Manylion y penderfyniad

Investment Strategy Review and Statement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd Mr Harkin o Mercer yr argymhellion yn dilyn Adolygiad y Strategaeth Fuddsoddi, a Datganiad arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi, gan bwysleisio’r canlynol:

 

-       Yr oedd proses adolygu Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi wedi ei hoedi rywfaint oherwydd yr effaith a gafodd cyllideb fechan y Canghellor blaenorol ar farchnad Fondiau Llywodraeth y DU a ffactorau eraill sydd wedi dadsefydlogi marchnad y DU.

-       Effaith cronni a thrawsnewidiad y Gronfa i ddefnyddio cyfalaf drwy PPC.

-       Themâu cyfredol gan gynnwys yr argyfwng ynni, digwyddiadau geowleidyddol, chwyddiant, a’r cyfle i elwa o drawsnewidiadau.

-       Rôl y dosbarthiadau asedau cyfredol, gan gynnwys y Fframwaith Rheoli Risg ac Arian Parod, sydd â rôl gefndirol bwysig o ran mantoli risgiau ar gyfer y Gronfa.

-       Yr oedd enillion disgwyliedig y Gronfa yn fwy na’r gyfradd ostyngiad yr oedd ei hangen gan Actiwari’r Gronfa.

 

            Eglurodd Mr Harkin y rhesymau dros y mân newidiadau i’r dyraniad asedau, a oedd yn cynnwys:

-       Lleihau cydran ecwitïau’r marchnadoedd sy'n datblygu o 10% i 5%. Byddai’r 5% dros ben yn cael ei symud i Ecwitïau Marchnadoedd Datblygedig, a fyddai yn y pen draw yn cael ei fuddsoddi yng Nghronfa Gynaliadwy Ecwiti Byd-eang PPC.

-       Lleihau dyraniad y Gronfa Fantoli o 7% i 5%. Dyrennid y 2% dros ben i’r Gronfa Leol / Effaith.  Ychwanegodd Mr Dickson y byddai’r dyraniad Lleol / Effaith 6% hwn – yn ogystal ag adlewyrchu athroniaeth gynaliadwy ac athroniaeth effaith y Gronfa – yn cyd-fynd ac yn mynd y tu hwnt i gynlluniau disgwyliedig y Llywodraeth i gyflwyno’r orfodaeth i leoli 5% o asedau’n lleol – gyda ‘lleol’ yn golygu o fewn y DU.

 

            Dywedodd Mr Hibbert – yngl?n â’r buddsoddiad Ffyniant Bro ac Effaith – y bydd anhawster am fod effaith tai fforddiadwy / cymdeithasol yn cael ei ganolbwyntio yn y de-ddwyrain, felly byddai diffyg cyfleoedd buddsoddi wedi eu canoli mewn lleoedd eraill yn y DU.

            Gofynnodd Mr Hibbert hefyd i Gylch Gorchwyl Portffolio Dyraniad Tactegol, y cyfeirir ato ar dudalen 144, gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w adolygu. Cytunodd Mr Harkin, a nododd y bydd yn cael ei adolygu yn unol â’r gwaith arfaethedig i ymgorffori fframwaith buddsoddi cyfrifol newydd i’r Dyraniad Asedau Tactegol.

            Cyfeiriodd Mr Hibbert at Ddatganiad arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi ar dudalen 155, a gofynnodd am ychwanegu cyfeiriad at gynrychiolydd aelodau cynllun heb bleidlais ar y Cydbwyllgor Llywodraethu. Cytunodd Mrs McWilliam y byddai hyn yn ychwanegiad defnyddiol. Cyfeiriodd Mr Hibbert hefyd at dudalen 160, sy’n datgan mai “Ymgysylltu yw’r dull gorau o alluogi’r newid…”, ac eto amlygodd yr angen am eglurder yngl?n â phryd y gwneid penderfyniad am ddadfuddsoddi.

            Mewn perthynas â’r argymhellion, dywedodd y Cynghorydd Swash ei fod wedi rhoi ei farn o’r blaen bod dyddiad targed sero net y Gronfa, sef 2045, yn rhy hwyr. Pwysleisiodd fod Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog wedi cytuno ar 2030 fel targed. Cyfeiriodd y Cynghorydd Swash at Ddatganiad arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi (tudalen 161), gan amlygu targedau allyriadau carbon allweddol o fewn y Portffolio Ecwitïau Rhestredig. Cynigiodd y Cynghorydd Swash ddiwygiad i’r paragraff hwn i ychwanegu nod ychwanegol i leihau amlygiad i gwmnïau sy’n cloddio am danwydd ffosil, neu gwmnïau y mae eu prif fusnes yn ymwneud â masnachu tanwydd ffosil, 100% erbyn 2030.

            Cynghorodd Mrs McWilliam y Pwyllgor, er mwyn sicrhau llywodraethu cywir, dylai bod mater diwygio Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi gyda tharged buddsoddi newydd fod yn amodol ar y Pwyllgor yn derbyn cyngor ffurfiol ar y diwygiad arfaethedig a’i effaith. Argymhellodd y dylai Swyddogion a chynghorwyr ymchwilio ymhellach i oblygiadau’r cynnig, ac y dylid ystyried y mater ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol gyda’r cyngor priodol ar addasrwydd y diwygiad.

            Nododd y Cynghorydd Ellis gynnig y Cynghorydd Swash, a dywedodd y byddai’n gwerthfawrogi cyngor ar y mater.

            Nododd y Cynghorydd Wedlake, pe bai’r eitem hon yn cael ei gohirio er mwyn cael cyngor, byddai’n fuddiol cael cyngor yn datgan goblygiadau’r diwygiad. Teimlai y byddai’n bersonol yn cael anhawster derbyn Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi heb y wybodaeth hon, o ystyried egwyddorion sylfaenol dull gweithredu’r Gronfa o ran Buddsoddi Cyfrifol. Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn cytuno â’r Cynghorydd Wedlake.

            Wedyn, gofynnodd Mrs McWilliam i Mr Harkin a Mr Latham egluro a oedd unrhyw beth yn y papur drafft yr effeithid arno pe na chytunid ar yr argymhelliad i gymeradwyo Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi yn y cyfarfod Pwyllgor hwn. Dywedodd Mr Latham na allai’r symudiad i Gronfa Ecwiti Cynaliadwy Gweithredol PPC fynd yn ei flaen os na fyddai’r Pwyllgor yn cytuno ar y dyraniad asedau. Cytunodd Mr Harkin, pe cytunid ar newidiadau’r dyraniad asedau, ni fyddai unrhyw effaith uniongyrchol ar oedi cytundeb ar Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi tra mae’r Pwyllgor yn ystyried y diwygiad arfaethedig. Dywedodd Mr Latham yr ymgynghorwyd â gweithwyr Cronfa Bensiynau Clwyd yngl?n â Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi fel y mae ar hyn o bryd. Awgrymodd Mr Latham felly fod y Pwyllgor yn ystyried cymeradwyo’r argymhelliad cyntaf yn ymwneud â newidiadau i’r dyraniad asedau, ac y gall y Pwyllgor ddychwelyd i ystyried y diwygiadau i Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi, gan gynnwys y diwygiad arfaethedig gan y Cynghorydd Swash, yn ddiweddarach. Fodd bynnag nododd, o ystyried y rhaglen lawn ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth a’r amser y byddai Swyddogion ei angen i gael cyngor buddsoddi wedi ei reoleiddio’n gywir ar y diwygiad arfaethedig, ei bod yn debygol y byddai’n rhaid gohirio adolygu Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi tan gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin.

            Nododd y Cynghorydd Swash y byddai’n fodlon derbyn yr argymhelliad cyntaf, ond gohirio’r ail argymhelliad hyd nes byddant wedi derbyn cyngor pellach.

            Cytunodd y Cadeirydd i gynnal pleidlais ffurfiol, a wnaed gan Mrs McWilliam. Parthed yr argymhelliad i gytuno ar y newidiadau i Ddyraniad Asedau Strategol y Gronfa, pleidleisiodd y Pwyllgor yn unfrydol i gymeradwyo’r argymhelliad. Parthed yr ail argymhelliad i gymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi, dyma ganlyniad y bleidlais:

-       Un bleidlais dros dderbyn yr argymhelliad.

-       Chwe phleidlais yn erbyn derbyn yr argymhelliad.

-       Ymatalodd un Aelod rhag pleidleisio.

 

Ni chytunwyd felly ar yr ail argymhelliad.

Gofynnodd Mrs McWilliam i’r Cynghorydd Swash ddarparu manylion y diwygiad arfaethedig i’r Gronfa ei ystyried a sicrhau y byddai cyngor priodol yn cael ei ddarparu.

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Cytunodd y Pwyllgor ar y newidiadau i Ddyraniad Asedau Strategol y Gronfa.

(b)          Pleidleisiodd y Pwyllgor i ohirio cymeradwyo Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi tan gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin er mwyn gallu derbyn mwy o gyngor ar ddiwygiad posibl i’r Datganiad drafft presennol.

 

Awdur yr adroddiad: Sharon Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 21/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: