Manylion y penderfyniad
Employment and Workforce End of Year Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present end of year workforce statistics and their analysis.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad diweddaru diwedd blwyddyn ar ystadegau a dadansoddiad y gweithlu ar gyfer 2022/23.
Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) drosolwg o’r meysydd allweddol, gan gynnwys y cynnydd mewn trosiant staff a oedd yn bennaf oherwydd y farchnad lafur bresennol, a rhoi’r gorau i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu lle’r oedd rhai gweithwyr wedi’u hadleoli’n llwyddiannus i swyddi eraill.
Cafwyd ychydig o welliant mewn presenoldeb o 2021/22, ac iechyd meddwl yw’r prif reswm o hyd dros absenoldebau, problemau cyhyrysgerbydol yn ail. Nodwyd bod y gyfradd absenoldeb cyfwerth â llawn amser o 5.59% yn Sir y Fflint yn dilyn y duedd genedlaethol. Nododd data diweddar a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyfradd absenoldeb uwch nag erioed yn y DU ers 2004, a nododd gyfraddau absenoldeb uchel ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus ym maes gofal, hamdden a gwasanaethau rheng flaen yn 2022/23. Nododd y data hefyd fod cyflyrau iechyd hirdymor ar eu huchaf ers 2008.
Atgoffwyd y Pwyllgor am yr ystod o ymyriadau a chefnogaeth sydd ar gael i weithwyr y Cyngor, tra'n nodi ffactorau eraill megis y nifer cynyddol o broblemau iechyd sy'n gysylltiedig ag oedran ac anghenion mwy cymhleth defnyddwyr gwasanaethau mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Yn ogystal, roedd ôl-groniad apwyntiadau meddygol allanol, asesiadau a thriniaethau mewn llawer o achosion yn estyn absenoldebau ac yn atal gweithwyr rhag dychwelyd i'r gwaith; problem sy’n berthnasol ledled y DU.
O ran gweithwyr asiantaeth, dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd pob un o'r 91 o leoliadau gweithredol a gofnodwyd ar 31 Mawrth 2023 yn ymgysylltu ac yn gweithio ar yr adeg honno. Er bod gwariant cronnol ar asiantaethau wedi rhagori ar y targed, roedd y rhan fwyaf o'r tanwariant cyflog o nifer uchel o swyddi gwag yn y Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y cyfnod wedi'i ddefnyddio ar gyfer penodiadau asiantaeth. Yn ogystal â chael diweddariad ar ymarferion recriwtio yn y Gwasanaethau Stryd, atgoffwyd yr Aelodau bod gweithwyr asiantaeth yn adnodd hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau'r Cyngor.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol enghreifftiau o fanteision defnyddio gweithwyr asiantaeth ochr yn ochr â'r broses recriwtio. O ran presenoldeb, nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod gweithio gartref yn cyfrannu at absenoldebau a byddai arolwg pellach i weithwyr yn helpu i nodi unrhyw broblemau. Eglurwyd bod mwyafrif helaeth y staff yn gweithio yn eu gweithle arferol, gan gynnwys Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Gofal Cymdeithasol, sef y cofnod uchaf o absenoldebau.
Meddai’r Prif Weithredwr, er gwaethaf ymyrraeth gynnar gan y tîm Iechyd Galwedigaethol i gefnogi gweithwyr sy'n dychwelyd i'r gwaith, roedd adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn adlewyrchu effaith genedlaethol ôl-groniad apwyntiadau meddygol allanol. Dywedodd ei bod yn bwysig deall y gofyniad sylfaenol ar gyfer gweithwyr asiantaeth mewn gwasanaethau rheng flaen fel y Gwasanaethau Stryd, a siaradodd am gynlluniau i symleiddio'r broses ymgeisio ar gyfer y gweithwyr asiantaeth hynny sydd wedi bod mewn swyddi gwag ers nifer o fisoedd.
Awgrymodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i godi pryderon am effaith ôl-groniad yn y gwasanaeth iechyd.
Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr fod y problemau ehangach ym maes iechyd yn cael eu cydnabod yn glir ac y byddai angen i gynghorau weithio drwy'r heriau hynny.
Dywedodd y Rheolwr Corfforaethol fod data absenoldeb cymharol a gafwyd gan awdurdodau Cymreig eraill hyd yma yn dangos bod Sir y Fflint ar hyn o bryd yn y chwartel uchaf o ran presenoldeb. Cytunodd i rannu dadansoddiad o'r ystod lawn o ddata adeg ei gyhoeddi ym mis Medi.
Wrth siarad am ei phrofiadau ei hun, diolchodd y Cynghorydd Gina Maddison i'r swyddog am dynnu sylw at salwch sy'n gysylltiedig ag oedran, a fyddai'n anochel yn cynyddu ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus wrth i'r oedran pensiwn gynyddu.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bill Crease, rhoddwyd eglurhad ar y fframwaith a ddefnyddir gan y Cyngor ar gyfer penodi gweithwyr asiantaeth.
Pan ofynnodd y Cynghorydd Jason Shallcross iddo am absenoldebau yn gysylltiedig â rolau a lleoliadau, siaradodd y Rheolwr Corfforaethol am y prif effaith ar wasanaethau rheng flaen megis Gwasanaethau Stryd, lle mai iechyd meddwl oedd y prif reswm dros absenoldeb. Aeth ymlaen i ddarparu gwybodaeth am bolisi cadarn y Cyngor ar gyfer gweithwyr sy’n adrodd am absenoldebau, atgyfeirio salwch sy’n gysylltiedig â straen i Iechyd Galwedigaethol a’r dull cyfunol o gynnal cynadleddau achos ar gyfer absenoldebau hirdymor.
Gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash a oedd data ar absenoldebau oherwydd iechyd meddwl yn cael ei ddadansoddi’n faterion sy’n ymwneud â gwaith neu faterion nad ydynt yn ymwneud â gwaith. Dywedodd y Rheolwr Corfforaethol nad oedd hyn yn cael ei gofnodi a bod cefnogaeth yn cael ei roi beth bynnag fo'r rhesymau, gydag atgyfeiriadau Iechyd Galwedigaethol ac asesiadau risg straen yn nodi unrhyw faterion yn ymwneud â gwaith i fynd i'r afael â hwy. Cytunodd i adolygu data ar y staff sy’n gadael ysgol yn wirfoddol, er mwyn sefydlu a oedd gwybodaeth ar gael am y gyfran sy'n gadael i weithio mewn ysgol arall yn hytrach na gadael y proffesiwn addysg yn gyfan gwbl.
Ar gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Rush, eglurwyd ei bod yn ofynnol i reolwyr sicrhau bod gweithwyr yn cwblhau asesiad Offer Sgrin Arddangos ar gyfer y gweithle, gan gynnwys unrhyw ardaloedd gweithio o gartref.
Tra'n cydnabod yr esboniadau ynghylch cyfraddau absenoldeb a gwariant ar asiantaethau, holodd y Cadeirydd a ddylai'r targedau fod yn fwy realistig. Dywedodd y Rheolwr Corfforaethol fod targedau'n cael eu hadolygu a bod cydbwysedd i sicrhau eu bod yn ddigon heriol i geisio gwelliant. O ran cwestiynau eraill, rhoddodd wybodaeth am lwyddiant y rhaglen brentisiaeth ac ar y trosiant staff o 11.46% ar gyfer 2022/23, cytunodd i ymchwilio i ddata awdurdodau tebyg er mwyn eu cymharu.
Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau am y dull o reoli gwariant gweithwyr asiantaeth a'r cyd-destun y tu ôl i'r data a ddangoswyd yn yr adroddiad. Byddai'n myfyrio ar y sylwadau a wnaed ynghylch targedau cyraeddadwy a godwyd gan y Cadeirydd, gan nodi bod y dirwedd wedi newid ac efallai y bydd bellach angen ystyriaeth o'r fath.
Amlygwyd gan y Rheolwr Corfforaethol bod canlyniadau ar gyfer pedwar o'r naw maes wedi bod yn is na'r targed ac awgrymodd y dylai unrhyw adolygiad gydnabod y gwahanol ofynion ar wasanaethau.
Dywedodd y Cadeirydd y gellid asesu targedau yn fwy cyffredinol ac y dylai data ar werthusiadau fod yn rhan o adroddiadau yn y dyfodol, yn enwedig i roi sicrwydd ar brosesau ar gyfer y rhai sy'n gweithio gartref.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i'r swyddogion am yr adroddiad a'r cyd-destun cenedlaethol y tu ôl i rywfaint o'r data. Diolchodd hefyd i’r Aelodau am eu sylwadau.
Mewn ymateb i sylwadau ar amlder yr adroddiad, gofynnodd y Cadeirydd i gael un bob chwe mis.
Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bill Crease a Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
Nodi Adroddiad Gwybodaeth y Gweithlu Diwedd Blwyddyn ar gyfer 2022/23.
Awdur yr adroddiad: Andrew Adams
Dyddiad cyhoeddi: 24/07/2023
Dyddiad y penderfyniad: 18/05/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: