Manylion y penderfyniad
Overview & Scrutiny Terms of Reference
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To approve the proposed amendments to the
Terms of Reference for each of the Overview & Scrutiny
Committees.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i gael cymeradwyaeth i’r newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl pob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Rhoddodd wybodaeth gefndir gan ddweud fod y newidiadau arfaethedig i’r cylchoedd gorchwyl i’w gweld yn Atodiad 2 i’r adroddiad.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y cylchoedd gorchwyl newydd arfaethedig wedi’u hystyried gan bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn eu cyfarfodydd ym mis Gorffennaf 2022, lle cyflwynwyd newidiadau penodol. Mewn ymateb i gwestiynau yngl?n â materion oedd yn dod o fewn cylch gwaith un neu fwy o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai’r penderfyniad o ran pa Bwyllgor Trosolwg a Chraffu a fyddai’n ei ystyried yn cael ei ddatrys drwy’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ond y byddai’n bosib’ i Aelodau’r ddau Bwyllgor fod yn rhan o ystyried yr adroddiad perthnasol. Ar ôl ystyried yr adroddiad, cefnogodd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r newidiadau arfaethedig i’w cylchoedd gorchwyl.
Cynigiodd y Cynghorydd Rob Davies yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i Gylchoedd Gorchwyl pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu; a
(b) Newid y cyfeiriad at Gronfa Bensiynau Clwyd, dan y pennawd Adnoddau Corfforaethol, i ddweud ‘fel cyflogwr/aelod o’r Gronfa Bensiynau’.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 11/04/2023
Dyddiad y penderfyniad: 18/10/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/10/2022 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: