Manylion y penderfyniad

Climate Change Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide an update on progress within the climate change programme.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd yn 2019 bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi galw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon sero net erbyn 2030.  Yn dilyn y datganiad hwnnw, roedd y Cabinet wedi penderfynu ym mis Rhagfyr 2019 ar Strategaeth Newid Hinsawdd a fyddai’n gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon sero net erbyn 2030. 

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r cynnydd a wnaed yn 2021/22 ar draws y prif themâu yn y strategaeth: Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, Defnydd Tir ac

Ymddygiad.

 

Bu cynnydd o 1% yng nghyfanswm yr allyriadau carbon ar gyfer 2021/22 o waelodlin 2018/09.  Bu gostyngiad ym mhob ffynhonnell allyriadau carbon y tu hwnt i’r targedau canran, heblaw am Gaffael gafodd cynnydd o 24%. Roedd yr allyriadau o’r ffynhonnell yma’n uniongyrchol gysylltiedig â gwerth gwariant ac felly, roedd y fethodoleg bresennol yn effeithio’n andwyol ar gyfanswm ôl-troed carbon y Cyngor.

 

Roedd y gwaith o symud y fflyd ceir i ddewisiadau carbon isel eraill a darparu isadeiledd gwefru cerbydau trydan ar gyfer fflyd y Cyngor yn mynd rhagddo’n araf. Roedd yna hefyd angen i sefydlu newid hinsawdd a lleihau carbon ar draws y Cyngor, a gallai mwy o welededd a darparu hyfforddiant gyflawni hynny.

 

Byddai rheoli datblygiad ynni effeithlon yn adeiladau’r Cyngor yn galluogi gostyngiadau parhaus ar gyfer y thema hwnno.   Roedd y meysydd hynny angen ffocws penodol a chefnogaeth refeniw dros y blynyddoedd i ddod er mwyn cyflynu datgarboneiddio ac i aros ar y trywydd tuag at y nod o fod yn sero carbon net erbyn 2030.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno'n ddiweddar i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a ffurfiwyd yn ddiweddar, lle cafodd casgliadau’r adroddiad, a’r argymhellion eu cefnogi.   Cafodd ei gyflwyno hefyd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, lle cafodd ei gefnogi.  Byddai portffolio’n cael ei enwi i gynnal peilot ar gaffael.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell am gaffael, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r effaith caffael fyddai 60/70% bob amser ar unrhyw gorff sector cyhoeddus.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adrodd gostyngiad sylweddol felly fe gysylltwyd â nhw er mwyn canfod y manylion o ran sut maent wedi cyflawni hyn.  Roedd hi’n her y mae angen i bob corff cyhoeddus yng Nghymru fynd i’r afael â hi.

 

Fe ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cytunwyd yn ddiweddar gyda Chyngor Sir Ddinbych y byddant yn penodi Swyddog Lleihau Carbon a fyddai’n gweithio mewn ffordd debyg i’r Swyddog Gwerth Cymdeithasol, i weithio gyda’r portffolio peilot er mwyn sefydlu sut y gallai manylion gwasanaeth gael eu hymestyn ar bethau megis adeiladu cartrefi a chludiant.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson ei fod yn aelod o’r Cyd-fwrdd Rheoli Caffael a chafodd hyn ei godi yn y cyfarfod diwethaf.   Roedd Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo’n llwyr i hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a nodi’r cynnwys;

 

(b)       Cefnogi gwella cyfathrebu mewnol er mwyn codi ymwybyddiaeth o gynnydd cadarnhaol y Cyngor wrth symud ymlaen at gyflawni ei uchelgeisiau newid hinsawdd;

 

(c)        Cyflwyno cefnogi’r gwaith o gychwyn ymwreiddio mesurau carbon i mewn i brosesau caffael o fewn portffolio peilot y Cyngor;

 

(d)       Bod yr achos dros swydd ac adnoddau Buddsoddi i Arbed er mwyn cyflwyno Systemau Rheoli Adeiladau o fewn mwy o’n hadeiladau, i wella’r broses o reoli’r defnydd o ynni yn cael ei gefnogi; a

 

(e)       Cefnogi’r gwaith o ymwreiddio egwyddorion newid hinsawdd drwy’r Cyngor cyfan, drwy gyflwyno hyfforddiant Llythrennedd Carbon i Aelodau Etholedig, Uwch Reolwyr a swyddogion eraill sy’n gwneud penderfyniadau allweddol.

Awdur yr adroddiad: Alex Ellis

Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 23/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/02/2023 - Cabinet

Yn effeithiol o: 04/03/2023

Accompanying Documents: