Manylion y penderfyniad

Joint Funded Care Packages - Update Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To share a verbal update on the current situation on the long term debt with the Betsi Cadwaladr University Health Board since the last report was received.

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) ddiweddariad ar y ddyled sydd heb ei thalu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) o ran darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.

 

Roedd gwaith yn parhau drwy’r camau y cytunwyd arnynt, uwchgyfeirio a chyfarfodydd i ddatrys unrhyw oedi wrth brosesu anfonebau sydd heb eu talu a godwyd gan y Cyngor i’w talu gan BIPBC.  Ar 6 Rhagfyr 2022, roedd gwerth £0.835 miliwn o anfonebau heb eu talu, a dylai rhai ohonynt gael eu talu yn yr wythnosau nesaf. Roedd y £0.441 miliwn sy’n weddill yn anfonebau sydd heb eu datrys, fyddai’n cael eu cyflwyno i’w datrys drwy gymrodeddu annibynnol yn dilyn awgrym Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid BIPBC. Ers cyhoeddi’r adroddiad, roedd cynnydd pellach wedi helpu i leihau’r ddyled hirdymor i £0.251 miliwn.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, eglurodd swyddogion delerau’r broses cymrodeddu annibynnol a siaradodd y Cynghorydd Christine Jones am ei rhan hi yn y mecanwaith adrodd.

 

Roedd y Cynghorydd Paul Johnson yn croesawu’r diweddariad a diolchodd i swyddogion y Cyngor a chydweithwyr o BIPBC am eu hymdrechion ar y cyd i gyrraedd y sefyllfa hon.

 

O ran diweddariadau yn y dyfodol, awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y dylai’r adroddiad nesaf ddod ym mis Chwefror 2023 i roi amser i’r broses gymrodeddu. Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn gweithio gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i drefnu’n briodol.

 

Roedd y Cadeirydd yn croesawu’r cynnydd a wnaed ers i’r eitem gael ei chodi i ddechrau. Gofynnodd a fyddai’n bosibl i’r diweddariad nesaf ddangos a oedd yr anfonebau sydd heb eu talu yn rhai newydd neu hanesyddol a bod y rhestr a rannwyd yn y cyfarfod blaenorol yn cael ei diweddaru a’i dosbarthu i ddangos y sefyllfa ddiweddaraf.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr ddadansoddiad o’r dyddiadau bras a gwerth yr anfonebau sydd heb eu talu ar hyn o bryd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bill Crease yr argymhelliad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Sam Swash.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar reoli cyllideb ragweithiol o anfonebau heb eu talu a godwyd gan y Cyngor ar gyfer eu talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Awdur yr adroddiad: Jane Davies

Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2023

Dyddiad y penderfyniad: 15/12/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: