Manylion y penderfyniad
Corporate Self-Assessment 2021-22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To report on the findings and improvement plan following the completion of the Corporate Self-Assessment 2021/22.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd i adrodd ar berfformiad a dywedodd ‘Rhaid i Gyngor gynhyrchu adroddiad hunanasesu ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Rhaid i’r adroddiad nodi ei gasgliadau yngl?n ag i ba raddau y mae wedi bodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn honno, ac unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd, neu y mae eisoes wedi’u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.’
Roedd proses tri cham wedi’i datblygu:
Cam un – dadansoddi a gwerthuso ‘wrth ddesg’.
Cam dau - canfod barn, ymgynghori ac ymgysylltu.
Cam tri - cyhoeddi’r asesiad terfynol a’r cynllun gwella.
Fel sefydliad, roedd canlyniadau'r Hunanasesiad Corfforaethol wedi nodi bod tystiolaeth dda o berfformiad yn erbyn yr asesiad, gan sgorio rhwng arfer da ac arfer gorau mewn 79% o'r cwestiynau a ofynnwyd. Mewn 15% o'r cwestiynau, nodwyd bod tystiolaeth dda / mwy o dystiolaeth yn ofynnol ac mewn 6% bod angen gweithredu pellach.
Roedd y thema / cwestiwn a gafodd sgôr ‘yr arfer orau un’ a nodwyd yn yr Hunanasesiad yn ymwneud â Thema F – Gweithio mewn Partneriaeth. Cafodd dwy thema / cwestiwn y sgôr ‘mae tystiolaeth yn bodoli ond mae angen gweithredu pellach’ yn ymwneud â Thema B – Cynllunio a Rheoli Adnoddau a Thema G – Ymgysylltu â Chwsmeriaid a’r Gymuned.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai ymgynghoriad gyda'r gweithlu, undebau llafur ac Aelodau ar y ddogfen ac y byddai'r tair thema a amlinellwyd uchod yn cael eu hailystyried. Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod gweithdy Aelodau yn cael ei drefnu ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet gan fod y ddogfen yn cael ei hadrodd i bob un o'r Pwyllgorau hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod canfyddiadau’r Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo; a
(b) Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn yr Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu cefnogi a’u cymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 11/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 25/04/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/05/2023
Dogfennau Atodol: