Manylion y penderfyniad
Corporate Joint Committee (CJC) update report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the progress being
made in relation to the Corporate Joint Committee (CJC).
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y cynnydd a wnaed hyd yma gyda’r Cydbwyllgor Corfforaethol ar gyfer Gogledd Cymru, gan gynnwys cynlluniau i drosglwyddo’r swyddog arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) i’r Cydbwyllgor Corfforaethol dros dro er mwyn symud trefniadau trawsnewidiol ymlaen hyd nes gellir penodi swyddog parhaol.
Wrth gydnabod effaith y Cydbwyllgor Corfforaethol ar gynllunio strategol y Cyngor, cynigiodd y Cadeirydd argymhelliad ychwanegol bod y tri Aelod Cabinet perthnasol yn darparu diweddariad rheolaidd ar eu helfennau priodol i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Codwyd pryderon gan y Cynghorydd Bernie Attridge ynghylch diffyg cyfranogiad Aelodau etholedig lleol a’r manteision dilynol i drigolion lleol.
Eglurodd y Prif Weithredwr, er bod trefniadau pontio yn y camau cynnar o gael eu datblygu, bod lle i gynnwys Trosolwg a Chraffu a chynrychiolaeth leol ar ffrydiau gwaith yn ddiweddarach. Soniodd fod y Cydbwyllgor Corfforaethol yn hanfodol i rai o weithgareddau strategol y Cyngor a’r rheini ar lefel ranbarthol. O’r herwydd, roedd yn bwysig i’r Cyngor gael ei gynrychioli er mwyn dylanwadu ar weithgareddau ar gyfer Sir y Fflint ac ar draws y rhanbarth.
Wrth groesawu cydweithio er budd trigolion, cododd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson nifer o bryderon am fodel y Cydbwyllgor Corfforaethol. Y rhain yn bennaf oedd aliniad penderfyniadau ar draws y bartneriaeth, cyfraniad Sir y Fflint at gostau rhedeg a diffyg dylanwad lleol a chraffu ar benderfyniadau’r Cydbwyllgor Corfforaethol. Wrth gydnabod bod y Cydbwyllgor Corfforaethol eisoes yn bodoli, cynigiodd fod Argymhelliad 1 yn cael ei ddiwygio i ddisodli ‘cefnogi’ gyda ‘gwrthwynebu’ i adlewyrchu’r pryderon hyn.
Wrth eilio’r diwygiad, siaradodd y Cynghorydd Sam Swash o blaid sylwadau’r Cynghorydd Ibbotson a rhoddodd enghreifftiau o oblygiadau posibl.
Siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am drefniadau llywodraethu ar gyfer y Cydbwyllgor Corfforaethol a’i bwerau cyfyngedig sy'n cynnwys pedwar maes cyfrifoldeb a rennir. Awgrymodd fod y diwygiad yn cynnwys y geiriau ‘mewn egwyddor’ er mwyn adlewyrchu’r pwysigrwydd bod Sir y Fflint yn cadw cynrychiolaeth ar y Cydbwyllgor Corfforaethol.
Mewn ymateb i’r sylwadau a godwyd, rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts enghreifftiau o wasanaethau strategol a oedd yn rhychwantu awdurdodau ar draws y rhanbarth a sicrhaodd yr Aelodau y byddai Sir y Fflint yn parhau i gael llais ar y Cydbwyllgor Corfforaethol. Wrth gymharu gyda GwE (y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol), siaradodd am y potensial ar gyfer cysylltiadau yn y dyfodol â’r strwythur Trosolwg a Chraffu presennol.
Cydnabu'r Cadeirydd fwriad y diwygiad a rhannodd ei bryderon y byddai gan y Cydbwyllgorau Corfforaethol yr un pwerau â phrif awdurdodau lleol yn y ffordd y maent yn gweithredu, gan gynnwys y gallu i fenthyca ac adennill TAW. Fodd bynnag, dywedodd ei fod yn bwysig i’r Cyngor gael ei gynnwys ac i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu gael y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd.
Eglurodd y Cynghorydd Ibbotson nad bwriad ei ddiwygiad oedd dylanwadu ar gynnydd ar y Cydbwyllgor Corfforaethol yn cael ei adrodd i'r pwyllgorau priodol. Cytunodd i gynnwys y geiriau a awgrymwyd gan y Prif Swyddog a chafodd ei gefnogi gan y Cynghorydd Swash.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion, fel y’u diwygiwyd.
PENDERFYNWYD:
a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ac yn gwrthwynebu mewn egwyddor creu'r Cydbwyllgor Corfforaethol rhanbarthol;
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynigion ar gyfer secondiad Cyfarwyddwr Portffolio’r BUE o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'r Cydbwyllgor Corfforaethol tan fis Mawrth 2023; ac
(c) Bod yr Aelodau Cabinet sy’n cynrychioli strwythur Cydbwyllgor Corfforaethol yn darparu diweddariadau rheolaidd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol, gan gynnwys Adnoddau Corfforaethol.
Awdur yr adroddiad: Steven Goodrum
Dyddiad cyhoeddi: 23/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: