Manylion y penderfyniad

Feedback from the National Forum for Standards Committees

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod hyn yn deillio o Adroddiad Penn ac argymhelliad Richard Penn y dylid sefydlu fforwm ar gyfer Cymru gyfan, gyda’r cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr 2023.

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod Clive Wolfendale o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi’i benodi fel Cadeirydd a bod y dirprwy swyddog monitro o Gaerdydd yn ei gefnogi. Rhoddodd amlinelliad o sut y byddai cymorth gan y Swyddog Monitro’n cael ei ddarparu yn ei dro ledled Gogledd Cymru er mwyn rhannu’r llwyth gwaith. Rhwydwaith a chorff cefnogi oedd hwn ac nid corff gwneud penderfyniadau. Byddai unrhyw beth sydd angen cael ei drafod a chytuno arno yn cael ei adrodd yn ôl i Bwyllgor Safonau pob awdurdod. Roedd yr Ombwdsmon yn bresennol a chafodd ei sylwadau a’i nodiadau eu hatodi i’r rhaglen a darparodd y Swyddog Monitro wybodaeth am y 9 achos, a oedd i’w cyfeirio ar gyfer gwrandawiad yn fuan. Mewn blwyddyn arferol, byddai 4 achos yn cael eu hanfon i wrandawiad, ond eleni roeddent wedi derbyn dwywaith y nifer o gwynion a darparwyd gwybodaeth am yr achosion hirdymor. Oherwydd materion staffio, roedd hyn wedi arwain at oedi gyda rhoi pwysau ar gwblhau’r broses â chwynion. Cytunodd i siarad gyda CLlLC er mwyn gwirio a oedd modd rhannu’r recordiad o’r cyfarfod yn gyfrinachol gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau. 

Roedd y Cadeirydd yn bresennol yn y cyfarfod a dywedodd ei fod yn gychwyn defnyddiol iawn i’r fforwm cenedlaethol. Dymunai’r Fforwm i’r rhaglenni gael eu harwain gan y Pwyllgor Safonau a gofynnodd bod unrhyw syniadau sydd gan aelodau’r pwyllgor ar gyfer eitemau, yn cael eu hanfon at y Swyddog Monitro, fel bod modd eu cyflwyno ar gyfer eu hystyried.

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’r rhaglen yn cael ei threfnu yng Ngr?p y Swyddogion Monitro, cyn cyfarfod nesaf y Fforwm. Byddai pob Swyddog Monitro, yn dilyn trafodaethau yn eu Pwyllgor Safonau, yn cyflwyno eitemau.   Byddai hyn yn nodi unrhyw eitemau cyffredin i’w cyflwyno ac unrhyw eitemau unigol, a fyddai o ddiddordeb i’r Fforwm. Roedd hi’n bwysig bod y Pwyllgorau Safonau yn rheoli hyn, yn hytrach na’r swyddogion. Mae cyfarfod nesaf y pwyllgor wedi’i drefnu ar gyfer mis Mai, gyda’r Fforwm yn cyfarfod ym mis Mehefin. Byddai hyn yn rhoi cyfle i Aelodau ystyried unrhyw eitemau y gellid eu cynnwys ar raglen y Fforwm.

Cytunodd y Cadeirydd, gan ddweud ei bod hi’n bwysig bod unrhyw eitemau yr oedd y pwyllgor yn dymuno eu cyflwyno yn cael eu hystyried. Yna, cyfeiriodd y Cadeirydd at yr ymgynghoriad 12 wythnos, a oedd yn ceisio barn ar argymhelliad Adolygiad Penn gan Lywodraeth Cymru a dywedodd y gellid edrych ar yr adborth ar hyn.

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan Mark Morgan a’u heilio gan Gill Murgatroyd.

PENDERFYNWYD:

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r adborth o gyfarfod cyntaf y Fforwm.

(b)          Bod y Pwyllgor yn awgrymu eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Fforwm yn y dyfodol.

 

Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Tracey Cunnew)

Dyddiad cyhoeddi: 02/06/2023

Dyddiad y penderfyniad: 06/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/03/2023 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: