Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Social & Health Care Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol a dywedodd wrth yr aelodau y byddai adroddiad ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Therapi Galwedigaethol yn cael ei ychwanegu yng nghyfarfod mis Ebrill.  Mae’n bosibl hefyd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Mehefin ar Sut Mae Plant yn Dod i’n System Gofal - Graddfeydd Amrywiol o Ymyrraeth, Credyd Cynhwysol a Phobl Ifanc sy’n Gadael Gofal.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ellis a fyddai modd cael y newyddion diweddaraf am amseroedd aros ar gyfer Asesiadau Therapi Galwedigaethol yng nghyfarfod mis Ebrill.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen a oedd yna broblem cyfathrebu rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ar faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn dioddefwyr a phlant yn eu cartref eu hunain oherwydd trais domestig. Wrth ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu eu bod yn ymwybodol bod Trais Domestig a Cham-drin Domestig yn cael effaith ar oedolion a phlant, ac yn rhan o’u Canolbwynt Cymorth Cynnar sy’n cynnwys 17 asiantaeth, roedd 2 o’r rhain o adran Tai, yn cydweithio ar atgyfeirio ac yn edrych sut y gallent gefnogi plant a theuluoedd yn gynnar. Roedd yna fenter da gyda’r Heddlu o’r enw Ymgyrch ‘Encompass’ oedd yn gwella cyfathrebu rhwng yr Heddlu ac ysgolion pan roedd plentyn mewn perygl o gam-drin domestig.    Pwrpas rhannu gwybodaeth oedd sicrhau bod gan ysgolion fwy o wybodaeth i gefnogi diogelu plant ac i fod mewn sefyllfa well i ddeall os oedd damwain wedi digwydd. Fe awgrymodd bod eitem yn cael ei hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gan fod sawl blwyddyn wedi bod ers i’r Ganolbwynt Cymorth Cyntaf adrodd arno. Fe eglurodd hefyd wrth yr Aelodau am y Triawd Gwenwynig oedd yn ymwneud ag iechyd meddwl, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau. Roedd y Ganolbwynt Cymorth Cyntaf yn gweld llawer o hyn.

 

            Fe ymatebodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) i gwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd yngl?n ag ymweliadau Climbie a dywedodd fod yna argymhelliad flynyddoedd yn ôl yn dilyn marwolaeth plentyn y dylai Aelodau Etholedig allu cael trafodaethau uniongyrchol gyda staff rheng flaen er mwyn iddynt ddeall y materion.  Fe aeth Aelodau Trosolwg a Chraffu i Fflint yn y gorffennol i weld y timau i ofyn cwestiynau, ond fe ddaeth hyn i stop yn ystod y pandemig, serch hynny, gan fod staff bellach yn ôl yn eu swyddfeydd fe fyddai’n syniad da, yn enwedig i Aelodau newydd gyfarfod y staff.

 

            Fe fydd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) yn trafod gyda’r Hwylusydd i roi manylion cyswllt i’r holl Aelodau am yr asiantaethau sy’n ymwneud â Cham-drin Domestig a Chamdriniaeth yr oedd y Cynghorydd Ellis wedi gofyn amdanynt.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Claydon a oedd adrodd rheolaidd yn digwydd am ddelio â cham-drin domestig naill yn y Pwyllgor hwn neu’r Pwyllgor Tai. Cytunodd y Cadeirydd i ofyn i bob Pwyllgor oedd yn adrodd ar y mater i’w gynnwys ar eu rhaglen er mwyn iddynt allu cael mynediad ato. Fe ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) pan fyddai’r eitem yn dod gerbron y Pwyllgor, byddai’r Swyddog sy’n gyfrifol am Drais yn Erbyn Merched a Cham-drin Domestig yn cael gwahoddiad i fynychu i roi trosolwg o’r gwaith oedd yn cael ei wneud.

 

            Cadarnhaodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd fod yr holl eitemau Olrhain Camau Gweithredu wedi cael eu cwblhau.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd David Mackie.       

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: