Manylion y penderfyniad
Results of the Tenants Survey and Developing our Customer Involvement Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide comments on both the results of the STAR survey and the draft strategy aim and objectives.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Lles Tai a Chymunedau ganlyniad yr Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr.
Yn 2022, cynhaliwyd arolwg cyfrifiad llawn o’r holl denantiaid i gasglu barn pobl am yr ystod o wasanaethau Tai oedd yn cael eu darparu. Roedd hyn yn cynnwys gofyn iddynt roi sgôr i’w cymdogaeth, diogelwch eu cartrefi, y gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw a sut y gallent gymryd rhan a dweud eu dweud am ddefnyddio technoleg. Ymatebodd 25% i’r arolwg ac roedd y prif themâu wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth fod yr hen Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid wedi dod i ben yn 2021 ac roedd y Cyngor wedi gweithredu strategaeth dros dro tra bo’r strategaeth ddrafft newydd yn cael ei datblygu a’r Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr yn cael ei gwblhau. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod canlyniadau’r Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr yn cyfrannu at ddatblygu’r strategaeth newydd a’i bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac adborth tenantiaid.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge sut roedd y Cyngor yn bwriadu sicrhau bod pob tenant yn cymryd rhan yn yr Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr yn y dyfodol a mynegodd bryder am Ffederasiwn y Tenantiaid – credai bod hwn yn cynrychioli barn yr holl denantiaid ar draws Sir y Fflint ac yn bwydo i mewn i’r Strategaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid. Dywedodd Aelod Cabinet Tai ac Adfywio ei bod yn bwysig ystyried sut i wella’r broses o ymgysylltu â’r holl denantiaid a chyfeiriodd at sioeau teithiol oedd yn cael eu cynnal ar draws Sir y Fflint i denantiaid er mwyn rhoi gwybod iddynt am newidiadau yn rhan o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru). Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’r arolwg yn cael ei gynnal bob dwy flynedd yn y dyfodol er mwyn monitro bodlonrwydd/pryderon tenantiaid a byddai’r arolwg yn cael ei anfon at bob tenant ar draws Sir y Fflint. Byddai’r cyswllt cyntaf â thenantiaid yn canolbwyntio ar y drefn o ddatblygu’r Strategaeth Ymgysylltu â Chwsmeriaid.
Yn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Selvester yngl?n â’r data fesul ward, eglurwyd bod y wardiau oedd yn yr adroddiad ar eu ffurf cyn newid y ffiniau a byddent yn cael eu diweddaru yn adroddiadau’r dyfodol.
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Evans sylw ar faint o waith oedd ei angen i sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud ac awgrymodd i weithdy gael ei drefnu i’r holl Aelodau er mwyn tynnu sylw at y strategaeth a’r gwaith oedd angen ei wneud i wella’r sefyllfa bresennol.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u, hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dale Selvester a’u heilio gan y Cynghorydd Linda Thew.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi canlyniadau’r Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr a nodau drafft y strategaeth, a nodi’r amcanion; a
(b) I gyflwyniad ar nodau ac amcanion drafft y strategaeth gael ei roi mewn gweithdy i bob Aelod yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 08/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: