Manylion y penderfyniad
Economic and Market Update, and Investment Strategy and Manager Summary
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Nododd Mr Harkin y pwyntiau allweddol canlynol:
- Pwysleisiodd y cyfnod anodd i’r holl asedau yn ystor y chwarter hyd at 30 Mehefin 2022 ac eithrio nwyddau oedd wedi perfformio’n gryf. Dros y cyfnod hwn, bu pwysau ar farchnadoedd ecwiti gyda thuedd am i lawr gan fod elw bondiau cynyddol yn golygu fod gwerth presennol enillion y dyfodol wedi gostwng.
- Dros y chwarter, gwelwyd gostyngiad o tua £185 miliwn yng nghyfanswm gwerth y Gronfa ar y farchnad i £2,280.2 miliwn. Roedd yn credu bod asedau’r Gronfa wedi bod yn gryf yn ystod cyfnod anodd oherwydd y strategaeth buddsoddiad amrywiol yn gyffredinol.
- Er hynny, roedd y ffigurau hirdymor ar gyfer perfformiad y Gronfa yn dal yn gryf ar sail gymharol ac roedd y Gronfa wedi cael ei gwarchod drwy’r strategaeth llwybr hedfan drwy amgylcheddau economaidd anodd.
- Yr her fwyaf i’r Gronfa ar hyn o bryd yw pwysau chwyddiant oherwydd bod y gyfradd CPI 12 mis ar gyfer y DU wedi cynyddu i 9.4% ym mis Mehefin 2022. Roedd yn hanfodol sicrhau bod y Gronfa yn cael ei gwarchod, cymaint â phosibl, yn y tymor byr yn erbyn y math hwn o bwysau chwyddiant.
- Y gobaith yw y bydd y syniadau cychwynnol am Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi yn dod gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Tachwedd, ond ar hyn o bryd, roedd gan y Gronfa strategaeth fuddsoddi gadarn.
PENDERFYNWYD:
Nododd y Pwyllgor berfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Mehefin 2022 ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi oedd yn gosod y sefyllfa yn effeithiol.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 31/08/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 31/08/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Dogfennau Atodol: