Manylion y penderfyniad
Capital Strategy including Prudential Indicators 2023/24 – 2025/26
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the Capital Strategy 2023/24
– 2025/26 for approval
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gyfalaf y Cyngor 2023/24 - 2025/26 a cheisio cymeradwyaeth gan y Cyngor. Mae’r adroddiad yn egluro pam yr oedd angen y Strategaeth, yr amcanion allweddol a chynnwys pob adran. Yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), yr oedd yn rhaid i Awdurdodau bennu ystod o ddangosyddion darbodus. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2023/24 – 2025/26.
Cafodd y Strategaeth Gyfalaf ei nodi gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol mewn cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 17 Tachwedd 2022 a chafodd y sylwadau eu cyflwyno yng Nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022. Nid oedd unrhyw bryderon na newidiadau a argymhellir wedi’u codi.
Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones i'r Strategaeth Gyfalaf gael ei chyflwyno i'w hystyried cyn y Rhaglen Gyfalaf mewn cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at gytundeb yr oedd wedi’i sefydlu’n flaenorol gan yr Aelodau o ran trefn yr eitemau.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a’u heilio. Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y Strategaeth Gyfalaf yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod y canlynol yn cael eu cymeradwyo:
-
• Dangosyddion Darbodus 2023/24 - 2025-26 fel y nodir yn
Nhabl 1 a 4 – 8 y Strategaeth Gyfalaf.
• Awdurdod Dirprwyedig ar gyfer y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud
newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnyn nhw ar wahân o fewn y
terfynau awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer
dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2023
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: