Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 9) and Capital Programme 2022/23 (Month 9)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

The purpose of this report is to provide Members with the Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 9) Report and the Capital Programme 2022/23 (Month 9) Report, and Significant Variances.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) sefyllfa  monitro cyllideb refeniw 2022/23 ym mis 9 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau ac/neu wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau - oedd diffyg gweithredol o £0.117 miliwn.  Byddai hyn yn gadael balans cronfa wrth gefn at raid o £6.464 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn (ar ôl effaith y dyfarniadau cyflog terfynol) ac yn cynnwys £2.432 miliwn wedi’i drosglwyddo o’r dyraniad Cynnal Refeniw ychwanegol a dderbyniwyd ar ddiwedd 2021/22, fel yr adroddwyd ym mis 8.

 

Cafwyd crynodeb o symudiadau sylweddol ar draws portffolios o fis 8, ynghyd â cheisiadau i ddwyn arian ymlaen ar gyfer offer gweinydd newydd i ysgolion, a chais am gyllid o’r Gronfa wrth Gefn at Raid i dalu costau achos cyfreithiol arwyddocaol o fewn y Gwasanaethau Plant.   Er i’r gwaith olrhain risgiau o fewn y flwyddyn adrodd am y sefyllfa bresennol gyda lefelau casglu Treth y Cyngor a dyfarniadau cyflog, roedd effaith y galw uwch am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir a chludiant ysgol yn cael ei fonitro’n agos i ganfod yr effaith yn y tymor canolig.  Tynnwyd sylw at bwysau a oedd yn dod i’r amlwg, fel costau cynnal a chadw’r gaeaf a’r Tâl am Dorri Rheolau Ailgylchu Gwastraff, ynghyd â balansau diwedd blwyddyn a ragwelwyd ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant a ragwelir o £3.208 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn, yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.266 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd Bill Crease am y gostyngiad a ragwelir ym malansau’r ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhain wedi’u seilio ar wybodaeth leol swyddogion sy’n gweithio gyda’r ysgolion, ac y gallai grantiau hwyr gael effaith arnynt, ond ni fyddai’r symiau penodol yn hysbys nes cau’r cyfrifon.

 

Bu i’r Cadeirydd gydnabod y symudiadau amrywiol sy’n cyfrannu at y symudiad cadarnhaol o £0.235 miliwn o fis 8.  Mewn ymateb i gwestiynau, cytunodd y swyddogion i ymateb ar wahân ar symudiad costau gofal tymor byr o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ac ar gydbwyso’r mân amrywiadau a ddangosir yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd am reoli’r risg o amgylch Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, eglurodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Christine Jones fod buddsoddiad yng Nghanolfan Asesu Plant T? Nyth a Pharc Bromfield yn llunio rhan o strategaeth ehangach i ddatblygu darpariaeth fewnol a fyddai’n cyfrannu at leihau’r pwysau hynny.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 oedd £71.565 miliwn, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y cyfnod wedi digwydd yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ar draws y portffolios ac ailbroffilio’r gyllideb.  Roedd y sefyllfa alldro a ragwelwyd yn £68.505 miliwn, a oedd yn gadael £3.060 miliwn o danwariant, yr argymhellwyd y dylid ei gario drosodd er mwyn cwblhau cynlluniau yn 2023/24 fel y nodwyd.  Roedd y diweddariad hefyd yn adlewyrchu dau ddyraniad ychwanegol i gael eu hariannu o fewn y ddarpariaeth hyblyg gyfredol a darpariaeth Iechyd a Diogelwch, ynghyd ag arbedion untro i gael eu dychwelyd yn ôl i’r rhaglen.  Roedd y sefyllfa gyffredinol o ran ariannu cynlluniau a gymeradwywyd yn dangos £4.258 miliwn o arian dros ben, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol ac/neu ffynonellau cyllid eraill.

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r swyddogion a’r timau a oedd yn gyfrifol am gydgasglu’r wybodaeth fanwl.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Kevin Rush a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (mis 9), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (mis 9), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham

Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 09/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: