Manylion y penderfyniad

Budget 2023/24 and the Welsh Local Government Provisional Settlement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To update on the budget estimate for 2023/24 and the implications of the Welsh Local Government Provisional Settlement which was received on 14th December.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am:

 

·         brif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru;

·         adborth o gyfres o gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, oedd ynghlwm â’r adroddiad;

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau a risgiau i’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24; a

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr ystod o ddatrysiadau cyllidebol sydd ar gael i’r Cyngor er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys.

 

Yn dilyn adroddiad i’r Cabinet ym mis Tachwedd pan gafodd y gofyniad bwlch ychwanegol yn y gyllideb ei amcangyfrif yn £32.448m, derbyniwyd Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar 14 Rhagfyr. Oherwydd y symiau canlyniadol oedd yn codi o gyhoeddiadau cyllideb y DU yn ddiweddar, roedd y Setliad yn well a byddai’n cyfrannu £19.568m at y gofyniad a adroddwyd yn flaenorol o £32.448m a byddai angen dod o hyd  i’r swm sy’n weddill o feysydd eraill y datrysiadau cyllideb yn yr adroddiad.

 

Adroddwyd yn flaenorol ar nifer o risgiau parhaus fyddai’n cael effaith bosibl ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol yn cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer dyfarniadau cyflog, ansicrwydd am barhad cyllid yn y gwasanaeth digartrefedd a lefelau’r galw am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir. Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau hynny.

 

Cafodd y dewisiadau oedd ar gael i’r Cyngor i fodloni’r gofyniad cyllidebol sylweddol eu crynhoi yn yr adroddiad.  Roedd angen ystyried y datrysiadau o ran:

·         Gostyngiadau i Gostau Portffolios

·         Gostyngiadau Ariannu Corfforaethol

·         Gostyngiadau i Gostau Ysgolion

·         Cynyddu Treth y Cyngor

 

Cyflwynwyd adroddiad i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr ac ni ddynodwyd unrhyw feysydd newydd o arbedion effeithlonrwydd. 

 

Yna, cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 12 Ionawr 2023, oedd ar agor i bob Aelod o’r Cyngor a rhoddwyd manylion y cwestiynau a ofynnwyd.

 

Roedd cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24 ar y rhaglen i gael ei hargymell gan y Cabinet i’r Cyngor ar 23 Chwefror 2023.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr gefndir heriol y broses o osod y gyllideb, a allai fod yn anodd yn 2024/25 hefyd oherwydd y risgiau sy’n wynebu’r awdurdod.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gwaith bellach yn canolbwyntio ar y risgiau fel yr amlinellwyd gan y Cynghorydd Johnson. Byddai adroddiad yn argymell y gyllideb yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 23 Chwefror cyn cael ei ystyried gan y Cyngor Sir yn y prynhawn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r gwaith sydd ar ôl i’w gwblhau cyn cytuno ar gyfres o argymhellion i’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 17/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/01/2023 - Cabinet

Yn effeithiol o: 26/01/2023

Accompanying Documents: