Manylion y penderfyniad

Delivering public services in the 21st Century - an overview

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To explore the benefits and limitations of outsourcing and/or creating shared services as a means to deliver Council services.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i archwilio manteision a chyfyngiadau contractau allanol a/neu greu gwasanaethau a rannir fel modd o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor, fel y gofynnwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor.

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i Kelly Oldham-Jones, Swyddog Gweithredol Strategol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau), a roddodd trosolwg o’r prif feysydd yn yr adroddiad.   Eglurodd, yn ychwanegol at grynhoi detholiad ehangach o fodelau cyflawni amgen, roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at egwyddorion craidd ehangach a gofynion deddfwriaethol y dylid eu hystyried.   Wrth osod dull y Cyngor, cyfeiriwyd at y meini prawf allweddol - yn cynnwys canllawiau Llywodraeth Cymru - a’r angen i ddatblygu bob model i fodloni anghenion penodol a gyda’r adnoddau priodol i’w gweithredu, fel y dangoswyd yn yr enghreifftiau a rennir.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod rheoli gwasanaethau’r swyddfa gefn o leoliad canolog i gyflawni arbedion cost yn gweithio’n dda yn y sector preifat, gan gydnabod yr effaith ar staff, ac awgrymodd adroddiad pellach i ystyried dewisiadau ar gyfer y Cyngor ac effeithiau posibl.

 

Wrth dynnu sylw at yr Uned Caffael ar y Cyd fel gwasanaeth a rennir gyda Chyngor Sir Ddinbych, dywedodd y Prif Weithredwr y dylid cydnabod bod lefel sylweddol o waith wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i drawsnewid gwasanaethau, yn cynnwys diogelu gwasanaethau ar gyfer cymunedau trwy Fodelau Cyflawni Amgen a Throsglwyddiadau Asedau Cymunedol.   Felly, dylai dealltwriaeth o’r manteision i’r Cyngor a’i bartneriaid fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer y dewisiadau ar gyfer gwasanaethau a rennir.

 

Bu i’r Cadeirydd gydnabod y cymhlethdodau sydd ynghlwm ac awgrymodd bod y Pwyllgor yn nodi un dewis er mwyn gallu rhannu adroddiad manwl i ystyried y goblygiadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson ei fod yn bwysig bod unrhyw newid yn gwella’r gwasanaeth hwnnw.

 

Wrth sôn am y rhestr gynhwysfawr o ddewisiadau a rennir yn yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Bill Crease y dylai craffu ar gynigion a dadansoddiad cost i ddeall y buddion ddod yn ddiwylliant sy’n cael ei fewnosod ar draws y sefydliad. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y dylai unrhyw ystyriaethau roi sylw dyledus i feini prawf allweddol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a hawliau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth.[1]  Mewn ymateb i’r sylwadau a godwyd, rhoddodd sicrwydd i Aelodau bod ystyriaeth yn cael ei roi i hyfywedd modelau priodol.

 

Cynigodd y Cadeirydd ddiwygiad i’r argymhellion i adlewyrchu’r ddadl.   Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r modelau gwahanol y gellir eu defnyddio fel modelau amgen i ddarparu gwasanaethau;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod y ffactorau ehangach, fel paramedrau deddfwriaethol ac egwyddorion craidd, sydd angen cael eu harsylwi wrth ystyried darparu gwasanaethau trwy fodelau cyflawni amgen;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd bod y Cyngor yn ystyried yr holl fodelau cyflawni amgen priodol, a manteision a chyfyngiadau’r rhain, fel rhan o werthuso dewisiadau ehangach wrth adolygu gwasanaethau; a

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad yn y dyfodol ar wasanaethau a rennir yn y dyfodol.



[1]Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)

Awdur yr adroddiad: Kelly Oldham-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 20/04/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: