Manylion y penderfyniad

Climate Change Analysis Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Dywedodd y Cadeirydd fod y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd a dadansoddeg hinsawdd wedi eu trafod yn fanwl yn y sesiwn Hyfforddiant Hanfodol ddiweddar a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, ac, o ystyried bod yr adroddiad ar gyfer nodi’n unig, gofynnodd am gyfyngu cwestiynau / sylwadau i eglurhad o wybodaeth yn yr adroddiad a meysydd dealltwriaeth.

             Crynhowyd prif bwyntiau Adroddiad Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd agoriadol arfaethedig y Gronfa gan Mr Gaston o Mercer, a’r dadansoddiad o adnodd Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd. Dywedodd fod dull gweithredu’r Gronfa mewn perthynas â newid hinsawdd wedi ei ddogfennu’n dda yn Strategaeth Fuddsoddi’r Gronfa o ran credoau, prosesau a monitro ôl troed carbon, ochr yn ochr â buddsoddiadau mewn datrysiadau buddsoddi sy’n ymwybodol o’r hinsawdd. Y mae ymgynghoriad wedi bod ar adroddiadau’r Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ond nid yw’r gofynion wedi eu cwblhau eto. Mae’r Gronfa wedi llunio ei hadroddiad cyntaf flwyddyn yn gynnar, gyda’r bwriad o fireinio’r dull gweithredu a’i wneud yn unol â rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pan fyddant wedi eu gwneud.

            Parthed adroddiad y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd, pwysleisiodd Mr Gaston y canlynol:

-       Mae adroddiadau’r Tasglu wedi eu hanelu at gwmnïau, rheolwyr asedau a pherchnogion asedau (gan gynnwys cronfeydd pensiynau). Yr oedd y Gronfa’n ystyried hyn fel fframwaith arferion gorau, gan annog datgeliadau cywir, llywio’r gwaith o wneud penderfyniadau da parthed newid hinsawdd, ac annog safoni ledled y farchnad i ganiatáu i fuddsoddwyr nodi, asesu a rheoli’r risgiau a chyfleoedd.

-       Y pedwar piler sy’n cynnal y fframwaith yw Llywodraethu, Strategaeth, Rheoli Risg, a Metrigau a Thargedau. Strwythurwyd yr adroddiad drafft ar y seiliau hyn.

            Aeth Mr Gaston yn ei flaen i roi crynodeb o’r pedwar piler fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad.

            Dywedodd Mr Hibbert nad oedd yr asesiad a ddarparwyd yn cynnwys Dyraniad Asedau Tactegol y Gronfa. Nododd fod asesiad blaenorol wedi dangos bod gan y portffolio Tactegol ddwysedd carbon uwch am bob punt a fuddsoddir na’r mwyafrif o ddosbarthiadau asedau eraill, os nad y cyfan. Gofynnodd Mr Hibbert pam yr hepgorwyd y dyraniad hwn o’r asesiad presennol. Eglurodd Mr Gaston fod y Dyraniad Asedau Tactegol wedi ei gynnwys yn yr asesiad o fewn gwahanol fetrigau yn unol â faint oedd ar gael, a nodwyd y rhain yn yr atodiadau. Yr oedd y canlyniadau hynny’n dangos bod gan nifer o’r daliadau hynny ddwysedd carbon uwch na gweddill y portffolio. Nid yw’r Gronfa wedi gosod canllawiau a thargedau ffurfiol yngl?n â’r daliadau hynny eto, a nodwyd hyn fel cam nesaf o ran ehangu’r gwaith o osod targedau y tu hwnt i’r Ecwitïau Rhestredig i’r portffolio ehangach.

            Cyfeiriodd Mr Hibbert at ddatganiad ar dudalen 37, “Mae gan y Gronfa ymrwymiad i arfer ei hawliau perchnogaeth ynghlwm wrth ei buddsoddiadau”, a gofynnodd pwy oedd yn ymdrin â hyn mewn perthynas â stociau a rheolwyr cronfa yn y Dyraniad Asedau Tactegol. Eglurodd Mr Gaston fod ymgysylltiad dyddiol wedi ei ddirprwyo i reolwyr buddsoddi’r cronfeydd sylfaenol sy’n ffurfio’r Dyraniad Asedau Tactegol, a byddai gan y rheolwyr hyn gyfrifoldeb i ymgysylltu â’r cwmnïau y buddsoddir ynddynt a’u dwyn i gyfrif, yn ogystal â phleidleisio.

            Gofynnodd Mr Hibbert a oes unrhyw dystiolaeth bod y rheolwyr yn gwneud hyn, gan nad oedd wedi nodi unrhyw adroddiadau am ymgysylltu. O ystyried natur dwysedd carbon uchel y cwmnïau hynny, teimlai y byddai’n bwysig derbyn y diweddariadau hyn yn rheolaidd. Nododd Mr Gaston y gallai’r Gronfa ganfod y wybodaeth hon. Nid oedd hyn yn ffurfio rhan ffurfiol o’r gwaith adrodd i’r Pwyllgor ar hyn o bryd, ond byddai’r Gronfa’n disgwyl i’r rheolwyr hynny ymgymryd â stiwardiaeth arferion gorau.

            Ychwanegodd Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa, Mr Harkin, er eglurder, fod y Gronfa wedi buddsoddi yn ei hanfod yng nghynnyrch cronedig y rheolwr. Oherwydd bod y mandad wedi ei fuddsoddi mewn cronfeydd cronedig sylfaenol ar y platfform Mobius Life, nid yw buddsoddwyr yn gallu ymgysylltu na phleidleisio ar ran y Gronfa.

            Cyfeiriodd Mr Hibbert at dudalen 37, at y datganiad “Mae’r Gronfa’n integreiddio materion ESG yn ystod pob cam o broses gwneud penderfyniadau buddsoddi’r Gronfa”, gan nodi ei farn nad oedd y Gronfa’n integreiddio hyn i’r Dyraniad Asedau Tactegol. Eglurodd Mr Harkin fod buddsoddiad y Gronfa gyda chynnyrch cronedig y rheolwr, ac y byddai Swyddogion a chynghorwyr y Gronfa’n mynd ag ef ymaith i ystyried sut i sicrhau ymgysylltiad priodol â’r rheolwyr sylfaenol.  O ystyried mai fersiwn drafft o’r adroddiad oedd hwn, awgrymodd Mrs McWilliam fod swyddogion a chynghorwyr yn derbyn sylwadau Mr Hibbert i’w hystyried yn fersiwn nesaf yr adroddiad. Gofynnodd y Cadeirydd i Mr Hibbert a oedd yn cytuno â hyn, ac yr oedd ef yn fodlon gyda’r cam gweithredu.

            Ymhellach at hyn, dywedodd Mr Latham fod y cynllun hyfforddi’n cynnwys sesiwn wedi ei chynllunio ar bortffolio Syniadau Gorau y Dyraniad Asedau Tactegol, er mwyn rhoi gwell syniad i holl aelodau’r Pwyllgor am sut oedd yn gweithio, a byddai hynny efallai o gymorth tuag at eu dealltwriaeth o’r maes hwn.

            Aeth Mr Gaston drwy adroddiad Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd gyda’r Pwyllgor. Cynhaliwyd y dadansoddiad hwn ar 31 Mawrth 2022, gydag adroddiad y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd yn cwmpasu’r 12 mis hyd at yr un dyddiad. Yr oedd Dyraniad Asedau Tactegol Syniadau Gorau wedi ei gynnwys yn y dadansoddiad hwn lle’r oedd digon o ddata ar gael am y cronfeydd sylfaenol. Yr oedd y ddogfen hon yn rhoi sylw i fonitro’r targedau’r oedd y Gronfa wedi eu gosod, a deall gallu’r Gronfa i drawsnewid o fewn yr ecwiti rhestredig, ecwiti synthetig a chyfran restredig portffolio Credyd Aml-ased Partneriaeth Pensiwn Cymru Russell, a oedd â data ar ei gyfer.

            Eglurodd Mr Gaston fod y dadansoddiad wedi ei fwriadu hefyd i lywio cynllun gweithredu wedi ei ddiweddaru, i ddeall sut all y Gronfa ehangu dadansoddiad o fewn Ecwitïau Rhestredig a, thros amser, i osod targedau ffurfiol drwy’r portffolio cyfan, gan gynnwys y Dyraniad Asedau Tactegol.

            Gofynnodd Mr Hibbert am eglurhad am y geiriau “yn ystyrlon” wrth gyfeirio at ganfyddiad allweddol ar dudalen 22 bod “amlygiad tanwydd ffosil wedi gostwng yn ystyrlon o ran olew, nwy a glo”. Dyfynnodd Mr Gaston ffigyrau a gynhwyswyd yng nghrynodeb gweithredol adroddiad y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd ar dudalen 32, sy’n datgan bod cyfanswm yr allyriadau posibl o gronfeydd tanwydd ffosil (yn cynnwys glo, olew a nwy) wedi gostwng 29% dros y cyfnod o 12 mis. Dros yr un cyfnod, yr oedd amlygiad i allyriadau glo wedi gostwng 72%, ac amlygiad i allyriadau olew a nwy wedi gostwng 14%.

            Gofynnodd Mr Hibbert a oedd gwerth absoliwt y Gronfa ynghlwm â’r amlygiad wedi gostwng hefyd. Eglurodd Mr Gaston fod yr amlygiad i gwmnïau ag ychydig o amlygiad i danwydd ffosil wedi cynyddu dros y cyfnod, ond yr oedd y mesur a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn yn ystyried yr allyriadau posibl o danwydd ffosil am bob biliwn o ddoleri a fuddsoddwyd, felly yr oedd y cyfeiriad at yr amlygiad i danwydd ffosil wedi ei normaleiddio. Yr oedd gwerth y bunt a fuddsoddwyd mewn cwmnïau a oedd wedi cael unrhyw amlygiad i danwydd ffosil wedi cynyddu yn y 12 mis diwethaf. Nododd Mr Hibbert yr anhawster y byddai’r Gronfa yn ei gael wrth gyfathrebu hyn yn glir, pe gofynnid iddi. Eglurodd Mr Gaston ei fod ef yn credu bod y metrig allyriadau a ddefnyddiwyd yn fwy ystyrlon na’r amlygiad i gwmnïau gydag unrhyw gronfeydd tanwydd ffosil, oherwydd bydd gan rai cwmnïau fwy o amlygiad nag eraill. Fodd bynnag, yr oedd y ddau’n cael eu monitro a’u cynnwys yn yr atodiadau.

            Amlinellodd Mr Gaston feysydd allweddol yr awgrymir bod y Gronfa’n canolbwyntio arnynt dros y 12 i 18 mis nesaf, gan bwysleisio’r canlynol yn benodol:

-       Yn ogystal â’r ffocws parhaus ar ddatgarboneiddio, dylai’r Gronfa hefyd barhau i ganolbwyntio ar gwmnïau sydd â ffocws ar ddatrysiadau hinsawdd, megis yr £50 miliwn a ymrwymwyd yn ddiweddar i Ynni Glân yng Nghymru.

-       Dylai’r Gronfa hefyd ystyried pa lwybrau allyriadau y mae pob cwmni wedi alinio â hwy, er enghraifft 1.5 gradd yn unol â Chytundeb Paris, neu lwybr uwch yn cynhesu 4 gradd, ac ati.

-       Ymgysylltu a stiwardiaeth – mae’r dadansoddiad wedi dechrau edrych ar i ba raddau yr ymgysylltir â chwmnïau sy’n cynhyrchu’r gyfran uchaf o allyriadau neu i ba raddau y maent ar lwybr carbon isel. Y mae angen ystyried sut mae hyn yn cyfuno gydag ymdrechion stiwardiaeth drwy PPC (Partneriaeth Pensiwn Cymru) a Robeco.

 

            Gofynnodd Mr Hibbert, yngl?n ag ymgysylltu, a yw’n glir pryd fydd y Gronfa’n gwneud y penderfyniad i ddadfuddsoddi os nad yw’r ymgysylltu’n llwyddiannus. Atebodd Mr Gaston fod posibilrwydd o ddadfuddsoddi, o edrych ar Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi, ond ni wnaethpwyd hyn hyd yma. Yr oedd y dadansoddiad o adnodd Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd a gynhaliwyd gan Mercer ar ran y Gronfa wedi nodi’r ‘cwmnïau llwyd’ (y cwmnïau hynny gyda dwysedd carbon uchel iawn, sy’n dangos potensial cyfyngedig ar gyfer trawsnewid ar hyn o bryd), ac wedi dechrau gwneud gwaith monitro er mwyn nodi’r stociau allweddol a oedd â’r dwysedd carbon uchaf a risg newid hinsawdd uchel. Yr oedd angen trafodaeth ehangach gyda Robeco a PPC yngl?n â sut y maent yn ymgysylltu, ac os na welir digon o gynnydd dros gyfnod o amser, byddai dadfuddsoddi yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Cyfeiriodd Mr Hibbert at gyhoeddiad gan British Petroleum (BP) yngl?n â’i fuddsoddiad mewn mwy o gloddio a phuro. Amlygodd y risg na fyddai rhai cwmnïau’n gwneud newidiadau er mwyn trawsnewid i ddull gweithredu carbon is am y ddwy flynedd nesaf, o leiaf. Byddai hynny’n amser hir i aros heb i’r Gronfa gael llwybr clir ar gyfer symud i ddadfuddsoddi.

            Aeth Mr Gaston yn ei flaen i amlinellu’r prif feysydd y byddai’r Gronfa’n canolbwyntio arnynt yn y dyfodol agos, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad. Y pwnc allweddol olaf oedd bioamrywiaeth, a byddai’r ffordd y mae’n rhyngweithio â newid hinsawdd yn hollbwysig er mwyn i’r Gronfa gyrraedd targedau sero net dros amser.

            Nododd y Cynghorydd Wedlake ei bryderon am y materion yr oedd Mr Hibbert wedi eu codi yngl?n â’r datganiadau yn yr adroddiad a’r penderfyniadau a oedd yn sail i ganlyniadau tebygol dros y blynyddoedd nesaf. Cytunodd y Cynghorydd Swash gyda sylwadau’r Cynghorydd Wedlake. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r meysydd hyn yn cael eu cyflwyno eto i’r Pwyllgor ar gyfer eu hystyried ymhellach.

PENDERFYNWYD:

Ystyriwyd, trafodwyd a nodwyd adroddiad y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd ac adroddiad y Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd, a oedd yn cwmpasu’r cyfnodau hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022, gan y Pwyllgor.

 

Awdur yr adroddiad: Sharon Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 21/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: