Manylion y penderfyniad

Council Plan 2023-28 Development

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To share the Council Plan 2023-28 Part 1 and Part 2 draft content for review/feedback prior to sign off at Cabinet.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles wedi’u hadnewyddu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28, a oedd yn adlewyrchu golwg hirdymor ar adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod.  Roedd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 a’i fesurau a thargedau priodol, cyn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Evans at flaenoriaeth Tai Cymdeithasol a’r sylw yngl?n â sicrhau bod y cynnydd yng nghapasiti’r stoc yn bodloni’r anghenion a’r galw a nodwyd erbyn mis Mawrth 2028.  Gofynnodd a oedd hyn yn realistig.  Dywedodd y Prif Weithredwr mai uchelgais oedd hyn, ac os gellid cynyddu capasiti’r stoc ymhellach byddai hynny’n cynorthwyo gyda mynd i’r afael â’r materion a amlinellwyd i’r Pwyllgor mewn adroddiadau blaenorol.  Yr oedd y materion y dylid bod yn ymwybodol ohonynt yn ymwneud ag argaeledd tir a gofynion newydd yn ymwneud â ffosffad, ond yr oedd y Cyngor yn canolbwyntio ac yn benderfynol o gyrraedd y targed.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson sut fyddai’r gofynion newydd yn ymwneud â ffosffad yn effeithio ar y stoc dai bresennol.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd hyn yn ôl-weithredol, felly nid oedd yn berthnasol i’r stoc bresennol.  Dywedodd fod sail y gofynion newydd yn gywir a phriodol, a bod pawb eisiau afonydd anllygredig gydag ansawdd d?r o lefel uchel, ond byddai anawsterau yn ymwneud ag adeiladu os na ystyriwyd ffosffad fel rhan o’r atebion adeiladu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks a ellid darparu unrhyw ddata sylfaenol i ddangos bod prosiectau’n symud yn y cyfeiriad cywir. Eglurodd y Prif Weithredwr fod cynllun ar waith i fapio’r gwaith o ddarparu prosiectau, a byddai’n anfon y sylw hwn ymlaen i sicrhau bod yr Aelodau’n cael adroddiadau effeithiol yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu prosiectau yn y dyfodol. 

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd David Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi dogfennau Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y mesurau a’r risgiau sy’n sail i Flaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles Cynllun y Cyngor 2023-28.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 06/06/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/04/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: