli ariannol yn cael eu hadolygu a’u bod yn berthnasol o ran dangos rheolaethau cyllidebol, defnydd o gronfeydd ayb.  Yn ychwanegol, roedd crynodeb o gydymffurfiaeth wedi ei ymgorffori yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Ar gwestiwn pellach, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod gwybodaeth ar Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ffurfio rhan o bapurau cefndir a oedd ar gael ar gais, a bod Asesiadau Effaith Integredig wedi eu crynhoi mewn adroddiadau strategol i’r Cabinet.

 

Ar adroddiad Incwm Rhenti Archwilio Cymru, cyfeiriodd y Cynghorydd Banks at y ddau gynnig ar gyfer gwella a holodd am yr angen i gamau gweithredu fod yn destun proses lywodraethu wleidyddol, yn arbennig y rhai hynny ar argymhelliad 1 yr oedd ef yn teimlo y gellid eu datrys yn llawer cynt.  Cytunodd y Prif Weithredwr i ddilyn hyn a darparu ymateb.

 

Ailadroddodd y Cadeirydd rôl y Pwyllgor mewn ceisio sicrwydd o drefniadau i ymateb i adroddiadau allanol a chyflawni camau gweithredu.  Er bod trefniadau wedi eu nodi yn y protocol adrodd, awgrymodd ei fod yn cael ei adolygu i roi eglurder ar gyfrifoldebau ar gyfer monitro cynnydd camau gweithredu a chyfeirio unrhyw faterion yn ôl at y Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg fod gwasanaethau’n gyfrifol am gyflawni camau gweithredu a chytunodd i gydgysylltu gyda’r Gwasanaethau Democrataidd i ymgorffori trefniadau olrhain o fewn y protocol.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i diwygiwyd eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Banks a Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd gan ymateb y Cyngor i adroddiadau rheoleiddio allanol;

 

(b)       Bod nodyn atgoffa yn cael ei anfon at wasanaethau yn datgan y dylai adroddiadau cynnydd ar gynlluniau gweithredu fod yn anwleidyddol; ac

 

(c)       Adolygu’r protocol adrodd allanol i egluro’r cyfrifoldebau ar gyfer cynnydd o ran monitro yn erbyn cynlluniau gweithredu ar ôl cyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill

Dyddiad cyhoeddi: 03/07/2023

Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/03/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Accompanying Documents: