Manylion y penderfyniad

Learning from the School Performance Monitoring Group

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive an update on progress and learning from the School Performance Monitoring Group

Penderfyniadau:

Gan gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion y gwaith mae’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion wedi’i gwblhau gan gynnwys y gefnogaeth a ddarparwyd a’r heriau a wynebwyd gan ysgolion sy’n tanberfformio.   Darparodd wybodaeth ar y newidiadau cyson mewn perthynas â gwella ysgolion, p’un a yw hynny’n lleol neu’n genedlaethol, gyda phob ysgol ar eu siwrnai eu hunain tuag at welliant er mwyn canolbwyntio’n well ar ganlyniadau eu pobl ifanc.  Roedd gan bob ysgol gynlluniau a dulliau cefnogaeth i’w helpu i ddarparu eu blaenoriaethau mewn perthynas â gwelliant.   Roedd angen cefnogaeth â mwy o ffocws o bryd i’w gilydd, a soniodd am gyfarfodydd y Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru (GwE) a oedd yn ystyried cynnydd ysgolion unigol, ac amlinellodd sut byddent yn ymdrin ag ysgolion.   Os oedd unrhyw ysgol yn ymofyn cefnogaeth ychwanegol, byddai hyn yn cael ei uwchgyfeirio at y Bwrdd Ansawdd ar gyfer yr Awdurdod Lleol a GwE, a byddai penderfyniad yn cael ei wneud i uwchgyfeirio at y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion yn dilyn hynny.   Roedd hon yn broses gynhyrchiol a chadarnhaol a oedd yn galluogi gwelliannau cyflym.   Ni fyddem yn dymuno i unrhyw ysgol fynd drwy’r broses hon, ond roedd yn anochel o ystyried yr heriau sy’n wynebu ysgolion.   Oedwyd hyn yn ystod y pandemig, ac yn sgil gohirio ymweliadau Estyn, bu rhai ysgolion yn destun y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion yn hirach na’r disgwyl.   Y pwyntiau allweddol oedd y camau nesaf a gytunwyd i helpu ysgolion i wella ac eglurodd y fframwaith gwahanol ar gyfer atebolrwydd. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Mackie fel aelod panel blaenorol ac eglurodd ei fod wedi parhau i ddysgu gyda chefnogaeth y Prif Swyddog.   Dywedodd fod y broses hon yn gweithio ac yn creu’r amgylchedd a’r canlyniadau cywir i helpu i gael ysgolion ar y trywydd iawn.

 

Cytunodd y Cynghorydd Carolyn Preece gan ddweud ei bod wedi mynychu nifer o arolygon lle bu’n rhaid gosod ysgolion dan fesurau arbennig.   Roedd yn amlwg yn ystod ei hail ymweliad â’r ysgol gydag Estyn ei fod yn llwyddiannus.   Cyfeiriodd at yr ail argymhelliad a gofynnodd a fyddai modd iddi gynnig ei henw.

 

Cyfeiriodd Mrs Wendy White at yr ysgolion ffydd o fewn Sir y Fflint a chanmolodd yr Uwch Reolwr a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am y gefnogaeth a ddarparwyd a dywedodd bod Sir y Fflint yn gweithio mewn modd cadarnhaol iawn gyda’r Esgobaeth Gatholig.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y broses yn un llwyddiannus a sefydledig sy’n darparu cefnogaeth a her i ysgolion gan ddarparu ymyrraeth cyn arolwg Estyn.   Cyfeiriodd at yr arolwg Estyn yn 2011 a argymhellodd y dylai aelodau gymryd rhan yn y panel hwn i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa mewn ysgolion, ac roedd swyddogion yn gwerthfawrogi safbwynt Aelodau ar y Panel.    Roedd gan Aelodau a oedd yn llywodraethwyr ysgol brofiad o’u hysgol eu hunain yn ogystal â barn wrthrychol i ofyn cwestiynau i ysgolion a herio swyddogion i sicrhau fod y gefnogaeth gywir yn cael ei darparu.   Roedd y cyfarfodydd rheolaidd yn cynnig cyfle i fonitro cynnydd y cynlluniau cymorth ac amlygu’r effaith ar welliannau.   Awgrymodd y dylai unrhyw aelod a oedd yn awyddus i gymryd rhan yn y panel anfon e-bost ati hi, yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion neu’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu.   Byddai gweithdy’n cael ei drefnu gyda’r aelodau hynny i ddarparu manylion ychwanegol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhelliad cyntaf a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bill Crease.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yr ail argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith a gwblhawyd gan y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion a’r newid o gategorïau cenedlaethol i’r fframwaith gwella ysgolion newydd; a

 

(b)      Bod y Pwyllgor yn cadarnhau’r Aelodau canlynol a fyddai ar gael i gynrychioli'r Pwyllgor yng nghyfarfodydd y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion:-

 

·                     Y Cynghorwyr: Bill Crease, Andrew Parkhurst, Carolyn Preece

ac Arnold Woolley

 

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: