Manylion y penderfyniad

School Parking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To provide information on the traffic regulation process and enforcement provision.

Penderfyniadau:

Cyn ystyried yr adroddiad, dywedodd y Cadeirydd fod pryderon wedi’u mynegi gan drigolion i bob Aelod ynghylch parcio mewn ysgolion. Dywedodd hi fod hyn yn dal i fod yn fater sy’n parhau, na ellir dibynnu ar un ateb i’w ddatrys. Gwnaeth hi ddiolch i’r Aelodau a oedd wedi anfon e-bost ati yn mynegi eu pryderon a’u pwyntiau yr oedden nhw’n dymuno eu codi i’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu a chroesawodd hi Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi i’r cyfarfod, a oedd wedi’u gwahodd o ganlyniad i fater o fewn cylch gwaith y ddau Bwyllgor. Gwnaeth hi ddiolch i awduron yr adroddiad am egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau'r partïon i gyd a weithiodd i ddatrys y mater hwn.

 

Gwnaeth y Cadeirydd hefyd groesawu Mr Andrew Dunbobbin, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i’r cyfarfod, sy’n bresennol er mwyn rhoi gwybodaeth am swyddogaeth yr Heddlu pan fo pryderon yn ymwneud â pharcio mewn ysgolion.

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg i’r Aelodau o’r problemau sy’n bodoli ar hyn o bryd yng nghyffiniau ysgolion y Sir, ac amlinellodd swyddogaethau a chyfrifoldebau’r partïon i gyd er mwyn ceisio dull cydweithredol a datrysiad effeithiol. Rhoddodd wybodaeth ynghylch sut yr oedd y timau ym Mhortffolio’r Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth wedi’u trefnu, yr adnoddau oedd ar gael i gefnogi hyn, sut yr oedd y ddeddfwriaeth yn gweithio a’r hyn y gellid ei gyflawni.

 

            Dywedodd y Rheolwr Cludiant fod parcio ger ysgolion yn broblem hanesyddol sydd wedi effeithio ar bob awdurdod lleol a'r rhesymau am hyn oedd lleoliad ysgolion, gyrru anystyriol a pheryglus a pharcio gan unigolion oherwydd bod mwy o rieni yn gyrru i'r ysgol yn hytrach na cherdded. Rhoddwyd gwybodaeth am fesurau Teithio Llesol a gwell isadeiledd a oedd yn cynnwys llwybrau mwy diogel yn y cynlluniau cymunedol, ynghyd â throsolwg o’r cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ei gyflawni ar safleoedd ysgolion.  O safbwynt diogelwch ar y ffyrdd, ymddygiad rhieni a achosodd lawer o’r problemau yn ymwneud ag ysgolion, a oedd hefyd yn gysylltiedig â’r tagfeydd ehangach ar y rhwydwaith ffyrdd, llygredd, ac allyriadau.

 

Adroddodd y Rheolwr Cludiant y cafwyd llawer o gwynion ynghylch parcio a thagfeydd traffig ynghyd â cheisiadau am adolygiadau diogelwch ffyrdd a bu'n rhaid i'r tîm Traffig a Chludiant bach sy'n cefnogi hyn gynnal asesiadau, dylunio cynlluniau ac yna gwneud cais am arian grant oedd ar gael.  Gan gyfeirio at Orfodi, rhoddodd wybodaeth am y tîm bach o Swyddogion Parcio Sifil yr oedd gofyn iddyn nhw hefyd gyflawni dyletswyddau gorfodi eraill.  Cafodd amlinelliad o’r ardaloedd gorfodi priffyrdd y cafodd eu cwmpasu gan Heddlu Gogledd Cymru a'r Cyngor a'r hierarchaeth o ran cyfrifoldeb yn ymwneud â rheoli traffig a pharcio, ei nodi yn yr adroddiad. 

 

            Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio drosolwg o'r Tîm Gorfodi Parcio Sifil, a oedd yn cynnwys 10 Swyddog, 1 Goruchwyliwr ac 1 Rheolwr.  Roedd gan y tîm hwn gylch gwaith eang iawn, ac amlinellodd hi’r traffig, yr amgylchedd a meysydd gwaith eraill yr oedden nhw’n ymwneud â hwy, a nodi bod y galw ar y tîm hwn yn cynyddu. Rhoddwyd gwybodaeth am orfodi yn y 78 o ysgolion, ac roedd gan 25 o ysgolion gyfyngiadau traffig gweithredol ar waith ynghyd ag esboniad am yr amrywiaeth o gyfyngiadau traffig. Trefnwyd bod Swyddogion Gorfodi yn mynd i ysgolion bob dydd yn enwedig pan fyddai llawer o gwynion wedi’u gwneud neu pan fyddai cwynion parhaus. Gwnaethon nhw wisgo iwnifform weladwy a chadarnhau bod y rhan fwyaf o rieni yn cydymffurfio â'r rheoliadau traffig a oedd ar waith pan yr oedden nhw’n bresennol, gan nodi y bu diffyg cydymffurfio pan nad oedden nhw’n bresennol.  Ceisiodd y tîm ymweld â phob ysgol, ond o ganlyniad i faint y tîm a nifer yr ysgolion nid oedd yn bosibl mynd i bob ysgol bob dydd gan fod yr adnoddau wedi’u gwasgaru ar draws y rhwydwaith cyfan.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cludiant fod parcio ar ffyrdd clir yn golygu y byddai unigolyn yn cael dirwy ar unwaith, ond bod llinellau melyn dwbl a sengl yn caniatáu i gar stopio am hyd at 5 munud.  Roedd y broses Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn broses gymhleth a drud iawn a gallai gymryd rhwng 6 mis a 2 flynedd i’w chwblhau a phan fyddai’r cyfyngiadau hyn ar waith, bydden nhw hefyd yn effeithio ar y trigolion lleol.   Eglurwyd hefyd am y defnydd o system adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) a Theledu Cylch Caeëdig (CCTV) ond dim ond pan fo llinellau igam-ogam a mannau croesi “ysgol - cadwch yn glir” yn bresennol yr oedd y rhain yn weithredol.

 

            Gwnaeth yr Aelodau nifer o sylwadau a gofyn llawer o gwestiynau a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 y cofnodion.  Byddai'r sylwadau a wnaeth yr Aelodau yn cael eu casglu ar gyfer gwaith y Gr?p Tasg a Gorffen i fod yn sail i'w hymchwiliad i ddatrys y mater hwn.

 

            Dywedodd Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden fod hwn yn broblem ar gyfer pob ysgol a bod cost gosod cyfyngiadau y tu allan i ysgolion hefyd yn ddrud iawn.  Roedd hwn yn fater i rieni, a oedd yn achosi'r problemau hyn trwy eu gweithredoedd ac apeliodd arnyn nhw i ystyried a oedd angen parcio wrth gatiau'r ysgol neu ar balmentydd.  Cytunodd â'r cynnig i sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen, a fyddai'n galluogi Aelodau lleol i dynnu sylw at eu pryderon unigol am eu hysgolion. Roedd yn credu y dylai enghreifftiau o arferion da, fel bysiau cerdded, hefyd gael eu hystyried yn rhan o waith y Gr?p Tasg a Gorffen.   

 

            Gwnaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ddiolch i'r Pwyllgor am y gwahoddiad a nododd mai ef oedd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd cyntaf yng Ngogledd Cymru i gynnwys diogelwch ffyrdd yn ei Gynllun Heddlu a Throsedd.  Dywedodd ei fod yn falch o weithio gyda'r Awdurdod a'r holl Awdurdodau Lleol ledled Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn y tu allan i ysgolion i sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel.  Adroddodd ar y gwaith ymchwil yr oedd ei dîm wedi'i wneud, gan edrych ar ba gynlluniau oedd ar gael yng Nghymru a Lloegr a gwnaeth sylwadau ar gynllun strydoedd Ysgol yn Redbridge, Cyngor Bwrdeistref yn Llundain.  Roedd gan y Cynllun barthau dynodedig a oedd yn sicrhau bod rhai strydoedd yn cau neu fod traffig yn cael ei ddargyfeirio ar amseroedd penodol i leihau’r pwysau ar yr ysgol a galluogi plant i gyrraedd yr ysgol yn ddiogel.  Cysylltwyd â Chyngor Bwrdeistref Redbridge i gael gwell dealltwriaeth o sut y gwnaethon nhw’r gwaith hwn a chytunodd rannu'r ddolen i'r wefan â'r Aelodau sy’n cynnwys gwybodaeth, ar ôl y cyfarfod.  Gan gyfeirio at argymhellion yr adroddiad, dywedodd y byddai'n croesawu'r cyfle i weithio gyda'r Gr?p Tasg a Gorffen a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weld sut yr oedd hyn yn datblygu i sicrhau bod plant mor ddiogel ag y gallen nhw fod yn mynd i'r ysgol.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden fod llawer o'r mesurau lliniaru yn ymwneud ag adnoddau ariannol ychwanegol.  Roedd yn gobeithio pan fyddai'r Gr?p Tasg a Gorffen yn cyflwyno ei argymhellion bod Aelodau o'r siambr yn cefnogi unrhyw gynnydd angenrheidiol o ran costau staffio a chostau cynnal a chadw priffyrdd.  Roedd yn gobeithio y byddai'r Gr?p Tasg a Gorffen yn canolbwyntio ar addysgu neu newid agwedd y lleiafrif bach o rieni a oedd yn achosi'r problemau hyn. 

 

            Roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn deall yr heriau yr oedd pob gwasanaeth cyhoeddus yn eu hwynebu o fewn eu cyllidebau priodol yn llwyr ac yr oedden nhw’n dymuno cynnig rhywfaint o gymorth ariannol i archwilio cynllun peilot a nodwyd drwy'r Gr?p Tasg a Gorffen.  Byddai'n croesawu'r cyfle i weithio gyda'r Gr?p Tasg a Gorffen a dywedodd fod posibilrwydd o wneud cais am gyllid drwy Ymddiriedolaeth Gofal Cyngor Carchardai (PACT) ac Arloesi i Dyfu, a fyddai wedyn yn gorfod mynd drwy'r broses ymgeisio.

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r materion hanesyddol sy'n gysylltiedig â pharcio o fewn cyffiniau ysgolion, a chydnabod cyfrifoldebau defnyddwyr y priffyrdd yn unol â gofynion Rheolau'r Ffordd Fawr;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r hierarchaeth o ran cyfrifoldeb yn ymwneud â rheoli traffig o fewn cyffiniau ysgolion ac yn cydnabod rôl gorfodi fel mesur adweithiol yn hytrach na dull o atal digwyddiad yn y lle cyntaf; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo creu Gr?p Tasg a Gorffen ar y cyd er mwyn ymchwilio i’r materion yn fanylach a datblygu dull cydweithredol ac ataliol â budd-ddeiliaid allweddol, a fydd yn cynnwys:-

 

           Aelodau Etholedig o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a'r Economi;

           Swyddogion o bortffolios Addysg ac Ieuenctid a Gwasanaethau Stryd a Chludiant;

           Penaethiaid

           Gwahodd Aelodau Etholedig yn ôl yr angen;

           Gwahodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru yn ôl yr angen.

 

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 17/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 23/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Dogfennau Atodol: