Manylion y penderfyniad

Annual Report of the North Wales Regional Partnership Board 2021/2022

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide information with regards to the North Wales Regional Partnership Board and is activities during 2021/22.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu'r adroddiad a oedd yn ofyniad o fewn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 bod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) yn paratoi, yn cyhoeddi ac yn cyflwyno ei adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru (LlC).

 

            Pwrpas Rhan 9 y Ddeddf oedd gwella canlyniadau a lles pobl, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd darpariaeth y gwasanaeth. Prif amcanion cydweithredu, partneriaeth ac integreiddio oedd:-

 

·         Gwella gofal a chymorth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o lais a rheolaeth

·         Gwella canlyniadau ac iechyd a lles

·         Darparu gofal a chymorth cydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

·         Defnyddio adnoddau, sgiliau ac arbenigedd yn fwy effeithiol

 

Cytunodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu i ofyn i'r Bwrdd Rhanbarthol am bob un o'r 125 a oedd wedi'u cynnwys ar restr Prosiect Cronfa Gofal Integredig ar gais y Cadeirydd.

 

            Roedd y Cynghorydd Mackie yn bryderus ynghylch y gwall ar dudalen gynnwys adroddiad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a holodd hefyd a oedd yr adroddiad yn adroddiad cyffredinol a oedd wedi'i ysgrifennu gan ddilyn canllawiau LlC gan ei fod yn anodd craffu arno oherwydd y diffyg gwybodaeth a oedd yn yr adroddiad.

 

            Ymatebodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu i'w bryderon gan egluro bod strwythur yr adroddiad wedi ei osod o fewn deddfwriaeth ond cytunodd nad oedd hyn yn wir am strwythur y cynnwys. Cadarnhaodd y byddai'n cysylltu â'r Tîm Cydweithredu Rhanbarthol a ysgrifennodd yr adroddiad i roi’r sylwadau gan ei bod yn bwysig os nad yw eraill wedi nodi'r pwyntiau a godwyd.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod ef a’r Cynghorydd Jones ill dau yn aelodau o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac y byddent yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd ond tynnodd sylw at y ffaith bod rhai camau cyflawni wedi’u cynnwys yn yr adroddiad o fewn siart cylchol, ond cytunodd y dylai’r un lefel o ddarpariaeth fod ar lefel ranbarthol ag ar lefel leol. Ychwanegodd fod cymorth gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi helpu ac nad oedd hyn yn amlwg o'r adroddiad.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

          PENDERFYNWYD:

 

(a)         Nodi'r gwaith y mae angen i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei wneud; a

 

(b)         Nodi’r gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2021/22 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Awdur yr adroddiad: Emma Cater

Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: