Manylion y penderfyniad
Housing regeneration grants and loans policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
to ask the Scrutiny Committee to review the
draft refreshed Housing Regeneration Grants and Loans Policy and to
recommend approval to Cabinet.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad i adolygu’r Polisi Grantiau a Benthyciadau Adfywio Tai gan argymell ei gymeradwyo i’r Cabinet. Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith y tîm, yn nodi cyfres o flaenoriaethau a argymhellir ar gyfer y tîm yn y dyfodol, ac yn cynnig y dylai’r Polisi Grantiau a Benthyciadau Sector preifat sydd wedi dyddio gael ei amnewid gydag atodlen syml o grantiau a benthyciadau sydd ar gael i ddeiliaid tai yn Sir y Fflint.
Cyfeiriodd y Rheolwr Menter ac Adfywio at yr ystyriaethau allweddol fel y manylir yn yr adroddiad a thynnodd sylw at y blaenoriaethau fel y nodwyd yn adran 1.13. Roedd yr atodlen presennol o grantiau a benthyciadau gan y gwasanaeth wedi’i atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Gan gyfeirio at yr atodlen o grantiau a benthyciadau ar gael, gofynnodd y Cynghorydd Peers am ragor o wybodaeth ar gyfanswm y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, nifer y grantiau unigol a oedd wedi’u darparu i ymgeiswyr, a manylion ar y broses ymgeisio. Awgrymodd fod angen mwy o wybodaeth er mwyn cynghori unrhyw oedd â diddordeb mewn gwneud cais am fenthyciad neu grant ar sut i wneud cais. Hefyd cododd y Cynghorydd Peers bryderon fod rhai eiddo yn parhau i fod yn wag yn sgil oedi i gael ‘gwarant gwaith’ gan ddatblygwyr tra bo tenantiaid yn cael eu lletya mewn llety dros dro.
Ymatebodd y Rheolwr Menter ac Adfywio at y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Peers ac eglurodd fod cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer benthyciadau gwelliannau tai o hyd at £35,000 mewn amgylchiadau penodol, ar gael i ddeiliaid tai ac i’w dalu yn ôl erbyn 2030. Dywedodd fod gwybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan y Cyngor a hefyd yn cael ei hyrwyddo’n uniongyrchol. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Peers ar y mater o ‘warant gwaith’, rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio sicrwydd fod Swyddogion yn mynd i’r afael â’r mater.
Cynigiodd y Cynghorydd Mared Eastwood yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dan Rose.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith y tîm Adfywio Tai a chefnogi blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol; a
(b) Nodi’r atodlen grantiau a benthyciadau a chefnogi’r broses ar gyfer
addasiad gydag awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Aelod Cabinet
Datblygiad Economaidd a Chefn Gwlad a’r Prif Swyddog
(Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i amrywio’r atodlen wrth i
argaeledd cyllid neu ofynion newid.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 07/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 18/04/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Accompanying Documents: