Manylion y penderfyniad

Draft Statement of Gambling Policy Review

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu a Rheoli Pla) adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer cyflwyno Datganiad Drafft o Bolisi Gamblo i’r Cyngor llawn ar gyfer ei gymeradwyo ym Mehefin 2023.  Roedd y polisi yn nodi sut oedd y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau yn unol â Deddf Gamblo 2005.

 

Er bod gwaith cydweithredol ar draws Gogledd Cymru wedi cyflawni ffurf gyson, roedd meysydd penodol o’r Polisi wedi cael eu haddasu ar gyfer pob awdurdod.  Yn dilyn ei adolygiad, mae’r Polisi wedi bod yn destun ymgynghoriad gyda’r cyrff perthnasol a phartïon â diddordeb, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd ac Aelodau etholedig.  Pe gaiff ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn, byddai’r Polisi yn dod i rym o 21 Mehefin 2023 am gyfnod o dair blynedd.  Yn adran 6 o’r adroddiad, nodwyd fod y Datganiad Polisi Gamblo presennol wedi’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor trwy’r ddolen ganlynol: Datganiad Polisi Gamblo

 

Ymatebodd yr Arweinydd Tîm i gwestiynau a godwyd gan y Cadeirydd a’r Cynghorwyr Richard Lloyd a Gina Maddison.

 

Yn adran 8.1.4 y Polisi, cwestiynodd y Cynghorydd Carolyn Preece a ddylai cyfeiriad penodol at strategaethau iechyd meddwl gael eu cynnwys ar y cyd â’r rhai a grybwyllwyd eisoes ar ddiogelu ac iechyd cyhoeddus, yn arbennig gan fod y mater hwn wedi’i amlygu gan y Comisiwn Gamblo.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd nad oedd unrhyw ymateb wedi cael ei godi i’r ymgynghoriad a bod materion iechyd meddwl eisoes wedi’u hymgorffori o fewn adrannau eraill o’r Polisi, yn arbennig o fewn yr ystyr “iechyd cyhoeddus”.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn agored i Aelodau gynnig newidiadau i’w hargymell i’r Cyngor llawn a pe byddai’r newid yn un bach ac yn archwiliadol mewn natur, ni fyddai angen ymgynghoriad pellach.

 

Cynigiwyd y newid gan y Cynghorydd Preece ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Maddison.

 

O'i roi i bleidlais, collwyd y diwygiad.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad i gymeradwyo’r Polisi heb newid, fel y cynigiwyd gan y Cadeirydd a’i eilio gan y Cynghorydd Marion Bateman, eu pasio.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r newidiadau i’r Datganiad Polisi Gamblo; a

 

(b)       Cymeradwyo’r Polisi Drafft cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawr ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 13/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 01/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Pwyllgor Trwyddedu

Accompanying Documents: