Manylion y penderfyniad

Safeguarding Adults and Children's Annual Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update Members on Adults and Children’s Safeguarding.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu y Rheolwr Diogelu Oedolion  ac un o Gadeiryddion Cynhadledd Amddiffyn Plant a oedd yno i ateb unrhyw gwestiynau gan Aelodau, yn sgil absenoldeb y Rheolwr Uned Diogelu a ysgrifennodd yr adroddiad.  Fe eglurodd mai pwrpas yr Adroddiad Blynyddol oedd rhoi gwybod i Aelodau am y gwaith oedd wedi cael ei wneud, y gwaith a fyddai’n cael ei wneud ac i ystyried gwybodaeth allweddol yn ymwneud ag ystadegau a pherfformiad am blant ac oedolion mewn perygl yr oedd gan yr Awdurdod gyfrifoldebau diogelu a diogelu corfforaethol sylweddol amdanynt. Yn ogystal ag ystyried effaith gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan a lansiwyd yn ôl yn 2019.

 

                      Gofynnodd y Cynghorydd Ellis a oedd y Bwrdd Diogelu yn cynnwys Iechyd, a chadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu eu bod yn brif bartner ar y Bwrdd Diogelu yn ogystal â’r holl is-grwpiau. Fe ychwanegodd y Rheolwr Diogelu Oedolion fod yna ddau Arbenigwr Diogelu wedi’u lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac roeddynt mewn cyswllt rheolaidd â nhw.  Fe soniodd hi hefyd am gysylltiadau da gydag Ysbyty Iarlles Caer allai fod yn anodd gan ei fod dros y ffin gyda deddfwriaeth arall

 

                      Gan ymateb i’r Cynghorydd Ellis, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod yna 191 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

 

                      Roedd y Cynghorydd Mackie yn bryderus am blant yn gadael gofal oherwydd eu hoedran ac yn credu y dylent gael gofal y tu hwnt i 18 oed. Fe eglurodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod yna gategorïau gwahanol o ymadawyr gofal, ond os oedd plentyn wedi derbyn gofal am hirach na 13 wythnos, nid oedd y cyfrifoldeb yn dod i ben yn 18 mlwydd oed, gan fod yna gyfrifoldeb ychwanegol i’w cefnogi hyd at 25 mlwydd oed. Fe eglurodd fod menter ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar gyfer plant sy’n troi’n 18 oed a’u bod yn cael y cyfle i aros mewn amgylchedd gofal maeth petaent yn dymuno.   Fe ychwanegodd fod y polisi wrthi’n cael ei ddiweddaru yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu a’r adborth a gafwyd ers iddo gael ei gyflwyno ychydig flynyddoedd yn ôl.

 

                      Gofynnodd y Cadeirydd pa arweiniad a roddwyd mewn cysylltiad â’r cyfandaliad roeddynt yn ei gael gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod y cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn beilot dwy flynedd o hyd gan Lywodraeth Cymru pan roedd pobl ifanc yn gadael gofal yn derbyn incwm misol. Fe gadarnhaodd yn lleol eu bod yn gweithio gyda CAB sy’n rhoi cymorth ariannol i bobl ifanc ddefnyddio’r arian yn gyfrifol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal gwerthusiad ac wedi anfon holiaduron i’n Plant sy'n Derbyn Gofal sydd yn derbyn y Peilot Incwm Sylfaenol, er mwyn iddynt gael deall yr effaith mae wedi’i gael. Roedd Cynghorwyr a rhieni Corfforaethol hefyd yn rhan o’r gwerthusiad er mwyn canfod eu barn nhw. Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu pan fyddant yn cael y canlyniadau, y byddent yn adrodd yn ôl drwy’r Fforwm Gwasanaethau Plant i gael barn pobl ifanc i weld pa mor dda y gweithiodd, beth sydd wedi’i ddysgu, beth oedd y manteision a beth oedd yr heriau. Fe ychwanegodd tra bod y Peilot Incwm Sylfaenol yn gynllun dwy flynedd o hyd, fe fyddai angen strategaeth ymadael gan y gallai fod yna oblygiadau sylweddol, gan fod rhai ymadawyr gofal yn ddibynnol arno.

 

                      Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey lle’r oedd Dementia yn ffitio gan nad oedd hi’n credu y dylai ddod o dan Iechyd Meddwl.  Dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu gyda’i gilydd fod ganddynt ran fawr i’w chwarae o ran Dementia ynghyd â’r Bwrdd Iechyd. Yn ychwanegol, roedd yna Strategaeth Dementia Gogledd Cymru ar draws y chwe awdurdod lleol, ac yn lleol o fewn y Strategaeth Rhanbarthol roedd Strategaeth Sir y Fflint oedd yn delio â llawer o’r materion sy’n codi.   Roedd llawer o’r gwaith yn ymwneud ag ymwybyddiaeth cydweithwyr a rhwydweithiau proffesiynol.  Roedd gwaith Cymdeithas Alzheimer a Chefnogwyr Dementia yn ein helpu i ddeall beth yw Dementia ym mhob cam, ond yn benodol yn y camau cynnar pan nad yw pobl wedi cael diagnosis a’u bod yn byw gydag o.

 

                      Gan ymateb i’r Cadeirydd, dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod egwyddorion Adolygiad Amddiffyn Oedolion ac Adolygiad Amddiffyn Plant yr un fath.   Mater pwysig a ddysgwyr o un adolygiad ymarfer penodol oedd pwy oedd yn gyfrifol ym maes diogelu pan roedd yn ymwneud â sawl disgyblaeth h.y. person yn symud o gartref gofal i gartref gofal neu o gartref i gartref gofal, wrth i bobl symud yn aml; roedd yr adolygiad yn ymwneud â dysgu, ac nid ffeindio bai.

 

Fe ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) bod dau Adolygiad Ymarfer Plant wedi’u cynnal yn y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd un ohonynt newydd ddod i ben a gan Lywodraeth Cymru roedd yr adroddiad. Fe eglurodd bod disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi ganol fis Chwefror. Fe eglurodd fod y digwyddiad wedi digwydd ychydig flynyddoedd yn ôl gan alluogi iddynt gynnal digwyddiadau dysgu i edrych ar eu hunain ac ystyried sut roeddynt yn gweithio gydag eraill.  Roedd yr ail adolygiad dal yn digwydd ac roedd disgwyl y trydydd cyfarfod adolygu ar ddiwedd mis Ionawr. Dywedodd bod y gwersi a ddysgwyd yn digwydd eto ar bob lefel o fewn adolygiadau Plant a phwysleisiodd yr angen i ddeall eu bywydau bob dydd a phrofiadau yn y cartref yn ogystal ag edrych ar hanes yr atgyfeiriadau i gael y darlun cyflawn, i gael gwell dealltwriaeth ymysg aml asiantaethau ar gyfer asesiad a chefnogaeth.  Roedd cyfathrebu rhwng pob asiantaeth yn allweddol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd pa mor aml yr ymwelir â phlant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant am dros 12 mis.  Fe ymatebodd Cadeirydd y Gynhadledd Amddiffyn trwy ddweud bod Gweithdrefnau Cymru Gyfan yn gosod y cysylltiad gyda theuluoedd ac roedd y canllawiau’n nodi y dylai ymweliadau ag unrhyw blentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ddigwydd pob 10 diwrnod gwaith ond roedd Gweithwyr Cymdeithasol yn cwrdd â nhw’n fwy aml yn dibynnu ar yr achosion unigol gan eu bod wedi’u categoreiddio yn coch/oren/gwyrdd. Gallai ymweliadau fod yn rhai wedi’u cyhoeddi neu heb eu cyhoeddi ac fe allent ddigwydd gartref, yn yr ysgol, neu ar eu pen eu hunain ar sail un wrth un.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn cysylltiad â Diogelu Sir y Fflint  ar gyfer cyfnod 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 a’r wybodaeth ychwanegol;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn rhoi sylw dyledus i’r amrywiaeth o weithgareddau ar draws yr Uned Ddiogelu a datblygiad a gwelliannau parhaus o ran darpariaeth gwasanaeth; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn fodlon bod y Broses Ddiogelu ar gyfer Oedolion a Phlant yn Sir y Fflint yn gadarn.

Awdur yr adroddiad: Jayne Belton

Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: