Manylion y penderfyniad

Investment and Funding Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Rhoddodd Mr Hughes y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am Fuddsoddi ac Ariannu, gan amlygu’r canlynol:

-       Mewn perthynas â diweddariad y cynllun busnes, yr oedd pob un namyn un o’r tasgau allweddol a amlygwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor wedi eu cwblhau – manylion yn 1.01.

-       Cyhoeddodd Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC) ymgynghoriad yn ddiweddar yn cynnig newidiadau i broses rheoli costau’r Bwrdd Cynghori Cynllun – crynodeb yn 1.03. Ni ddisgwylid i hyn gael unrhyw effaith uniongyrchol ar y Gronfa.

-       Cydnabuwyd y Gronfa yn Gronfa Bensiynau y Flwyddyn yng Ngwobrau Effaith Environmental Finance.

-       Amlygodd Mr Hughes adroddiad gan Robeco ar effaith gymdeithasol Deallusrwydd Artiffisial, ymysg astudiaethau eraill.

-       Mae’r Gronfa’n parhau i nodi cyfleoedd cynaliadwy, ac mae wedi gwneud dau ymrwymiad yn ddiweddar. Sef:

o   £15 miliwn i Newcore (Cronfa V), rheolwr eiddo tirol yn y DU, yn arbenigo mewn isadeiledd cymdeithasol.

o   £17 miliwn (tua $20 miliwn) i Sandbrook (Cronfa I), cronfa isadeiledd hinsawdd cyntaf rheolwr o UDA.

-       Yr oedd y Gronfa wedi llenwi swydd wag Cynorthwyydd Gweinyddol Llywodraethu’n ddiweddar, fodd bynnag, y mae dwy swydd wag yn parhau i fod yn y tîm Cyllid. Y flaenoriaeth oedd llenwi swydd y Prif Gyfrifydd, a oedd yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi diweddariad Buddsoddi ac Ariannu.

 

Awdur yr adroddiad: Sharon Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 21/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: