Manylion y penderfyniad
Universal Primary Free School Meals (UPFSM)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the local
implementation of the universal primary free school meal
initiative.
Penderfyniadau:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ac roedd yn cynnwys diweddariad am gyflwyniad y Rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd (UPFSM) yn Sir y Fflint. Roedd hwn yn ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru (LlC) gyda’r awdurdod yn dewis dull cyflwyno fesul cam. Roedd heriau arwyddocaol wedi bod gyda NEWydd ac ysgolion a oedd wedi cael eu cydnabod gan y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg a oedd wedi ysgrifennu at bob Awdurdod Lleol yn diolch iddynt am eu gwaith caled. Darparodd wybodaeth am y Gweithgor a oedd wedi llwyddo i ddechrau cyflwyno’r rhaglen ym mis Medi 2022 i blant dosbarth Derbyn, gyda phlant ym mlynyddoedd 1 a 2 yn derbyn eu prydau o fis Ebrill 2023 ymlaen a phob plentyn cynradd erbyn 2024. Pwysleisiodd bod yn rhaid i’r teuluoedd hynny sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim barhau i wneud cais am y buddion hynny gan fod cymaint o gyllid yn mynd i mewn i ysgolion yn seiliedig ar yr hawl hwnnw i brydau ysgol am ddim. Roedd yn pryderu unwaith y byddai hon yn hawl gyffredinol, y byddai rhieni dan yr argraff nad oedd angen iddyn nhw wneud cais bellach, ond roedd hyn yn bwysig a gallai gael effaith niweidiol ar y cyllid a roddir i ysgolion.
Roedd gan y Cynghorydd Dave Mackie bryderon yngl?n ag aelodau ychwanegol o staff a fyddai’n ofynnol a meddyliai tybed a ddylid cynnwys hynny ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gan ei fod wedi cael gwybod bod problemau o ran cael staff i gefnogi’r rhaglen prydau ysgol am ddim. Mewn ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod hwn yn faes sy’n peri pryder gan ddweud bod NEWydd wedi wynebu heriau sylweddol wrth recriwtio. Roedd y portffolio a’r ysgolion wedi gwneud popeth y gallent i gefnogi NEWydd ac nid oedd yn ymwybodol o unrhyw ysgol a oedd wedi methu â darparu’r cynnig prydau ysgol am ddim. Roedd hon yn broblem genedlaethol o ran swyddi gwag i staff arlwyo, cynorthwywyr ystafelloedd dosbarth, staff ysgolion arbennig ac roedd y mater yn cael ei fonitro wrth i’r rhaglen gael ei chyflwyno.
Yn gyntaf diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i Lywodraeth Cymru (LlC) am wneud hyn, yn enwedig yn yr hinsawdd presennol. Dywedodd, fel Llywodraethwr, eu bod wedi medru ysgrifennu at rieni i’w hatgoffa i hawlio eu prydau ysgol am ddim. Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod ymgyrch wedi bod yn y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan a gofynnwyd i ysgolion gadw’r neges hon ar eu gwefannau a’u newyddlenni.
Cynigodd y Cynghorydd Dave Mackie yr argymhelliad cyntaf a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst.
Cynigodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr ail argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
Cynigodd y Cynghorydd Mel Buckley y trydydd argymhelliad ac fe'i heiliwyd gan Gina Maddison.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithrediad y rhaglen prydau ysgol am ddim cyffredinol i ysgolion cynradd.
(b) Bod y pwyllgor yn nodi goblygiadau o ran adnoddau a’r risgiau a nodwyd mewn perthynas â’r rhaglen UPFSM; a
(c) Bod y pwyllgor yn cefnogi’r Polisi UPFSM a’i weithredu’n lleol.
Awdur yr adroddiad: Claire Homard
Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 10/10/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: