Manylion y penderfyniad
Victim Support's Hate Crime Charter
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek support to adopt Victim Support’s Hate Crime Charter.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi ymrwymo i fynd i’r afael â throseddau casineb, fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Fel rhan o'u hymrwymiad mae LlC wedi ariannu Cymorth i Ddioddefwyr i ddarparu Canolfan Cymorth Casineb Cymru, a oedd yn darparu cymorth a gwasanaethau adrodd ledled Cymru i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb.
Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol, Cyfalaf ac Asedau fod Cymorth i Ddioddefwyr wedi cyflwyno Siarter Troseddau Casineb i Gymru a'i fod yn gofyn i bob sefydliad, cyhoeddus a phreifat, lofnodi'r Siarter. Mae’r Siarter yn nodi hawliau dioddefwyr ac ymrwymiadau sefydliadau i chwarae rhan wrth fynd i’r afael â throseddau casineb.
Ymrwymodd y sefydliadau sy’n mabwysiadu’r Siarter i sicrhau bod gweithwyr a gwirfoddolwyr yn cadw at addewidion y Siarter pryd bynnag y byddent yn dod i gysylltiad â’r rhai yr effeithir arnynt gan droseddau casineb, yn ogystal â gweithio i feithrin cymunedau cryf a chynhwysol. Roedd y Siarter Troseddau Casineb ynghlwm i’r adroddiad.
Roedd y Cyngor eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â throseddau casineb yn Sir y Fflint, gan gynnwys y fenter ar-lein Bydd Garedig. Byddai mabwysiadu’r Siarter yn datblygu’r gwaith ac yn cyfrannu at Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor a nod Lles Llywodraeth Cymru (LlC) “Cymru â Chymunedau Mwy Cydlynol”.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i fabwysiadu Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 20/12/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/12/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 06/01/2023
Dogfennau Atodol: