Manylion y penderfyniad

Review of Vehicle Permit Criteria for Household Recycling Centres

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To review the current household recycling centre (HRC) operations and vehicle permit criteria.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ionawr 2022 yn cynnig polisi trwydded cerbyd diwygiedig, gyda manylion ynghylch sut y byddai’n cael ei weithredu.  Cymeradwywyd y polisi diwygiedig a’i roi ar waith ym mis Ebrill 2022.

 

Roedd nifer fach o gwynion wedi dod i law gan drigolion nad oedd bellach yn cael mynediad i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gyda’u cerbydau. Rhoddwyd ymrwymiad i gynnal adolygiad o’r polisi i sicrhau ei fod yn cwrdd â’r amcanion gwreiddiol a osodwyd, ac adolygu a oedd angen diwygio'r meini prawf ymhellach.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu trosolwg o effaith y polisi diwygiedig ynghyd â manylion yr adolygiad a gynhaliwyd a’r cynigion ar gyfer diwygio’r polisi.  Cyflwynwyd ystyriaethau pellach hefyd ar weithrediadau ehangach ar gyfer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, gyda'r bwriad o gyflwyno arbedion a gwelliannau pellach i’r gwasanaeth.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ei fod wedi bod drwy broses drylwyr, gyda'r diweddaraf yn cynnwys gweithdai i'r holl Aelodau ac adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi.  Rhoddodd fanylion am y diwygiadau y gofynnodd yr Aelodau amdanynt, a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell y cyfleoedd a roddwyd i Aelodau fynegi eu barn yn y gweithdai.  Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Swyddog fod cyfyngiadau uchder ar bob cerbyd, gan gynnwys trelars, a gaiff fynd i mewn i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.  Roedd dimensiynau wedi'u cynnwys yn y polisi, fodd bynnag nid oedd y dimensiwn uchder yn fanwl a byddai'n cael ei ychwanegu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cefnogi'r adolygiad a gynhaliwyd a chymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Trwyddedau Cerbyd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref;

 

(b)       Bod y diwygiad arfaethedig i’r Polisi Trwyddedau Cerbydau i gyflwyno hawlen flynyddol (gan ganiatáu uchafswm o 12 ymweliad) i ganiatáu mynediad i gerbydau arwyddion penodol i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar yr amod bod y cerbyd wedi’i gofrestru â chyfeiriad preswyl yn Sir y Fflint, nid yw'r fasnach yn gysylltiedig ag unrhyw wastraff masnach; nid yw'r gwastraff a adawir yn y Ganolfan Ailgylchu wedi'i gynhyrchu neu'n annhebygol o fod wedi'i gynhyrchu gan weithgaredd y busnes hwnnw neu fusnesau cysylltiedig; a'r unig wastraff a gyflwynir yn y Ganolfan Ailgylchu yw gwastraff domestig o gartrefi, yn cael ei gefnogi;

 

(b)       Cefnogi’r awgrym i gynnwys teiars fel llif gwastraff ychwanegol ar system archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref er mwyn rheoli a lleihau gwastraff; a 

 

(d)       Cefnogi a chymeradwyo'r cynigion ychwanegol i wella rheolaethau gweithredol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac adolygu'r estyniad arfaethedig i oriau agor yn sgil cyllidebau ac adnoddau presennol ac yn y dyfodol.

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 20/12/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/12/2022 - Cabinet

Yn effeithiol o: 06/01/2023

Accompanying Documents: