Manylion y penderfyniad

School Reserves Year Ending 31 March 2022

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide the Committee with details of the closing balances held by Flintshire schools at the end of the financial year.

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol, darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Ysgolion) wybodaeth fanwl am lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint yn dilyn effaith y pandemig.  Esboniodd bod yr adroddiad wedi cael ei rannu gyda Phenaethiaid, y Fforwm Cyllideb Ysgolion a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. 

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol wybodaeth fanwl am gronfeydd wrth gefn ysgolion ar draws y tri sector, tynnu sylw at gronfeydd wrth gefn ysgolion unigol a’r tueddiadau dros y 5 mlynedd diwethaf.   Cyfeiriodd at 2020 pan oedd lefelau pryderus o isel o gronfeydd wrth gefn gan ysgolion a dywedodd bod y cynnydd dros y 2 flynedd diwethaf wedi cael ei groesawu.  Digwyddodd hyn ar yr un pryd â chynnydd sylweddol yng nghyllid LlC i ysgolion dros y 2 flynedd diwethaf, ac fe amlinellwyd hyn yn adran 1.03 yr adroddiad.  Roedd gan bob ysgol resymau penodol dros lefelau eu balansau a chynlluniau unigol mewn lle ar gyfer y dyfodol.  Roedd yn rhaid cael cydbwysedd i sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario ar addysg y disgyblion presennol, ac nad oedd symiau gormodol o arian yn cael eu cadw yn ôl heb resymau clir, fel nad oedd yr ysgol yn mynd i ddyled.  Darparodd wybodaeth am rôl y Cyngor o ran monitro cronfeydd wrth gefn ysgolion ac esboniodd bod gofyn i bob ysgol gwblhau ffurflen datgan cronfeydd wrth gefn a Chynllun Tymor Canolig ar gyfer y 3 mlynedd nesaf yn amlinellu cynlluniau’r ysgol.  

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â sicrhau bod tablau’n cael eu cyflwyno yn yr un fformat trwy gydol yr adroddiadau, cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol y byddai’n sicrhau bod hyn yn cael ei newid mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mackie yngl?n â chronfeydd wrth gefn gwirioneddol yn cael eu camliwio oherwydd cyllid grant, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod gwerth y grantiau wedi cael ei dynnu allan o’r cronfeydd wrth gefn y llynedd, ond roedd pethau’n wahanol eleni gan mai un o’r grantiau mwyaf oedd refeniw atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion ac ni chyrhaeddodd tan ddyddiau olaf mis Mawrth a oedd yn golygu na chafodd ysgolion gyfle i wario’r arian hwnnw.  Byddai ysgolion wedi ymdrin â hwn yn wahanol gyda rhai yn ei wario ar unwaith ac eraill yn defnyddio grantiau i ariannu gwaith dros yr haf a olygai bod hwn yn dal i fod yn eu balansau.  Dywedodd bod ei gyflwyno fel hyn yn tynnu sylw at lefel gynyddol yr arian y mae ysgolion wedi’i dderbyn a’r effaith bosibl ar gronfeydd wrth gefn ysgolion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gynyddu treth y cyngor i gynorthwyo â diffygion yng nghyllidebau ysgolion uwchradd, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod swm ychwanegol o gyllid wedi cael ei roi yng nghyllidebau ysgolion uwchradd yn 2020/2021, oherwydd argymhelliad 4 Estyn i fynd i’r afael â diffygion ysgolion uwchradd yn fwy effeithiol.  Roedd hwn y tu allan i fformiwla cyllid uwchradd ac wedi’i dargedu’n benodol at leihau diffygion.  Roedd wedi bod yn effeithiol ond roedd llawer o gyllid grant wedi cael ei ddarparu felly roeddent wedi cydweithio i wella’r sefyllfa ariannol yn yr ysgolion hynny.   Yna darparodd wybodaeth am gyfarfodydd a gynhelir gydag ysgolion yn unol â’r Protocol ar gyfer Ysgolion â Diffygion Ariannol a darparwyd cefnogaeth i ysgolion nad oeddent yn gallu cael cyllideb gytbwys a chynnal cwricwlwm cytbwys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mackie bod hon yn sefyllfa anodd i ysgolion a holodd a oedd y Rheolwr Cyllid Strategol wedi gweld unrhyw resymau penodol pam mae ysgolion uwchradd bach i’w gweld yn cael anhawster.  Mewn ymateb, teimlai’r Rheolwr Cyllid Strategol bod dau ffactor, ond roedd pob ysgol yn wahanol.  Roedd ysgolion bach yn gyfyngedig o ran arweinyddiaeth ac arbedion maint yn enwedig os yw’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu mewn ardal ddifreintiedig gyda theuluoedd mewn tlodi.  Roedd yn cynnal gwaith ymchwil i hyn o ran cyllid a sut oedd tlodi yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol.  Byddai’n trafod hyn yng nghyfarfod y Penaethiaid Uwchradd i weld sut y gellid targedu’r meysydd hyn yn y fformiwla, mwy na’r hyn oedd yno ar hyn o bryd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi lefelau cronfeydd wrth gefn ysgolion ar 31 Mawrth 2022.

 

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 10/10/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: