Manylion y penderfyniad
Social Value Progress Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Members with performance data on the social value generated in Flintshire for the reporting periods and a progress update on work undertaken and planned in relation to the broader social value work programme.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ddata perfformiad ar y gwerth cymdeithasol a gynhyrchwyd yn Sir y Fflint ar gyfer y cyfnodau adrodd, ynghyd â diweddariad ar gynnydd y rhaglen waith gwerth cymdeithasol ehangach.
Roedd yr adroddiad yn un cadarnhaol lle rhagorwyd ar y targedau perfformiad ar gyfer 2021/22 a hanner cyntaf 2022/23 yn dilyn camau gweithredu i gynyddu gwerth cymdeithasol o weithgareddau comisiynu a chaffael y Cyngor. Yn ogystal â darparu gwybodaeth fanwl am y cyflawniadau hynny, amlygodd yr adroddiad yr ystod o ganlyniadau i gefnogi cymunedau lleol a chydnabyddiaeth genedlaethol o waith gwerth cymdeithasol yn Sir y Fflint. Byddai'r cynllun gweithredu parhaus yn helpu i nodi gwelliannau pellach i ymgorffori gwerth cymdeithasol ar draws y sefydliad a datblygu adnoddau ychwanegol i gefnogi gwaith y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol.
Croesawodd y Cynghorydd Bernie Attridge gamau i wneud y mwyaf o werth cymdeithasol ym mhob gweithgaredd caffael ar draws y sefydliad er mwyn adeiladu ar berfformiad.
Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) deyrnged i waith y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol fel yr unig aelod o’r tîm a dywedodd y byddai cynlluniau i ddatblygu ‘cefnogwyr gwerth cymdeithasol’ ar draws y sefydliad yn ehangu capasiti.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson fod gwerth cymdeithasol yn flaenoriaeth gorfforaethol i'r Cyngor ac y byddai'r cynllun gweithredu yn helpu i symud ymlaen mewn ffordd fwy cynaliadwy. Awgrymodd weithdy ar werth cymdeithasol yn y dyfodol i godi ymwybyddiaeth gyda'r holl Aelodau.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) nad oedd llawer o ddeilliannau gwerth cymdeithasol yn ymwneud ag agweddau ariannol a chyfeiriodd at becynnau buddion cymunedol ar gyfer cytundebau mwy.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod perfformiad yn adlewyrchu contractwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau cymdeithasol eu hunain trwy fecanweithiau cytundebol.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Attridge, a’u heilio gan y Cadeirydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi'r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd mewn perthynas â chynhyrchu gwerth cymdeithasol yn ystod 2021/22 yn ogystal â chwe mis cyntaf 2022/23; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r camau nesaf a gynigir.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 09/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 12/01/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: