Manylion y penderfyniad

Corporate Self-Assessment 2021-22

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To report on the findings and improvement plan following the completion of the Corporate Self-Assessment 2021/22.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y canfyddiadau a chynllun gwella yn dilyn cwblhau Hunanasesiad Corfforaethol cyntaf y Cyngor a hynny ar gyfer 2021/22.   Roedd yr adroddiad yn nodi’r dull tri cham a oedd yn canolbwyntio ar wyth o brif themâu ac yn dod i’r casgliad fod y Cyngor yn ymarfer ei swyddogaethau’n effeithiol, yn defnyddio adnoddau’n effeithiol a bod yna lywodraethu effeithiol mewn grym, gyda gweithio mewn partneriaeth yn sgorio fel yr ‘arfer gorau’.  Roedd yr adroddiad yn ymgorffori sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg tra roedd strategaethau mewn grym, roedd angen diweddaru rhai i adlewyrchu prosesau cyfredol.  Fe fu’n cynghori hefyd ar waith cyfredol i ddatblygu Cynllun newydd y Cyngor yn ymwneud â chysylltu â strategaethau allweddol i gefnogi cyflawni’r amcanion hynny.

 

Wrth ddarparu sicrwydd pellach, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai camau gweithredu i foderneiddio strategaethau yn cael eu dilyn yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gallai’r ddogfen gael ei symleiddio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod gan gynnwys mwy o fanylion i ddangos y dystiolaeth y tu ôl i’r sgorio.  Roedd hefyd yn cefnogi’r safbwynt a fynegwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am ymgynghoriad ehangach.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog (Llywodraethu) fod ymgynghori wedi ei nodi fel maes ar gyfer gwella a bod dull trosfwaol yn cael ei ddatblygu drwy gynyddu adnoddau.  Ystyriwyd yr hunanasesiad cyntaf fel peilot a oedd yn cynnwys trefniadau ar gyfer 2021/22 er mwyn datblygu proses yn absenoldeb canllawiau neu fodel cenedlaethol penodol.  Roedd ymgynghori mewnol yn digwydd wrth i Aelodau wirio’r ddogfen yn yr un modd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol i sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor am yr adborth a fyddai’n cael ei ddwyn ymlaen ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sicrwydd y byddai’r holl adborth yn llywio cynllun gwaith i atgyfnerthu’r broses ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.  Rhoddodd fanylion ymgynghoriad gan gynnwys gweithdy i Aelodau yn Ebrill/Mai.

 

Yn dilyn argymhelliad a gynigwyd gan y Parch Brian Harvey, cafodd yr argymhellion eu heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau’r Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu nodi;

 

(b)       Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn yr Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu nodi; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r angen i wneud y broses yn fwy cadarn a gwydn, gan gynnwys ymgynghori ehangach, er mwyn gyrru gwelliant.

Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill

Dyddiad cyhoeddi: 03/07/2023

Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/03/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Accompanying Documents: