Manylion y penderfyniad
Funding Strategy Statement
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i Mr Middleman, Actiwari’r Gronfa, i fynd drwy bwyntiau allweddol yr adroddiad gyda’r Pwyllgor.
- Yn dilyn cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Gyllido drafft gan y Pwyllgor ym mis Tachwedd, yr oedd yr ymgynghoriad â chyflogwyr yn annog cyflogwyr i ddarparu adborth. Darparodd nifer o gyflogwyr ymatebion cadarnhaol yn gyffredinol mewn perthynas â llunio’r strategaeth, a oedd yn caniatáu’r hyblygrwydd i gyflogwyr i reoli eu cynaliadwyedd ariannol eu hunain yng nghyd-destun sefyllfa gyllido well y Gronfa.
- Yr oedd Datganiad y Strategaeth Gyllido yn gosod fframwaith gyda gofyniad isafswm cyfraniad cyflogwr yr oedd y Gronfa’n ei deimlo oedd yn gynaliadwy; fodd bynnag, mynegodd nifer o gyflogwyr fwriad i dalu mwy na’r isafswm gofynnol hwn er mwyn cynorthwyo cynaliadwyedd cyfraniadau ymhellach. Nododd Mr Middleman fod hyn yn ganlyniad cadarnhaol a’i fod yn dangos bod y negeseuon yngl?n â chynaliadwyedd wedi eu clywed ac y gweithredwyd arnynt.
- Yn dilyn ymgysylltu â’r cyflogwyr, ni chafwyd unrhyw newidiadau i ragdybiaethau sylfaenol yn yr adroddiad ers i’r Pwyllgor dderbyn y drafft. Tynnodd Mr Middleman sylw tuag at baragraffau 1.08 ac 1.09, a oedd yn rhoi sylw i ddau newid i’r strategaeth ers y drafft.
o Yr oedd risg hinsawdd wedi ei feintioli gan yr actiwari gan ddefnyddio goblygiadau o dan wahanol sefyllfaoedd. Gwnaed hyn ar sail gyson i ddadansoddiad ar yr enillion disgwyliedig, fel y trafodaethau cynharach.
o Ychwanegwyd geiriad i’r polisi Terfynu yn nodi y gall cyflogwyr adael y Gronfa gyda chredyd neu ddyled ymadael, gan alluogi’r gallu ffurfiol i adolygu’r polisi, ond nodwyd nad oedd disgwyl i unrhyw rai o’r cyflogwyr, neu lawer ohonynt, adael y Gronfa.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r gweithgareddau fu ers y cyfarfod ym mis Tachwedd 2022, gan gynnwys ymgysylltu â chyflogwyr.
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Datganiad y Strategaeth Gyllido.
Awdur yr adroddiad: Sharon Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 21/04/2023
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Dogfennau Atodol: